Cynorthwy-ydd Perfformiad
4 days ago
**Amdanom ni**
Mae'r Gwasanaeth Cyfawnder a Chymorth Cynnar Ieuenctid yn gweithio gyda phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd sydd mewn perygl o, neu sy'n ymwneud ag ymddygiad troseddol drwy gynnig gwasanaethau atal, dargyfeirio a Gorchmynion Llys statudol. Yn rhan annatod o'r tîm, mae’r Cynorthwy-ydd Perfformiad yn cefnogi aelodau'r tîm i ddarparu Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid o ansawdd uchel.
**Ynglŷn â'r rôl**
Manylion Cyflog: Gradd 4: PCG 5-7 £24,790- £25,584 y.f. pro rata
Oriau gwaith / patrwm gwaith: 21 awr, dydd Llun i ddydd Gwener
Prif weithle: 91 Salisbury Road, Y Barri CF62 6PD
**Disgrifiad**:
Rôl y Cynorthwy-ydd Perfformiad yw darparu pob agwedd ar gymorth gweinyddol, mewnbwn/data, glanhau gwybodaeth a rhedeg adroddiadau o fewn System Wybodaeth y GTI i gynhyrchu adroddiadau perfformiad i randdeiliaid allweddol.
**Amdanoch chi**
Sgiliau trefnu da
Sgiliau cyfathrebu da
Yn gallu defnyddio rhaglenni Office megis Word ac Excel
Hunangymhellol a’r gallu i weithio ar eich liwt eich hun
Yn gallu cofnodi a dadansoddi data yn gywir mewn amrywiaeth o leoliadau a fformatau cronfa ddata.
Yn gallu blaenoriaethu tasgau'n briodol
Yn gallu gweithio i derfynau amser
**Gwybodaeth ychwanegol**
Oes angen Gwiriad GDG? Manwl
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â: Gemma Williams ar 01446 745820
Job Reference: SS00881
-
Cynorthwy-ydd Cymorth Busnes
4 days ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Mae Tîm Cymorth Busnes Tai Cyngor Bro Morgannwg wedi'i leoli yn y Gwasanaethau Tai ac Adeiladau, o dan y Gyfarwyddiaeth yr Amgylchedd a Thai. Mae'r tîm, sy'n cefnogi'r Tîm Datblygu a Buddsoddi, yn rheoli ac yn darparu gwasanaeth addasiadau tai'r cyngor, ynghyd â chynnal y system rheoli asedau a ddefnyddir i fuddsoddi yn asedau tai’r...