Partner Cyswllt Ac Ysgrifennydd Grwp Nfu Cymru

2 weeks ago


Carmarthen, United Kingdom Appcastenterprise Full time

**Cyfle fel Asiant NFU Mutual yng Nghaerfyrddin**

**Busnes ffyniannus gyda threftadaeth a chyfle i dyfu yn y dyfodol**

Fel Partner o fewn Asiantaeth Ganolog Sir Gaerfyrddin, mi fydd gennych gyfle unigryw i redeg a datblygu busnes yswiriant sydd eisoes yn un llwyddiannus mewn partneriaeth â’r Asiantau presennol.

Mae gan yr asiantaeth, sy’n enw cyfarwydd ac yn uchel ei pharch yn y gymuned fusnes leol, lawer o gwsmeriaid ffyddlon ac mae’n darparu gwasanaethau i gymysgedd deniadol o fusnesau o fewn a’r tu allan i’r sector ffermio. Mae’r asiantaeth wedi tyfu’n gysonac mae wedi adeiladu ar y llwyddiant hwn, a dyma yw eich cyfle i hybu twf newydd y busnes mewn marchnadoedd targed amrywiol, sy’n ymestyn y tu hwnt i’r gymuned ffermio.

Mae hwn yn dîm sy’n rhoi’r cwsmeriaid yng nghalon popeth mae’n ei wneud. Dyna sy’n sail i enw da’r asiantaeth. Gan arwain o’r blaen, mi fydd gwnnych rôl allweddol o feithrin perthnasoedd â chwsmeriaid presennol yn ogystal â datblygu rhai newydd. O ddyddi ddydd, mi fyddwch yn gyfrifol am symbylu, cefnogi a datblygu eich tîm i gyflawni canlyniadau rhagorol dro ar ôl tro ac ar yr un pryd mi fyddwch hefyd yn gyfrifol am ddatblygu eich perfformiad gwerthu eich hun, gan wneud cyfraniad gwerthfawr at gyflawni uchelgaisy gangen i dyfu.

**Amdanoch Chi**

Rydych eisoes yn bennaeth arnoch eich hun, ac rydych yn awchu am y cyfle i lunio cynlluniau busnes a datblygu strategaethau sy’n darparu gwasanaeth proffesiynol a phersonol i amrywiaeth eang o gwsmeriaid.

Rydych yn gyfathrebwr rhagorol, rydych yn dda â phobl o bob math o gefndiroedd, o berchnogion ffermydd i brif swyddogion gweithredol. Bydd eich penderfyniad i gael canlyniadau da a’ch ymrwymiad i ofal cwsmeriaid yn ysbrydoli eraill i ddilyn eich esiampl.

Gydag agwedd gydweithredol, bositif a chefnogol, mi wyddoch sut i recriwtio, gwobrwyo a datblygu eraill i ddarparu gwasanaeth personol gan sicrhau cydymffurfiaeth â’r holl reoliadau a safonau perthnasol.

Er y byddai’n fuddiol meddu ar wybodaeth am yswiriant neu wasanaethau ariannol, daw ein Hasiantau presennol o amrywiaeth eang o gefndiroedd. Yr hyn sy’n bwysig yw eich doniau masnachol, eich talent i feithrin perthnasoedd a’ch sgiliau pobl greddfol i gyd-redegbusnes a reoleiddir o dan frand uchel ei barch NFU Mutual.

O gofio’r rôl ychwanegol fel Ysgrifennydd Grwp NFU Cymru, bydd diddordeb byw mewn amaethyddiaeth a materion gwledig yn gaffaeliad mawr.

**Ysgrifennydd Grwp NFU Cymru**

Ers dros 110 o flynyddoedd, mae NFU Cymru a NFU Mutual wedi mwynhau perthynas agos, gan weithio â’i gilydd i ddarparu gwasanaeth o’r radd flaenaf i’r gymuned ffermio a gwledig ehangach.

Wrth gyfuno eich dyletswyddau fel Ysgrifennydd Grwp â’ch gwaith fel Asiant i NFU Mutual, mi gewch gyfle i ganfod ac i fanteisio ar gyfleoedd i sicrhau busnes newydd ac i gyflwyno’r hyn sydd gan NFU Cymru a NFU Mutual i’w gynnig i gynulleidfa ehangach. Maecysylltiad anhepgor rhwng y ddwy rôl.

**Gwobrwyon a Buddiannau**

Fel Asiant hunangyflogedig, dylech ddisgwyl ennill hyd at £40k yn eich blwyddyn gyntaf, gyda rhagolygon gwirioneddol i gynyddu eich enillion yn unol â thwf yr asiantaeth. Eich brwdfrydedd, eich gweledigaeth a’r uchelgais bersonol yw’r unig beth all gyfynguar eich enillion posibl yn y blynyddoedd i ddod.

Mae’r cyfle hunangyflogaeth unigryw hwn yn rhoi’r rhyddid i chi i redeg busnes presennol gyda chefnogaeth sefydliad mawr, sydd ag enw da a’r rhyddid o fod yn bennaeth arnoch eich hun.

Yn ogystal â chymorth buddsoddi, mi fydd gennych fynediad at ystod lawn o gyrsiau yn ein Hacademi Hyfforddi bwrpasol, sy’n cynnwys gwerthu, cynllunio busnes ac ariannol, recriwtio tîm a chynnyrch NFU Mutual. Byddwn hefyd yn eich helpu i gael ardystiad ySefydliad Yswiriant Siartredig.

**Rhwydwaith Asiantaethau NFU Mutual**

Mae NFU Mutual yn fusnes gwasanaethau yswiriant ac ariannol sydd wedi ennill gwobrau ac sy’n cynnig cynnyrch a gwasanaethau o safon uchel i amrywiaeth o gwsmeriaid, o ddeiliaid polisi unigol i fusnesau mawr.

Rydym yn ymfalchïo yn ein Rhwydwaith Asiantaethau NFU Mutual sy’n cynnwys dros 250 o asiantaethau ledled y DU. Mae ein hasiantaethau’n cael eu rhedeg gan Asiantau hunangyflogedig sy’n mwynhau cyfle unigryw i adeiladu, arwain a thyfu busnesau lleol llwyddiannus,a hynny fel arfer mewn partneriaeth ag un neu ragor o Asiantau eraill.

Drwy ein gwasanaeth personol eithriadol a’n cyngor gonest, rydym yn datblygu perthnasoedd hirhoedlog â’n cwsmeriaid ac yn cadw 95% o’n busnes bob blwyddyn, ar gyfartaledd.

**A hoffech wybod mwy?**

Os hoffech ddysgu mwy am y rôl hon fel Partner hunangyflogedig gyda Rhwydwaith Asiantaethau NFU Mutual, cysylltwch â

Stephan Papantoniou. E-bost:Ffôn:
Neu Rosie Cund. E-bost:Ffôn:



  • Carmarthen, United Kingdom S4C Full time

    _This is an advertisement for a Diversity, Sustainability and Social Purpose Lead for which the ability to communicate to a good standard in Welsh and English orally and in writing is essential to this role. Support is available to provide Welsh language refresher courses or to build confidence if necessary._ - Please refer to the Welsh advert for further...


  • Carmarthen, United Kingdom Papyrus Prevention of Young Suicide Full time

    Swyddog Datblygu Cymunedol-Cymru   Rydym am recriwtio Swyddog Datblygu Cymunedol dwyieithog yng Nghymru. Bydd y rôl hon yn ymgysylltu â phartneriaid a rhanddeiliaid allweddol, gan ddarparu cymorth, hyfforddiant ac addysg wedi'u teilwra i greu cymunedau mwy diogel o ran hunanladdiad. Bydd ffocws cychwynnol y gwaith hwn yn Sir Gaerfyrddin.   Yr hyn...


  • Carmarthen, Carmarthenshire, United Kingdom Papyrus Prevention of Young Suicide Full time

    Swyddog Datblygu Cymunedol-Cymru Rydym am recriwtio Swyddog Datblygu Cymunedol dwyieithog yng Nghymru. Bydd y rôl hon yn ymgysylltu â phartneriaid a rhanddeiliaid allweddol, gan ddarparu cymorth, hyfforddiant ac addysg wedi'u teilwra i greu cymunedau mwy diogel o ran hunanladdiad. Bydd ffocws cychwynnol y gwaith hwn yn Sir Gaerfyrddin. Yr hyn y byddwch yn...


  • Carmarthen, United Kingdom S4C Full time

    Mae Newyddion S4C yn wasanaeth newyddion digidol sydd yn dod a'r newyddion diweddaraf i gynulleidfa Gymraeg.Y nod yw cyrraedd a gwasanaethu cynulleidfa ehangach na'r rhai sy'n gwylio newyddion ar deledu, a hynny ar ffurf fideo a thestun, pryd bynnag a lle bynnag maen nhw eisiau. Dyma gyfle unigryw i fod yn rhan o wasanaeth fydd yn siapio hinsawdd...

  • Case Administrator

    5 days ago


    Carmarthen, United Kingdom HM Prison & Probation Service Full time

    **Details**: **Reference number**: - 345862**Salary**: - £20,126 - £24,225- A Civil Service Pension with an average employer contribution of 27%**Job grade**: - Other- NPS Pay Band 2 National**Contract type**: - Permanent**Type of role**: - Administration / Corporate Support**Working pattern**: - Flexible working, Full-time, Job share,...

  • Case Administrator

    5 days ago


    Carmarthen, United Kingdom Ministry of Justice Full time

    Salary 1 - £20,126 - £24,225 Number of jobs available 1 - 1 Detail of reserve list 1 - 12 Months Region 1 - Wales City/Town 1 - Carmarthen Building/Site 1 - NPS 7A-7B WATER STREET CARMARTHEN, SA31 1PY Grade 1 - Other Organisation Grade for HMPPS 1 - NPS Pay Band 2 National Post Type 1 - Permanent Working Pattern 1 - Full Time, Part Time, Part...