Cydlynydd Eiriolaeth Cymru in Cardiff

4 weeks ago


Wales, United Kingdom Rewilding Britain Full time

Rewilding Britain - Cydlynydd Eiriolaeth Cymru

Ers i Rewilding Britain gael ei sefydlu yn 2015, mae ailwylltio wedi newid o fod yn syniad arbenigol i chwarae rôl bwysig yn y frwydr yn erbyn rhai o'r heriau byd-eang mwyaf a wynebir gennym. Mae Rewilding Britain yn rhan annatod o'r newid hwn, yn gweithredu fel catalydd ar gyfer trafod a gweithredu, ac yn dangos pŵer gweithio gyda natur i greu byd cynaliadwy lle mae pobl yn ffynnu. 

Dychmygwch Gymru lle mae'r cysylltiad rhwng diwylliant a natur yn cael ei ailddeffro. Lle mae plethwaith cyfoethog o goetiroedd, gwlyptiroedd, dolydd blodau gwyllt a glaswelltiroedd brodorol yn cael eu pwytho'n ôl at ei gilydd. Lle mae tiroedd a moroedd yn llawn bywyd a lle mae mentrau byd natur yn cefnogi cymunedau sy'n ffynnu ymhell ac agos. A dychmygwch fod hyn wedi'i arwain a'i gyflawni gan bobl leol.

Mae Rewilding Britain am weld prosesau ailwylltio yn ffynnu ledled 30% o Brydain, gan ein hailgysylltu â'r byd naturiol, cynnal cymunedau a mynd i'r afael ag argyfyngau natur a'r hinsawdd sy'n rhyng-gysylltiedig. 

Rydym yn dylanwadu ar bolisïau, yn ysbrydoli camau gweithredu cyhoeddus ac yn sbarduno cymorth ymarferol ac ariannol cydgysylltiedig er mwyn helpu i sefydlu prosesau ailwylltio ledled tiroedd a moroedd Prydain. Drwy Rewilding Britain sy'n tyfu'n gyflym, rydym am ddwyn ynghyd gymuned o ailwylltwyr – o reolwyr tir a ffermwyr, i elusennau, grwpiau cymunedol a pharciau cenedlaethol – i ysbrydoli a chefnogi ei gilydd i greu Prydain fwy gwyllt a mwy ffyniannus. Nid yw'n rhy hwyr – ond rhaid i ni weithredu nawr.

Rydym yn chwilio am unigolyn llawn hunangymhelliant ar gyfer rôl Cydlynydd Eiriolaeth Cymru i ymuno â'n tîm a helpu i lywio polisi a gweithgareddau eiriolaeth Rewilding Britain yng Nghymru. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn unigolyn arloesol, blaengar a llawn cymhelliant sydd â hanes sicr o waith eiriolaeth, polisi neu ddylanwadu mewn sector perthnasol. Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â'n helusen sy'n tyfu'n gyflym a chyfrannu'n uniongyrchol at dwf y mudiad ailwylltio.

Diben y swydd: 

Mae mudiad ailwylltio sy'n tyfu ledled Cymru eisoes. Mae mwy a mwy o reolwyr tir yn chwilio am ffyrdd o ymgorffori ailwylltio i mewn i'w hymarfer, ar adeg lle mae Senedd Cymru yn ymchwilio i ffyrdd o sicrhau bod Cymru'n cyflawni ei hymrwymiadau o ran bod yn sero net ac adfer byd natur. Gan adeiladu ar hyn byddwch yn helpu i gefnogi'r broses o ddatblygu a chyflawni gweledigaeth gydweithredol dan arweiniad lleol a gwaith i sicrhau ei fod yn cael ei brif ffrydio o fewn polisïau ac ymarfer Llywodraeth Cymru.

Amcan y rôl: 

Ar y cyd â sefydliadau a rhanddeiliaid allweddol yng Nghymru, datblygu, ymchwilio ac arwain y broses o ddylanwadu ar bolisïau ar sail tystiolaeth, materion cyhoeddus a gweithgareddau ymgyrchu a fydd yn cefnogi'r gwaith o brif ffrydio prosesau ailwylltio mewn polisïau ac ymarfer yng Nghymru. 

Ymysg eich cyfrifoldebau bydd y canlynol: 

Cydlynu'r gwaith o gynllunio a chyflawni gweithgareddau polisi a dylanwadu yng Nghymru, yn bennaf drwy ddatblygu a gweithio gyda phartneriaethau newydd yng Nghymru

Ymgyfarwyddo â pholisïau a deddfwriaeth newidiol mewn perthynas â nodi cyfleoedd i ailwylltio er mwyn sicrhau newid cadarnhaol

Datblygu safbwyntiau polisi perthnasol a'u rhannu er mwyn dylanwadu ar yr amgylchedd polisi yng Nghymru

Casglu gwybodaeth ac ymchwil, crynhoi tystiolaeth a rhannu'r hyn a ddysgwyd er mwyn datblygu'r safbwyntiau polisi hyn

Sicrhau bod y cysylltiad rhwng lleoliaeth, cymunedau, diwylliant ac ailwylltio yn cael ei integreiddio yng ngwaith Rewilding Britain yng Nghymru.

Meithrin a chynnal cydberthnasau effeithiol â rhanddeiliaid, yn enwedig â gweision sifil, gwneuthurwyr polisi, gwneuthurwyr penderfyniadau cenedlaethol a lleol a chyrff ymgyrchu/perchenogi tir/morol

Cydweithio ag aelodau'r Rhwydwaith Ailwylltio yng Nghymru i sicrhau ymgysylltu eang mewn gweithgareddau eiriolaeth ar y cyd, gan gefnogi hyn â thystiolaeth gymhellol o fuddiannau ailwylltio

Datblygu'r broses o greu dull cydweithredol at Ailwylltio yng Nghymru (e.e. yn debyg i ddull y Scottish Rewilding Alliance)

Darparu prosesau monitro a gwybodaeth wleidyddol i gydweithwyr ym mhob rhan o'r sefydliad ac i bartneriaid sy'n gweithredu yng Nghymru

Cydweithio â sefydliadau, dylanwadwyr ac ymgyrchoedd eraill

Sgiliau, profiad ac ymddygiadau:

Sgiliau a phrofiad

Hanfodol  

O leiaf bum mlynedd o brofiad o weithio gyda pholisïau, materion cyhoeddus a/neu ymgyrchoedd mewn maes perthnasol yng Nghymru

Dealltwriaeth amlwg o'r sefyllfa wleidyddol, economaidd a diwylliannol yng Nghymru mewn perthynas ag ailwylltio

Trefnus iawn gyda sgiliau rhwydweithio ardderchog

Y gallu i ddadansoddi ymchwil a thystiolaeth i ddylanwadu ar bolisïau

Sgiliau cyfathrebu darbwyllol sy'n dylanwadu ac yn ysgogi

Y gallu i weithio'n annibynnol, gan ddangos menter wrth feithrin cydberthnasau ardderchog â'r tîm ehangach

Yn gallu cyfuno gweithgareddau polisi, materion cyhoeddus ac ymgyrchu yn fedrus, gyda thystiolaeth glir o effaith    

Dymunol

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn hynod ddymunol.

Profiad o reoli gwaith o bell

Profiad a dealltwriaeth o ailwylltio

Profiad o siarad yn gyhoeddus

Profiad o ddelio â'r wasg a chyfryngau eraill

Profiad o reoli prosiectau

Ymddygiad 

Hanfodol

Yn llawn hunangymhelliant a menter ac yn gweithio i wneud i bethau ddigwydd

Agwedd gadarnhaol, gydweithredol.

Angerddol, hyblyg ac addasadwy.

Llawn ffocws ac wedi eich ysgogi gan ganlyniadau.

Nid yw'r disgrifiad swydd hwn yn hollgynhwysol a gall newid i adlewyrchu angen. Gellir adolygu eich dyletswyddau o bryd i'w gilydd a'u diwygio a'u diweddaru mewn ymgynghoriad â chi er mwyn adlewyrchu newidiadau priodol.

Telerau ac amodau a buddiannau staff

Mae hon yn rôl lawnamser i weithio 35 awr yr wythnos, ond rydym yn agored i geisiadau gan y rheini sy'n awyddus i weithio 28 awr neu fwy yr wythnos.

Mae'r cyflog yn £38k - £45k y flwyddyn (yn dibynnu ar brofiad perthnasol).

Bydd rhywfaint o ryddid i'r person bennu ei drefniadau gweithio ei hun bob wythnos, o fewn cyfyngiadau, cyhyd ag y caiff y gwaith ei gyflawni.

Mae cyflogeion Rewilding Britain yn cael 25 diwrnod o wyliau blynyddol bob blwyddyn (pro rata ar gyfer rolau rhan amser), yn codi i 30 diwrnod dros bum mlynedd. Mae cynllun pensiwn hael gyda chyfraniad cyfatebol gan y cyflogwr hefyd ar gael.

Rydym yn dîm rhithiol sy'n gweithio o gartref a/neu mewn mannau cydweithio. Byddwn yn eich cefnogi i greu amgylchedd gweithio rhithiol addas. Cynhelir rhai cyfarfodydd wyneb yn wyneb ledled Prydain, felly mae parodrwydd i deithio gan aros dros nos yn achlysurol yn ddymunol.

Rydym yn bwriadu cynnal y cyfweliadau cyntaf dros Zoom ar 14 Mai 2024. Yna efallai y byddwn yn gwahodd ymgeiswyr dethol i gael ail gyfweliad wyneb yn wyneb.

Ceisiadau

Os ydych chi'n credu eich bod yn addas ar gyfer y rôl, anfonwch

eich CV

crynodeb dwy dudalen yn amlinellu eich dull strategol o gefnogi mudiad ailwylltio sy'n tyfu yng Nghymru, gan dynnu sylw at feysydd cyfyngol a sut y gellir mynd i'r afael â'r rhain dros e-bost i jobs@rewildingbritain.org.uk erbyn 9am ar 1 Mai 2024. 

Defnydd o ddulliau deallusrwydd artiffisial: Nid yw Rewilding Britain yn derbyn llythyrau eglurhaol, cyflwyniadau nac atebion i gwestiynau recriwtio y mae eu cynnwys wedi'i greu gan ddeallusrwydd artiffisial a byddwn yn sgrinio ar gyfer hyn fel rhan o'n proses recriwtio. Nid yw Rewilding Britain yn defnyddio dulliau deallusrwydd artiffisial i adolygu ceisiadau ymgeiswyr; pobl go iawn fydd yn adolygu ceisiadau ac yn llunio rhestr fer.

Cydraddoldeb mewn cyflogaeth: Caiff ymgeiswyr eu rhoi ar restr fer a'u dethol yn ôl eu haddasrwydd ar gyfer y swydd ni waeth beth fo'u hoedran, anabledd, statws o ran ailbennu rhywedd, priodas neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd, hil, crefydd neu gred, rhyw na chyfeiriadedd rhywiol.

Nid yw Rewilding Britain yn noddwr trwyddedig ar hyn o bryd. Caiff unrhyw gynnig cyflogaeth ei wneud yn amodol ar hawl ddilys i weithio yn y DU.



  • Wales, United Kingdom St John Ambulance Cymru Full time

    **St John Ambulance Cymru** **First Aid and Health and Safety Trainer** **Full Time - 35 hours per week** **Location - 2x based in Cardiff (covering South Wales) + 1x based in Wrexham** **Salary: £21,210 - £25,833 p/a** **ST JOHN AMBULANCE CYMRU** St John Ambulance Cymru (SJAC) has supported people and communities across Wales since 1880. We existed...


  • Cardiff, Wales, United Kingdom Linc-Cymru Full time

    Planned and Decarbonisation Project Surveyor Below, you will find a complete breakdown of everything required of potential candidates, as well as how to apply Good luck.£40,469.00 per annum 37 per week hours per week (Agile working) Based fromour Head Office on Newport Road, Cardiff. The Opportunity: Linc Cymru are offering the opportunity to join our Asset...


  • Wales, United Kingdom Home-Start Cymru Full time

    Hours of work: Flexible. We are happy to discuss hours of work, we would need a minimum commitment of 20 hours a week and would also consider this role at 37 hours a week (full-time). Location: Cardiff / or remote Volunteer Consultant, National Volunteer Manager, Recruitment & Development Officer We are a charity that operates throughout Wales to support...


  • Wales, United Kingdom Social Care Wales Full time

    **Administrator (Welsh Speaking)** Home/Office Based (with hybrid working in Wales) **The Organisation** At Social Care Wales, we provide leadership and expertise in social care and early years in Wales. Our vision is to make a positive difference to care and support for children, adults and their families and carers. To do this, we lead on developing and...


  • Wales, United Kingdom Arts Council Of Wales Full time

    Pennaeth Cyfathrebu Llawn amser, 37 awr yr wythnos Parhaol Gradd E: Cyflog cychwynnol o £53,606 Lleoliad: Gellir lleoli’r rôl hon yn unrhyw un o swyddfeydd Cyngor Celfyddydau Cymru ym Mae Caerdydd, Caerfyrddin neu Bae Colwyn. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio mewn ffordd hybrid. Mae ein buddion yn cynnwys 30 diwrnod o wyliau blynyddol, 2.5 diwrnod...


  • Wales, United Kingdom Arts Council Of Wales Full time

    Pennaeth Cyfathrebu Llawn amser, 37 awr yr wythnos Parhaol Gradd E: Cyflog cychwynnol o £53,606 Lleoliad: Gellir lleoli’r rôl hon yn unrhyw un o swyddfeydd Cyngor Celfyddydau Cymru ym Mae Caerdydd, Caerfyrddin neu Bae Colwyn. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio mewn ffordd hybrid. Mae ein buddion yn cynnwys 30 diwrnod o wyliau blynyddol, 2.5 diwrnod...


  • Wales, United Kingdom Arts Council Of Wales Full time

    Pennaeth Cyfathrebu Llawn amser, 37 awr yr wythnos Parhaol Gradd E: Cyflog cychwynnol o £53,606 Lleoliad: Gellir lleoli’r rôl hon yn unrhyw un o swyddfeydd Cyngor Celfyddydau Cymru ym Mae Caerdydd, Caerfyrddin neu Bae Colwyn. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio mewn ffordd hybrid. Mae ein buddion yn cynnwys 30 diwrnod o wyliau blynyddol, 2.5 diwrnod braint,...