Cydlynydd Eiddo Gwag
2 weeks ago
**Am Y Gwasanaeth**
Nod Cyngor Caerdydd yw darparu gwasanaeth hygyrch o ansawdd uchel. Mae swydd wag ar gael ar hyn o bryd ar gyfer Cydlynydd Eiddo Gwag yn y Gwasanaethau Landlord o fewn Tai a Chymunedau.
**Am Y Swydd**
Cynnig gwasanaeth cynhwysfawr gyda phwyslais penodol ar
ddarparu gwasanaethau o fewn yr Uned Rheoli Eiddo Gwag, gan gynorthwyo â gweinyddu a
chydlynu achosion tra'n bodloni lefelau uchel o wasanaeth cwsmeriaid.
**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Bydd gennych brofiad o weithio o fewn amgylchedd yn gysylltiedig â gweinyddu a defnyddio technoleg newydd, hefyd safon dda o fewnbynnu data,
Profiad o weithio â chwsmeriaid, contractwyr a darparwyr allanol.
Bydd angen sgiliau cyfathrebu a gofal cwsmeriaid da arnoch a byddwch yn gallu delio ag unrhyw faterion mewn modd cadarnhaol ac adeiladol. Dylech hefyd feddu ar y gallu i weithio fel rhan o dîm a dilyn gweithdrefnau cymhleth.
**Gwybodaeth Ychwanegol**
Mae’r swydd hon yn amodol ar Wiriadau Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Oherwydd y trefniadau gwaith dros dro presennol, ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio na derbyn ffurflenni cais drwy'r post.
Am sgwrs anffurfiol, ar ôl darllen y disgrifiad swydd a’r fanyleb person, cysylltwch â Rhiannon Phillips (02920537398).
Nodwch nad yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau adran gwybodaeth ategol eich cais, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig y mae angen i chi ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:
- Canllaw ar Wneud Cais
- Ymgeisio am swyddi gyda ni
- Fframwaith Cymwyseddau Ymddygiadol
Gwybodaeth Ychwanegol:
- Siarter Cyflogeion
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Hysbysiad Preifatrwydd
Job Reference: PEO03611
-
Arweinydd Tîm Dyraniadau
1 week ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn Strategaeth ac Angen Tai am Arweinydd Tîm Gosod o fewn yr Uned Gosod ac Ailgartrefu **Am Y Swydd** Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn arwain ac yn rheoli’r Tîm Dyraniadau sy’n gyfrifol am ddyrannu tai cymdeithasol y Cyngor i ymgeiswyr ar y Rhestr Aros Tai, gan sicrhau bod llety’r cyngor yn cael...
-
Uwch Bennaeth Adran
2 days ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time**Swydd Wag Fewnol / Allanol** **Teitl y Swydd**:Uwch Bennaeth Adran - Taith y Dysgwr a Dysgu Cynhwysol** **Contract**:Llawn Amser, Parhaol** **Cyflo: £59,888 y flwyddyn** **Oriau**: 37 awr yr wythnos** **Lleoliad**:Caerdydd a'r Fro** Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn chwilio am Uwch Bennaeth Adran ar gyfer ein hadrannau Taith y Dysgwr a Dysgu Cynhwysol....
-
Hyfforddwr Dyfodol
7 days ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time**Swydd Wag Fewnol / Allanol** **Cyf**:11907** **Teitl y Swydd**:Hyfforddwr Dyfodol** **Nifer y swyddi: 2** **Contract: Llawn Amser 1.0 cyfwerth â llawn amser - Tymor Penodol tan Gorffennaf 2023** **Oriau: 37** **Cyflog: £25,565 - £27,747 pro rata** Rydym yn chwilio am aelod o staff profiadol a brwdfrydig i ymuno â’r Tîm Gwasanaethau Myfyrwyr....