Gweithiwr Cymorth Cymheiriaid

2 months ago

Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

**Amdanom ni**

Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â'n Tîm Iechyd Meddwl Ardal Leol fel Gweithiwr Cymorth Cymheiriaid (GCC). Mae Gweithwyr Cymorth Cymheiriaid yn rhoi cymorth ac anogaeth i bobl sy'n profi anawsterau iechyd meddwl. Y rhinwedd unigryw y mae Gweithwyr Cymorth Cymheiriaid yn ei gynnig i'r tîm yw'r gallu i dynnu'n uniongyrchol ar eu profiadau eu hunain o anawsterau iechyd meddwl ac adfer, sy’n gofyn am ddull medrus o ymdrin â ffiniau rhyngbersonol. Gall Gweithwyr Cymorth Cymheiriaid ddefnyddio eu profiad eu hunain i weithio ar y cyd â rhywun sy'n wynebu anawsterau iechyd meddwl tebyg mewn modd ysbrydoledig sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, gyda'r nod o hyrwyddo adferiad a gobaith gyda'r person a'i daith.

Hoffem glywed gan unigolion sydd wedi cael triniaeth o dan wasanaethau iechyd meddwl eilaidd fel rhan o'u taith adfer, i rannu eu gwybodaeth ar draws y tîm a gyda phobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth.

Mae Tîm Iechyd Meddwl Ardal Leol Bro Morgannwg yn wasanaeth integredig sy'n cael ei redeg rhwng yr awdurdod iechyd a'r awdurdod lleol, sy'n darparu gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd i boblogaeth Bro Morgannwg.

O fewn y tîm hwnnw, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhan o'r gwasanaeth gweithwyr cymorth cymunedol. Mae'r gwasanaeth hwn yn cefnogi trigolion yng Ngerddi St Michael, sy'n brosiect tai â chymorth symud ymlaen; maent hefyd yn cynnig cymorth yn y gymuned i bobl sy'n derbyn gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd trwy grwpiau ac ar sail unigol, gan ddefnyddio'r broses sêr adfer i ysgogi adferiad a chynorthwyo'r unigolyn i gyflawni ei ganlyniadau unigol.

**Ynglŷn â'r rôl**

Manylion Tâl: Tâl Gradd 5, PCG 8-12, £22,777 - £24,496.

Oriau Gwaith / Patrwm Gwaith: 25 awr.

Prif Weithle: Tîm Iechyd Meddwl Ardal y Fro. Ysbyty’r Barri.

**Disgrifiad**:Cefnogi defnyddwyr gwasanaeth i sefydlu mwy o reolaeth dros eu bywydau, gan helpu i adnabod agweddau ar fywyd sy'n rhoi ystyr, gobaith, gwerth a phwrpas gan gydnabod bod adferiad pob unigolyn yn broses unigryw a phersonol iawn.

**Amdanat ti**

Bydd angen y canlynol arnoch:

- Profiad o dderbyn gofal a thriniaeth o dan wasanaethau iechyd meddwl eilaidd/ rhan II o Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010.
- Yn barod i rannu eu profiadau bywyd eu hunain, gan ganolbwyntio ar obaith ac adferiad.
- Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar da.
- Sgiliau TG da, gan gynnwys Word ac Outlook.
- Synnwyr cyffredin ymarferol.
- Sgiliau trefnu da.
- Sgiliau cyfathrebu da.
- Sgiliau gwrando da.
- Sgiliau rheoli amser da.
- Y gallu i gydymffurfio â chynlluniau rheoli dinasyddion yn briodol.
- Y gallu i weithio yn unol ag amcanion, polisïau a gweithdrefnau y cytunwyd arnynt heb oruchwyliaeth uniongyrchol bob dydd.
- Y gallu i ymateb i sefyllfa o argyfwng.
- Y gallu i weithio o'ch pen a'ch pastwn eich hun.
- Parodrwydd i ymgymryd â hyfforddiant priodol fel rhan o ddatblygiad gyrfaol.
- Amynedd.
- Goddefgarwch.
- Agwedd ofalgar.
- Agwedd gadarnhaol.
- Sensitifrwydd.
- Yn gallu gweithio fel rhan o dîm.
- Parchu cyfrinachedd cleientiaid.
- Gallu gyrru / teithio ledled y Fro neu rhwng lleoliadau fel y bo’n briodol.
- Trwydded yrru lawn ddilys a char gydag yswiriant priodol.

**Gwybodaeth Ychwanegol**

Oes angen gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG): Oes.

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â: Noel Martinez-Walsh neu Roisin Budina. Tîm Iechyd Meddwl Ardal y Fro. Ysbyty’r Barri. Colcot Road. Y Barri. CF62 8YH. Rhif Ffôn 01446 454300.

Gweler y disgrifiad swydd / manyleb person atodedig i gael rhagor o wybodaeth.

Job Reference: SS00666

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Gwasanaeth Ieuenctid y Fro yn cefnogi pobl ifanc rhwng 11 a 25 oed. Mae’r swydd hon yn rhan o’r tîm Cynhwysol, yn cynnig cwricwlwm amrywiol o weithgareddau a phrosiectau ieuenctid mewn ysgolion, y gymuned a'r awyr agored wrth ddiwallu anghenion a diddordebau pobl ifanc ym Mro Morgannwg. **Ynglŷn â'r rôl** Manylion Cyflog ar gyfer...

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Derw Newydd yn cefnogi dysgwyr 3-16 oed sydd ag anawsterau iechyd cymdeithasol, emosiynol a/neu feddyliol. Mae Derw Newydd yn rhan o Ysgol Arbennig Ysgol y Deri. Yn wreiddiol, bydd y swydd hon wedi'i lleoli yn Fferm Ymddiriedolaeth Amelia a Cowbridge Court House, sy'n symud i ddarpariaeth bwrpasol yn y Barri. Dyma gyfle cyffrous i ymuno...

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Derw Newydd yn cefnogi dysgwyr 11-16 oed sydd ag anawsterau iechyd cymdeithasol, emosiynol a/neu feddyliol. Mae Derw Newydd yn rhan o Ysgol Arbennig Ysgol y Deri. Yn wreiddiol, bydd y swydd hon wedi'i lleoli yn Fferm Ymddiriedolaeth Amelia a Cowbridge Court House, sy'n symud i ddarpariaeth bwrpasol yn y Barri. Dyma gyfle cyffrous i ymuno...

    **Amdanom ni** Mae Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Bro Morgannwg yn ceisio rhoi pobl wrth galon eu gofal eu hunain, ni waeth pam mae angen cymorth gofal cymdeithasol arnynt. Rydyn ni am gynnig yr help iawn i bobl ar yr amser iawn i'w helpu i fod yn hapus, yn ddiogel a chael y cyfleoedd gorau mewn bywyd. O fewn Bro Morgannwg gall ymarferwyr wneud...

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Gwasanaeth Ieuenctid y Fro wedi ymrwymo i sicrhau bod pobl ifanc yn rhan o bob agwedd o'i ddarpariaeth gwasanaethau. Gan weithio fel rhan o'r tîm cyffredinol, rydym am recriwtio gweithiwr cyfranogi a all gefnogi datblygiad ein cynnig cyfranogi. Mae Gwasanaeth Ieuenctid y Fro yn cynnig cyfleoedd anffurfiol i bobl ifanc 11-25 oed ar draws...

    **Amdanom ni** Yn dilyn buddsoddiad sylweddol i'n Tîm Derbyn, a'n Timau Cymorth i Deuluoedd, rydym yn ceisio ychwanegu capasiti ac adeiladu gwytnwch a sefydlogrwydd. Fel Gweithiwr Cymdeithasol ym Mro Morgannwg, bydd gennych lwyth gwaith hylaw, cefnogaeth ragorol ac amser i'w dreulio gyda phlant a phobl ifanc. Rydym hefyd yn datblygu ein gwasanaethau i...

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Tîm Adnoddau Cymunedol y Fro yn wasanaeth integredig sy'n cael ei redeg gan Gyngor Bro Morgannwg a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Rydym yn darparu cefnogaeth a / neu therapi tymor byr i bobl sy'n byw yn eu cartref eu hunain pan gânt eu rhyddhau o'r ysbyty gyntaf neu er mwyn eu hatal rhag cael eu derbyn i'r ysbyty. Ein nod yw...

    **Amdanom ni** Mae Gwasanaeth Ieuenctid y Fro yn cynnig cyfleoedd anffurfiol i bobl ifanc 11-25 oed ledled Bro Morgannwg i'w helpu i gyflawni eu potensial llawn. Rydym yn darparu amgylcheddau diogel i bobl ifanc fwynhau eu hunain a chwrdd ag eraill; teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi; cael gwybodaeth a chymorth; a dysgu sgiliau newydd. **Ynglŷn â'r...

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Gwasanaeth Ieuenctid y Fro yn cefnogi pobl ifanc rhwng 11 a 25 oed. Mae’r swydd hon yn rhan o’r tîm Cynhwysol, yn cynnig cwricwlwm amrywiol o weithgareddau a phrosiectau ieuenctid mewn ysgolion, y gymuned a'r awyr agored wrth ddiwallu anghenion a diddordebau pobl ifanc ym Mro Morgannwg. **Ynglŷn â'r rôl** Manylion Tâl: Pwynt...

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Gwasanaeth Ieuenctid y Fro yn cefnogi pobl ifanc rhwng 11 a 25 oed. Mae’r swydd hon yn rhan o’r tîm Cynhwysol, yn cynnig cwricwlwm amrywiol o weithgareddau a phrosiectau ieuenctid mewn ysgolion, y gymuned a'r awyr agored wrth ddiwallu anghenion a diddordebau pobl ifanc ym Mro Morgannwg. **Ynglŷn â'r rôl** Manylion Tâl: Pwynt...

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Gwasanaeth Ieuenctid y Fro yn cefnogi pobl ifanc rhwng 11 a 25 oed. Mae’r swydd hon yn rhan o’r tîm Cynhwysol, yn cynnig cwricwlwm amrywiol o weithgareddau a phrosiectau ieuenctid mewn ysgolion, y gymuned a'r awyr agored wrth ddiwallu anghenion a diddordebau pobl ifanc ym Mro Morgannwg. **Ynglŷn â'r rôl** Manylion Tâl: Pwynt...

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Tîm Adnoddau Cymunedol y Fro yn wasanaeth integredig sy'n cael ei redeg gan Gyngor Bro Morgannwg a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Rydym yn darparu cefnogaeth a / neu therapi tymor byr i bobl sy'n byw yn eu cartref eu hunain pan gânt eu rhyddhau o'r ysbyty gyntaf neu er mwyn eu hatal rhag cael eu derbyn i'r ysbyty. Ein nod yw...

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Bro Morgannwg yn ceisio rhoi pobl wrth galon eu gofal eu hunain, ni waeth pam mae angen cymorth gofal cymdeithasol arnynt. Rydyn ni am gynnig yr help iawn i bobl ar yr amser iawn i'w helpu i fod yn hapus, yn ddiogel a chael y cyfleoedd gorau mewn bywyd. O fewn Bro Morgannwg gall ymarferwyr wneud gwahaniaeth...

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Yn y Gwasanaeth Dydd Anabledd Dysgu, rydym yn cefnogi oedolion gydag anableddau dysgu a all fod ag anghenion cymhleth hefyd i fanteisio ar amrywiaeth o gyfleoedd dydd, a all fod yn waith, gwirfoddoli, neu wedi eu seilio ar addysg a hamdden. Rydym yn cynnig cymorth sy’n canolbwyntio ar y person er mwyn gwneud yn fawr o botensial, cynyddu...

    **Amdanom ni** Yn y Gwasanaeth Dydd Anabledd Dysgu, rydym yn cefnogi oedolion gydag anableddau dysgu a all fod ag anghenion cymhleth hefyd i fanteisio ar amrywiaeth o gyfleoedd dydd, a all fod yn waith, gwirfoddoli, neu wedi eu seilio ar addysg a hamdden. Rydym yn cynnig cymorth sy’n canolbwyntio ar y person er mwyn gwneud yn fawr o botensial,...