Swyddog Gwella Gwasanaethau a RHeoli Gwybodaeth

7 days ago


Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time
**Am Y Gwasanaeth**
Mae Rhentu Doeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i landlordiaid gofrestru a sicrhau trwydded neu gyflogi asiant trwyddedig ar eu rhan i gyflawni tasgau gosod a rheoli eiddo. Mae Cyngor Caerdydd wedi'i ddynodi fel yr awdurdod trwyddedu sengl i weinyddu'r ddeddfwriaeth hon yng Nghymru.

Sefydlwyd y gwasanaeth ym mis Tachwedd 2015. Ymysg manteision y gwasanaeth mae gwe-systemau a ddyluniwyd ar gyfer y cwsmer, technoleg ffôn canolfannau cyswllt, trefniadau partneriaeth gyda 22 awdurdod lleol Cymru, a chymorth gan ymgyrch farchnata gynhwysfawr a arweinir gan Lywodraeth Cymru.

**Am Y Swydd**
Rôl y Swyddog Gwella Gwasanaethau a Rheoli Gwybodaeth yw arwain y gwaith o ymdrin â chwynion cwsmeriaid, gan ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid o ansawdd uchel wrth ymchwilio a datrys unrhyw faterion sy'n codi. Yna byddant yn argymell ac yn gweithredu prosesau a gweithdrefnau newydd er mwyn sicrhau bod unrhyw feysydd gwella a nodir drwy ymateb i gŵyn yn cael eu datrys, gan sicrhau'r profiad gorau posibl i gwsmeriaid.

Ochr yn ochr â hyn, bydd y Swyddog Gwella Gwasanaethau a Rheoli Gwybodaeth yn gyfrifol am weithio'n agos gyda thîm rheoli Rhentu Doeth Cymru a'r Tîm Llywodraethu Gwybodaeth er mwyn sicrhau gwelliannau i wasanaethau a sicrhau bod rhwymedigaethau cyfreithiol yn cael eu cyflawni.

Byddant hefyd yn ymchwilio i ymholiadau aelodau, achosion ombwdsmon, ceisiadau am fynediad i destun data ac yn ymateb iddynt, ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth, oll wrth sicrhau bod ymatebion priodol yn cael eu cyhoeddi o fewn terfynau amser.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig ac ymroddedig iawn sy'n gallu ymchwilio i setiau cymhleth o wybodaeth, gan gynnwys hanes achosion, deddfwriaeth ac adroddiadau ystadegol, dod i gasgliadau, a'u cyfleu'n effeithiol i ystod eang o randdeiliaid mewn fformat ysgrifenedig a llafar.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig ac ymroddedig iawn sy'n gallu ymchwilio i setiau cymhleth o wybodaeth, gan gynnwys hanes achosion, deddfwriaeth ac adroddiadau ystadegol, dod i gasgliadau, a'u cyfleu'n effeithiol i ystod eang o randdeiliaid mewn fformat ysgrifenedig a llafar.

Gwybodaeth ychwanegol
Gan fod y rôl hon yn hanfodol i lwyddiant Rhentu Doeth Cymru, dyddiad dechrau'r swydd yw cyn gynted â phosibl.

Mae'r swydd hon yn addas i'w rhannu.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Oherwydd y trefniadau gwaith dros dro presennol, ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio na derbyn ffurflenni cais drwy'r post.

Nid yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau'r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: RES00999

  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth**Mae gan Dîm Comisiynu Gwasanaethau Oedolion Cyngor Caerdydd rôl allweddol wrth brynu gwasanaethau a rheoli a monitro'r gwasanaethau sy'n cefnogi oedolion ag anghenion Gofal Cymdeithasol yn gyffredinol, ar draws swyddogaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol. Ar hyn o bryd mae'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn prynu gwerth tua £140 miliwn o...


  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth**Mae Cyngor Caerdydd yn ceisio darparu gwasanaeth cyllid tai hygyrch o ansawdd uchel. Ar hyn o bryd mae gan y Gwasanaeth swydd wag lawn amser ar gyfer Swyddog Rheoli Dyledion Gradd 5 yn y Tîm Cyllid Tai.**Am Y Swydd**Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am adennill dyledion gan gynnwys gordaliadau budd-dal tai, dyledion...


  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth**Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymroddedig sydd â sgiliau TG rhagorol i ymuno â'r Tîm Trawsnewid Digidol fel Swyddog Cymorth Trawsnewid Digidol.**Am Y Swydd**Bydd y Swyddog Cymorth Trawsnewid Digidol yn gyfrifol am oruchwylio tîm o Swyddogion Cymorth Systemau sy'n gyfrifol am ddatblygu a rheoli technolegau newydd yn effeithiol,...


  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth**Mae'r Gyfarwyddiaeth Adnoddau yn gyfrifol am ystod eang o wasanaethau corfforaethol, gan wasanaethu'r cyngor cyfan, ac mae'n chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o gefnogi'r Cyfarwyddiaethau gweithredol wrth ddarparu eu gwasanaethau.Mae'r Adran Llywodraethu Gwybodaeth wedi'i lleoli o fewn y Gyfarwyddiaeth Adnoddau ac mae'n cefnogi...


  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth**Ar hyn o bryd mae Gwasanaethau Ystâd yn chwilio am unigolyn diwyd a phrofiadol i ymuno â'n Tîm Gwasanaethau Gofalu fel Rheolwr Gofalu y Gwasanaethau Adeiladau. Yn y rôl hon, byddwch yn arwain ein tîm i ddarparu gwasanaethau glanhau a gofalu rhagorol ar gyfer blociau o fflatiau ac adeiladau yng Nghaerdydd.**Am Y Swydd**Fel Rheolwr...

  • Uwch Swyddog Polisi

    7 days ago


    Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth**Mae'r rôl Uwch Swyddog Polisi hwn wedi'i leoli ar draws ein Tîm Diogelu Strategol yng Nghyngor Caerdydd.Mae'r tîm Diogelu Strategol yn bodoli i hwyluso cydweithio ar draws adrannau a'r ddinas i gyflawni ein blaenoriaethau diogelu, i ddarparu llwyfan ar gyfer arloesi drwy gyflawni prosiectau gwella â blaenoriaeth, i nodi a rhannu arfer...

  • Swyddog Cyswllt

    7 days ago


    Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth**Mae cyfle cyffrous wedi codi yn y Gwasanaeth Cymunedau a Thai ar gyfer Swyddog Cyswllt o fewn y Gwasanaethau Byw'n Annibynnol.Mae'r Gwasanaethau Byw'n Annibynnol yn cynorthwyo oedolion sy'n agored i niwed i fyw yn annibynnol gartref a bod yn gysylltiedig yn eu cymunedau eu hunain trwy wybodaeth, cyngor a chefnogaeth wedi'i theilwra - gan...


  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth**Caerdydd yw un o'r dinasoedd sy'n tyfu gyflymaf yng ngwledydd Prydain ac mae'n ymrwymedig i ddod yn '_Ddinas sy'n Dda i Blant_' sy'n rhoi hawliau plant a phobl ifanc wrth wraidd ein polisïau a'n strategaethau. Rhieni sy'n cael y dylanwad mwyaf ar blant a'u dyfodol. Yn ein barn ni, mae plant yn cyflawni'r canlyniadau gorau pan gânt eu...


  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth**Mae'r adran TGCh yn rhan o Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cwsmeriaid a Digidol y Cyngor.Prif swyddogaethau'r adran yw:- darparu systemau a chymorth TG o safon uchel, a chynnal a chadw'r systemau TG, ym mhob rhan o'r sefydliad- rhoi cyngor ac arweiniad strategol i'r gwasanaethau a'u cyfarwyddiaethau- cyfrannu at y gwaith o gyflawni ymgyrch...


  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth**Mae uned Gwasanaethau 24/7 Cyngor Caerdydd yn gartref i Ganolfan Derbyn Larymau Categori 2, sydd wedi'i hachredu gan ISO a'r Bwrdd Archwiliadau Systemau a Larymau Diogelwch (BASLD) / ystafell reoli Teledu Cylch Cyfyng (CCTV) sy'n defnyddio detholiad o dechnoleg i sefydlu trawsyriant gyda safleoedd ledled y ddinas ac yn genedlaethol.Mae'r...


  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth**Mae Gwasanaethau Rhianta Caerdydd yn cael eu harwain yn strategol gan Uwch Seicolegydd Addysg ac yn cynnwys timau sy'n darparu rhaglenni rhianta grwp ac unigol ac ymyriadau. Mae Gwasanaethau Rhianta Caerdydd yn rhan o Cymorth Cynnar Caerdydd.Mae Rhieni yn Gyntaf yn wasanaeth rhianta a arweinir gan seicoleg o fewn Cymorth Cynnar Caerdydd....


  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth**Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymrwymedig ymuno â'n tîm deinamig. Yn gweithio yn y Tîm Datblygu a Gwella Gwasanaeth yn yr adran Tai a Chymunedau, mae'r Swyddogion Datblygu a Gwella Gwasanaeth yn gyfrifol am ddatblygu, gweithredu a monitro polisïau, gweithdrefnau a phrosesau Tai.**Am Y Swydd**Bydd gennych rôl flaenllaw yn y...


  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth**Mae cyfle cyffrous wedi dod ar gael yng Nghyngor Caerdydd ac rydym yn recriwtio ar gyfer Swyddog Cymorth i helpu i reoli Systemau Trafnidiaeth Deallus. Defnyddir y rhain fwyfwy i ddatrys problemau trafnidiaeth heddiw. Mae'r systemau hyn yn defnyddio gwybodaeth a thechnoleg gyfathrebu newydd i sicrhau bod y rhwydwaith trafnidiaeth mor...


  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth**Mae hon yn swydd newydd sbon - a ddatblygwyd er mwyn creu rhywfaint o gapasiti ymroddedig ac arbenigol o ran ymgysylltu â darparwyr a siapio a rheoli'r farchnad yn y sectorau Gofal Cartref a Chartref Gofal allanol yng Nghaerdydd.**Am Y Swydd**Deall gwybodaeth darparwyr am y farchnad a thueddiadau; deall y strwythur a'r capasiti sydd ar...


  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth**Mae'r Gwasanaeth Cyngor i Mewn i Waith yn rhoi cymorth i bobl sydd wrthi'n chwilio am waith neu'n ceisio gwella eu sgiliau. Mae'r tîm yn gallu cynnig cymorth a mentora dwys trwy gyfleoedd gwirfoddoli a phrojectau a ariennir yn allanol.Mae'r Gwasanaeth Cynghori i Mewn i Waith yn rheoli nifer o brojectau cyflogadwyedd a ariennir yn allanol,...

  • Uwch Swyddog Hyb

    7 days ago


    Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth**Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymroddedig gyda sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol i ymuno â thîm Hyb Gorwellin. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rheoli a chydlynu gwasanaeth wyneb yn wyneb proffesiynol, gan gynnwys darpariaeth llyfrgell lawn a chynllunio digwyddiadau.Rydym yn cymryd lles ein staff o ddifrif ac yn ymdrechu i...


  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth**Mae'r Tîm Rheoli Prosiectau o fewn Uned Gwella Adeiladau Tai a Chymunedau yn gyfrifol am strategaethau cyrchu a chaffael trefniadau addas ar gyfer darparu gwasanaethau cynnal a chadw adeiladau i gynnwys ymateb i geisiadau am waith atgyweirio, gwneud gwaith atgyweirio mewn eiddo gwag, gwneud gwaith wedi'i gynllunio a chyflawni addasiadau i...


  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth**Mae cyfle wedi codi i weithio gyda'r Tîm Cymorth Busnes i helpu i roi cymorth busnes i dîm rheoli'r Gwasanaethau 24/7.Mae'r gwasanaethau hyn yn cynnwys Teleofal, Pryd ar Glud a'r Ganolfan Derbyn Larymau.**Am Y Swydd**- Helpu i gyflawni rôl weinyddol amlswyddogaethol ar gyfer y Gwasanaeth yn ôl yr angen.- Cynorthwyo â'r gwaith o...

  • Swyddog Storfa

    7 days ago


    Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth**Mae Tîm Cyd-Wasanaeth Offer Caerdydd a'r Fro (CWO) yn awyddus i gyflogi Swyddog Storfa wedi'i leoli yn ein warws, Unedau 2 a 3 Lambourne Crescent, Parc Busnes Caerdydd, Llanisien, Caerdydd, CF14 5GF.Mae tîm CWO y Cyngor yn rhoi offer i bobl yng Nghaerdydd a'r Fro. Rydym yn archebu, yn dosbarthu, yn casglu ac yn cynnal amrywiaeth eang o...


  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth**Mae Ardal yn gydweithrediad caffael newydd ar draws y pedwar awdurdod lleol sy'n gwasanaethu pobl a chymunedau Caerdydd, Sir Fynwy, Torfaen a Bro Morgannwg. Caiff mwy na £1 biliwn ei wario bob blwyddyn ar nwyddau, gwasanaethau a gwaith yn y pedwar awdurdod.**Am Y Swydd**Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â'n Tîm Strategaeth a Datblygu...