Cydlynydd Llesiant
Found in: Talent UK C2 - 3 weeks ago
Lleoliad: Russell House, Churton Road, Y Rhyl LL DP.
Oriau: yr wythnos
Math o gontract: Cyfnod penodol hyd at fis Mawrth
Cyflog: £, y flwyddyn, yn seiliedig ar awr yr wythnos
Mae gennym ni gyfle gwych i unigolyn brwdfrydig a rhagweithiol ymuno â’n tîm fel Cydlynydd Llesiant – Un Pwynt Mynediad.
Mae’r gwasanaeth Un Pwynt Mynediad yn bartneriaeth rhwng Gwasanaethau Cymdeithasol Sir Ddinbych, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a’r Trydydd Sector. Mae’r gwasanaeth yn galluogi oedolion ledled Sir Ddinbych i gael gafael ar gyngor, cymorth a gwybodaeth am wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol cymunedol dros y ffôn.
Mae’r Cydlynydd Llesiant yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o hyrwyddo gwerth y Trydydd Sector i ddinasyddion dros oed yn Sir Ddinbych, ac yn eu hannog i’w helpu eu hunain i fyw’n annibynnol drwy ymwybyddiaeth o’r cyfleoedd sydd ar gael iddynt, yn hytrach na gorfod dibynnu ar gymorth gan y sector statudol.
Bydd diwrnod ym mywyd Cydlynydd Llesiant yn cynnwys:
Cysylltu caredigrwydd pobl ag argyfwng po