Arweinydd Amrywiaeth, Cynaliadwyedd a Phwrpas

1 month ago


Carmarthen, United Kingdom S4C Full time

_This is an advertisement for a Diversity, Sustainability and Social Purpose Lead for which the ability to communicate to a good standard in Welsh and English orally and in writing is essential to this role. Support is available to provide Welsh language refresher courses or to build confidence if necessary._
- Please refer to the Welsh advert for further details_

Mae S4C yn chwilio am Arweinydd Amrywiaeth, Cynaliadwyedd a Phwrpas Cymdeithasol i arwain strategaeth uchelgeisiol i drawsnewid y ffordd mae S4C a’r sector yn cynrychioli ac yn adlewyrchu Cymru. Byddwch yn gyswllt gweithgar gyda’r cymunedau sy’n cael eu tangynrychioli yn y sector ac ar y sgrin - yn benodol pobl ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (BAME), pobl anabl, pobl o gymunedau di-freintiedig a phobl LHDTC+.

Byddwch hefyd yn gyfrifol am reoli rhaglen Amgylcheddol, Gymdeithasol a Llywodraethu (‘ACLl/ESG’) cyffredinol S4C. Byddwch yn mapio ac yn gweithredu strategaeth i reoli a gwella rheolaeth y sefydliad ar bynciau ACLl/ESG. O fewn cylch gorchwyl y gwaith yma byddwch yn arwain ar faterion amgylcheddol, wrth gydlynu gyda rhanddeiliaid a thimoedd eraill yn S4C i adnabod ffyrdd o wella ein harferion a’n gweithgareddau mewn perthynas â materion amgylcheddol a chynaladwyedd (sustainability).

Mae hon yn rôl newydd fydd yn llywio ymrwymiad S4C i adlewyrchu Cymru heddiw ac yn sicrhau fod S4C yn parhau i ddatblygu ei strategaeth a’i pholisïau i gyfrannu at ffyniant cymdeithasol Cymru ac yn ymateb i gyfleoedd a heriau arbennig. Bydd y rôl hon yn gofyn i chi weithio gyda thimoedd S4C yn gyffredinol a gyda'n rhanddeiliaid allweddol a'n partneriaid ledled Cymru. Bydd y swydd â chyfrifoldeb i weithredu fel bod y sector sgrin yn gynhwysol a chynrychioladol, yn sicrhau lles y sawl sy’n gweithio ynddo ac i sicrhau bod ein cynnwys yn cael ei greu gyda’r ôl-troed carbon isaf er mwyn gwarchod yr amgylchedd ar gyfer y dyfodol. Mae S4C ar gyfer pawb, a bydd y rôl hon yn gweithredu a gwireddu’r nôd hwn a chreu budd cymdeithasol gan adlewyrchu Cymru.

Mae’r gallu i gyfathrebu i safon dda yn Gymraeg ac yn Saesneg ar lafar ac yn ysgrifenedig yn hanfodol i’r rôl yma. Mae cefnogaeth ar gael i ddarparu cyrsiau gloywi iaith Gymraeg neu i fagu hyder os oes angen.

**Manylion Swydd**

**Lleoliad**:Lleoliad arferol eich gwaith fydd Canolfan S4C yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ. Mae gan S4C swyddfeydd yng Nghaerfyrddin, Caerdydd a Chaernarfon ac maent yn gweithredu polisi gweithio'n hybrid. Disgwylir i chi deithio i le bynnag y bydd S4C yn rhesymol yn ei orchymyn.

**Cyflog**:Yn unol â phrofiad

**Cytundeb**:Parhaol

**Oriau Gwaith**:35¾ yr wythnos. Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.

**Cyfnod Prawf**:6 mis

**Gwyliau**:Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn.

**Pensiwn**:Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o'ch cyflog sylfaenol i'r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.

**Ceisiadau**

Nid ydym yn derbyn CV.

Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

**Job Types**: Full-time, Permanent

Schedule:

- Monday to Friday

Work Location: Hybrid remote in CARMARTHEN

Application deadline: 14/02/2023