Mentor Budd-daliadau

2 weeks ago


Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time
**About The Service**
Mae Cyngor Caerdydd am recriwtio unigolyn brwdfrydig iawn i gynorthwyo gyda hyfforddiant, cefnogi a gwirio ansawdd yn ymwneud â Budd-dal Tai, Gostyngiad y Dreth Gyngor, prydau ysgol am ddim a grantiau Gwisg Ysgol ynghyd ag unrhyw faterion cysylltiedig ag unigolion a grwpiau.

**About the job**
Rhoddir hyfforddiant llawn a bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn magu amrywiaeth eang o sgiliau a phrofiad. Byddwch yn magu profiad o ymdrin ag ymholiadau cwsmeriaid dros y ffôn ac yn ysgrifenedig. Cewch hefyd hyfforddiant i ddefnyddio amryw systemau TG.

Nid oes angen unrhyw gymwysterau ffurfiol fodd bynnag mae profiad o weithio mewn amgylchedd Budd-daliadau neu gynghori yn hanfodol. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn meddu ar sgiliau cyfathrebu da a'r gallu i addasu a dysgu'n gyflym. Mae agwedd gadarnhaol sy'n canolbwyntio ar y cwsmer yn hanfodol, yn ogystal â'r gallu i weithio i dargedau a therfynau amser.

**What We Are Looking For From You** Gofynion Penodol y Swydd**

Cynorthwyo â'r gwaith o ddarparu gwasanaeth Budd-daliadau o safon uchel.

Cynorthwyo wrth hyfforddi, cefnogi a gwirio ansawdd gwaith yn ymwneud a Budd-daliadau Tai, Gostyngiad y Dreth Gyngor, Prydau Ysgol am Ddim a Grantiau Gwisg ysgol ac unrhyw faterion perthnasol, i unigolion a grwpiau.

Darparu hyfforddiant i'r rheiny sydd angen cymorth ychwanegol a cheisio cynorthwyo staff yn weithredol drwy hyfforddiant a gwiriadau ansawdd. Adrodd ar ganlyniadau i staff mewn modd positif ac adeiladol a chyflwyno awgrymiadau i wella, fel bod gwybodaeth a chywirdeb yn gwella.

Darparu hyfforddiant/cymorth a gwiriadau ansawdd parhaus i staff, yn ogystal â'r rheiny sy'n dychwelyd o salwch hirdymor, cyfnod mamolaeth neu a nodir gan eu rheolwr fel aelod o staff sydd angen cefnogaeth neu gymorth ychwanegol. Adrodd yn rheolaidd i reolwyr ar ganlyniadau hyfforddiant a gwirio ychwanegol gydag unrhyw argymhellion ar gyfer datrysiadau i wella gwaith lle bo angen.

Gwirio ansawdd yn ôl yr angen at ddibenion ystadegol ac ar gyfer rheoli, mewn Adolygiadau Perfformiad a materion yn ymwneud â Chymhwysedd, ac adrodd ar ganfyddiadau'n rheolaidd.

Cyfathrebu â chwsmeriaid, aelodau a rhanddeiliaid eraill a mynd i gyfarfodydd gyda phartïon sydd â diddordeb yn ôl y gofyn.

Cymryd rhan weithredol mewn unrhyw NVQ a gyflawnir gan yr adran, a chyflawni Statws Aseswr os oes angen.

Helpu i gynnal profion a datblygu meddalwedd gyfrifiadurol a rhoi hyfforddiant a chyngor ar ddefnyddio systemau cyfrifiadurol yn briodol.

Datblygu a darparu cyrsiau hyfforddi yn annibynnol fel y bo gofyn er mwyn sicrhau bod staff yn derbyn y gefnogaeth angenrheidiol mewn sesiynau un i un, neu faterion eraill a nodir gan eu rheolwr.

Helpu yn ôl yr angen i ddatblygu a chynnal gweithdrefnau a helpu i sicrhau bod staff yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am newidiadau deddfwriaethol a gweithdrefnol.

Rhoi cyngor a chymorth i staff a rheolwyr eraill o ran dehongli deddfwriaeth a gweithdrefnau'r Dreth Gyngor, Budd-daliadau Tai, a gweithredu systemau cyfrifiadurol yn gywir.

Chwarae rhan weithredol yng ngwaith Tîm Cynghori gan sicrhau bod aelodau'r tîm yn cyfathrebu'n dda gyda'i gilydd, cyflenwi ar ran swyddogion eraill yn ôl y gofyn a chyfrannu at waith y tîm yn gyffredinol.

Cyfathrebu â chwsmeriaid a phartïon eraill â diddordeb yn ysgrifenedig, dros y ffôn, mewn cyfweliadau swyddfa ac ymweld â chwsmeriaid yn eu cartrefi yn ôl y gofyn.

Cynorthwyo a dirprwyo ar ran y Cydlynydd Cynghori, goruchwylio a chefnogi aelodau eraill y tîm a monitro eu perfformiad.

Sicrhau boddhad cwsmeriaid drwy weithio i wella gwasanaeth cwsmeriaid a datrys cwynion cwsmeriaid.

Cynorthwyo'n ymarferol gyda chydlynu a gweithredu unrhyw systemau Ansawdd a ddefnyddir gan y gwasanaeth.

Cyflawni unrhyw ddyletswyddau swyddfa cyffredinol yn ôl y gofyn o fewn rheswm gan gynnwys cynnal yr holl gofnodion angenrheidiol a rhoi gwybodaeth fonitro yn ôl yr angen.

Cefnogi datblygiad technoleg gyfredol a thechnoleg newydd yn weithredol.

Cynorthwyo â'r gwaith o Recriwtio, Dethol a Sefydlu staff

Cymryd rhan weithredol yn y gwaith o gefnogi egwyddorion ac arferion cyfle cyfartal fel y'u nodir ym Mholisi Cyfle Cyfartal y sefydliad.

Bod yn gyfrifol am eich iechyd a'ch diogelwch eich hun ac unrhyw berson arall a all gael ei effeithio gan eich gweithredoedd neu eich esgeulustod, a chydymffurfio â deddfwriaeth iechyd a diogelwch fel y bo'n briodol ym mhob achos.

Fel amod o'ch cyflogaeth gellir gofyn i chi gyflawni unrhyw ddyletswyddau rhesymol a/neu amserau gwaith rhesymol eraill sy'n cyd-fynd â'ch gradd neu'ch lefel gyffredinol o gyfrifoldeb o fewn y sefydliad.

**Additional information**
- Mae'r swydd hon yn addas i'w rhannu.

Rhaid i ymgeiswyr mewnol sy'n dymuno gwneud cais am y swydd hon ar sail secondiad gael cymeradwyaeth cyn gwneud cais gan ddefnyddio Ffurflen SEC1 (4.C.081). Dim ond y Cyfarwyddwr/Cyfarwyddwr Cynorthwyol/Prif Swyddog perthnasol neu uwch swyddog enweb
  • Mentor Cynghori

    2 weeks ago


    Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth**Mae'r Tîm Cyngor Ariannol yn dîm lles a budd-daliadau sy'n gweld tua 1500 o bobl y mis gan nodi cymorth ariannol, grantiau a gostyngiadau a delio â dyledion. Mae'r Tîm yn ehangu oherwydd galw ac angen hanfodol y bobl sy'n ymweld â'r 20+ o leoliadau'r wythnos y mae'r tîm wedi ymrwymo i'w mynychu.**Am Y Swydd**Mae cyfle cyffrous wedi...

  • Mentor Cynghori

    1 week ago


    Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth**Mae'r Tîm Cyngor Ariannol yn dîm lles a budd-daliadau sy'n gweld tua 1500 o bobl y mis gan nodi cymorth ariannol, grantiau a gostyngiadau a delio â dyledion. Mae'r Tîm yn ehangu oherwydd galw ac angen hanfodol y bobl sy'n ymweld â'r 20+ o leoliadau'r wythnos y mae'r tîm wedi ymrwymo i'w mynychu.**Am Y Swydd**Mae cyfle cyffrous wedi...

  • Mentor Budd-daliadau

    2 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **About The Service** Mae Cyngor Caerdydd am recriwtio unigolyn brwdfrydig iawn i gynorthwyo gyda hyfforddiant, cefnogi a gwirio ansawdd yn ymwneud â Budd-dal Tai, Gostyngiad y Dreth Gyngor, prydau ysgol am ddim a grantiau Gwisg Ysgol ynghyd ag unrhyw faterion cysylltiedig ag unigolion a grwpiau. **About the job** Rhoddir hyfforddiant llawn a bydd yr...

  • Mentor Cynghori

    3 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r Tîm Cyngor Ariannol yn dîm lles a budd-daliadau sy'n gweld tua 1500 o bobl y mis gan nodi cymorth ariannol, grantiau a gostyngiadau a delio â dyledion. Mae'r Tîm yn ehangu oherwydd galw ac angen hanfodol y bobl sy’n ymweld â'r 20+ o leoliadau'r wythnos y mae'r tîm wedi ymrwymo i’w mynychu. **Am Y Swydd** Mae cyfle...

  • Cydlynydd Cynghori

    2 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r Tîm Cyngor Ariannol yn dîm Lles a Budd-daliadau sy'n gweld tua 1500 o bobl y mis gan nodi cymorth ariannol, grantiau a gostyngiadau a delio â dyledion. Mae'r Tîm yn ehangu oherwydd galw ac angen hanfodol y bobl sy’n ymweld â'r 20+ o leoliadau'r wythnos y mae'r tîm wedi ymrwymo i’w mynychu. **Am Y Swydd** Mae cyfle...


  • Cardiff, United Kingdom St Giles Trust Full time

    **Job Summary**: Are you a proactive, organised and compassionate individual with a proven record of providing support, advice and advocacy, and communicating effectively, the needs of clients to other professionals? If so, St Giles Trust is looking for a **Serious Youth Violence & Exploitation Caseworker **to join us and support and mentor young people...

  • Uwch Swyddog Hyb

    3 days ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymroddedig sydd â sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol ymuno â'n Timau Hybiau’r Dwyrain (Hyb Llaneirwg, Hyb Llanrhymni, Hyb Partneriaeth Tredelerch & Hyb Powerhouse Llanedern) Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am gefnogi cwsmeriaid sy’n defnyddio Hybiau a Llyfrgelloedd. Bydd y...

  • Administrator

    2 days ago


    Cardiff, United Kingdom St Giles Trust Remote Work Freelance Full time

    Based at St Giles offices across Wales Ref PWA-241 Are you a proactive, efficient and collaborative individual with a proven record of working in services providing administrative support in a busy, pressurised environment?  Do you have experience of working in services which provide support to people who have faced adversity and disadvantage?  If so,...