Current jobs related to Swyddog Cdu Ady Cla, Ehe, Eotas - Barry, Vale of Glamorgan - Vale of Glamorgan Council


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae’r rôl yn rhan o Wasanaeth ADY Bro Morgannwg, o fewn Cyfarwyddiaeth Lles ac ADY Bro Morgannwg. Mae'r swydd yn gweithio ochr yn ochr â Swyddogion Arweiniol ADY eraill sy'n gweithio gyda disgyblion oedran ysgol, disgyblion blynyddoedd cynnar ac ôl-16 mewn ysgolion a lleoliadau a Sefydliadau Addysg Bellach ar draws Bro Morgannwg gyda...

  • Idp Officer

    3 months ago


    Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **About us** The role is part of the Vale of Glamorgan, ALN Service, within the Vale of Glamorgan’s Wellbeing and ALN Directorate. The job is working alongside other ALN Lead Officers who work with school age pupils, early years and post 16 pupils in schools and settings and Further Education Institute’s across the Vale of Glamorgan with pupils from...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae'r rôl yn rhan o Wasanaeth Cymorth Clyw Bro Morgannwg, o fewn Cyfarwyddiaeth ADY; Dysgu a Sgiliau Bro Morgannwg. Mae'r swydd wedi'i lleoli o fewn y tîm Cymorth Clyw a byddai'n golygu gweithio ar draws Bro Morgannwg gyda disgyblion o enedigaeth i 25 oed. Prif ffocws y rôl yw darparu athro allgymorth y gwasanaethau byddar ond gall hefyd...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae'r tîm Ymgysylltu â Disgyblion sydd newydd ei sefydlu (sydd wedi'i leoli yn y Gwasanaeth Ieuenctid) yn chwilio am ymgeisydd sydd â phrofiad a gwybodaeth o weithio gyda dysgwyr ynysig ac sy'n agored i niwed. Byddai'r swydd yn dod o dan y cydlynydd Gwaith Achos Ymgysylltu (Shelley Meredith) yn cefnogi’r tîm ymgysylltu â disgyblion o...

Swyddog Cdu Ady Cla, Ehe, Eotas

3 months ago


Barry, Vale of Glamorgan, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time
**Amdanom ni**

Mae'r rôl yn rhan o Wasanaeth ADY Bro Morgannwg, o fewn Cyfarwyddiaeth Lles ac ADY Bro Morgannwg. Mae'r swydd yn gweithio ochr yn ochr â Swyddogion Arweiniol ADY eraill sy'n gweithio gyda disgyblion oedran ysgol, disgyblion blynyddoedd cynnar ac ôl-16 mewn ysgolion a lleoliadau a Sefydliadau Addysg Bellach ar draws Bro Morgannwg gyda disgyblion o enedigaeth i 25. Byddai eich rôl yn cynnwys pob disgybl ac wedi pwyslais penodol ar CLA, EHE ac Eotas. Byddech yn arwain y gwaith o ddatblygu, monitro ac adolygu CDU, ALPs a dull PCP ar draws Bro Morgannwg. Byddech yn rhan o dîm bach ond egnïol a chefnogol sy'n frwd dros gefnogi disgyblion ag ADY.

**Ynglŷn â'r rôl**

**Manylion Tâl**: Graddfa Arweinyddiaeth: Pwynt 6 i bwynt 9: £51,250 to £53,843.

Oriau Gwaith / Patrwm Gwaith: 32.5 awr, 5 diwrnod yr wythnos, dros dro.

Prif Weithle: Byddai'r gwaith wedi'i leoli yn y Swyddfeydd Dinesig, ond yn ymestyn ar draws Bro Morgannwg.

**Disgrifiad**

Cymryd rôl strategol yn narpariaeth ysgolion yr awdurdod lleol ar gyfer plant a phobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol ym Mro Morgannwg a gweithio gydag ysgolion i gefnogi ADY. Sicrhau, trwy gydlynu camau gweithredu, bod rhwystrau rhag dysgu dysgwyr ag ADY mewn lleoliadau, meithrinfeydd, ysgolion a SABau ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael eu nodi'n briodol a'u diwallu a'u cefnogi. Cydgysylltu â thimau CLA, EHE ac EOTAS. Hyrwyddo arferion PCP a monitro prosesau ADY. Datblygu systemau ar gyfer adnabod anghenion dysgu ychwanegol (ADY). Sicrhau bod systemau yn eu lle sy'n cefnogi, monitro, adolygu a sicrhau ansawdd datblygiad Cynlluniau Datblygu Unigol (CDU) a Darpariaeth Dysgu Ychwanegol (DDY). Hyrwyddo a datblygu prosesau datrys gwrthdaro. Darparu hyfforddiant ADY ar gyfer ysgolion, lleoliadau ac ALl i sicrhau bod gweithdrefnau CDU, DDdY, asesiadau a PCP o ansawdd yn eu lle. Sicrhau bod gwybodaeth glir ar gael ynglŷn â'r broses CDU a hyrwyddo gwybodaeth, dealltwriaeth a gweithrediad Deddf ALNET 2018 Casglu, coladu a dehongli tystiolaeth a data ADY i lywio cynllunio gwasanaethau yn y dyfodol.

**Amdanat ti**

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad sylweddol a pherthnasol ar lefel uwch o fewn sefydliad/ysgol fawr a chymhleth. Profiad helaeth o weithio o fewn anghenion dysgu ychwanegol (ADY) Gwybodaeth dda o amrywiaeth eang o ADY, strategaethau a darpariaeth, ADY perthnasol (ALNET a'r Cod) a deddfwriaeth anabledd Profiad o ysgrifennu ac adolygu CDUau ac olrhain DDdY. Profiad o bartneriaeth/cydweithio effeithiol, gweithio fel rhan o dîm, a gallu dangos tystiolaeth o sgiliau cynllunio, trefnu a datrys problemau cryf gan gynnwys profiad/hyfforddiant datrys anghydfod. Perthnasolprofiad o ddatblygu ac arwain hyfforddiant. Profiad o gasglu data a thystiolaeth a'u defnyddio i lywio'r camau nesaf.

**Gwybodaeth Ychwanegol**

Y math o wiriad GDG sy'n ofynnol: Oes

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â:
Sarah Redrup, Operational Manager of ALN

Gweler y disgrifiad swydd / manyleb person atodedig i gael rhagor o wybodaeth.

Job Reference: LS00243