No more applications are being accepted for this job
Tiwtor Sgiliau Hanfodol
3 weeks ago
Carmarthen, United Kingdom
Carmarthenshire County Council
Full time
Description
Oriau Sesiynol (£13.69 yr awr) Rydym yn dymuno penodi tiwtoriaid sesiynol profiadol â chymwysterau da i weithio ym maes Dysgu Cymunedol yn Sir Gaerfyrddin. Rydym yn dymuno penodi tiwtoriaid i addysgu ystod o bynciau Sgiliau Hanfodol: Sgiliau Cyfathrebu, Iaith Arwyddion Prydain, Defnyddio Rhifau, Llythrennedd Digidol neu Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL). Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gallu cynnig un neu ragor o'r pynciau hyn ac mae'n rhaid iddynt feddu ar gymwysterau sydd o leiaf ar Lefel 3 yn eu harbenigedd pwnc yn ogystal â chymhwyster addysgu, neu barodrwydd i ennill cymhwyster o'r fath cyn pen 3 blynedd. Bydd tiwtoriaid yn cynorthwyo dysgwyr ôl-16 oed i ennill cymwysterau ar bob lefel o lefel cyn-mynediad hyd Lefel 2/TGAU. Mae angen gallu sylfaenol yn y Gymraeg i gyflawni'r swydd hon. Gellir darparu cymorth i gyrraedd y lefel hon ar ôl penodi. Os ydych am gael sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â Tracey Warr - Cliciwch ar y ddolen yn y blwch ‘Eitemau a lawrlwythwyd’ i weld copi o'r Proffil Swydd. Bydd angen i chi fewngofnodi i'ch cyfrif cyn clicio ar y botwm ‘Gwneud cais’ am y swydd hon.-
Newyddiadurwr Digidol S4c
4 weeks ago
Carmarthen, United Kingdom S4C Full timeMae Newyddion S4C yn wasanaeth newyddion digidol sydd yn dod a'r newyddion diweddaraf i gynulleidfa Gymraeg.Y nod yw cyrraedd a gwasanaethu cynulleidfa ehangach na'r rhai sy'n gwylio newyddion ar deledu, a hynny ar ffurf fideo a thestun, pryd bynnag a lle bynnag maen nhw eisiau. Dyma gyfle unigryw i fod yn rhan o wasanaeth fydd yn siapio hinsawdd...