Swyddog Dylunio a Chynnwys
7 days ago
**Swyddog Dylunio a Chynnwys**
**Amdanom ni**:
Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am gynnig addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled Abertawe, dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr mawr yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.
Yng Ngholeg Gwyr Abertawe, rydym yn angerddol am fuddsoddi yn ein staff ac rydym yn gofalu am eu lles er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn cefnogaeth yn y gwaith a hefyd gartref
**Y Rôl**:
- Rydym yn chwilio am Swyddog Dylunio a Chynnwys dawnus i gynhyrchu deunyddiau gweledol a digidol o ansawdd uchel sy’n cyd-fynd ag amcanion sefydliadol a chanllawiau brand Coleg Gwyr Abertawe._
- Bydd y rôl yn cynnwys darparu atebion dylunio arloesol ar gyfer cyhoeddiadau printiedig, brandio, ymgyrchoedd, arddangosfeydd a ffrydiau digidol, a bydd gofyn i chi rhoi ffocws cryf ar greu cynnwys fideo ar gyfer amrywiaeth o blatfformau._
- Bydd gennych sgiliau dylunio graffeg rhagorol, arbenigedd mewn creu fideos, y gallu i gynnig a gweithredu syniadau creadigol yn ogystal â sgiliau da iawn o ran defnyddio rhaglenni megis Adobe Creative Suite, Adobe InDesign ac Illustrator._
- Amser Llawn (37 awr yr wythnos)
- Parhaol
- £31,861 - £34,019 y flwyddyn
- Campws Hill House, Abertawe
**Yr hyn rydym yn chwilio amdano**:
- ** Creadigrwydd**: Gweithiwr proffesiynol creadigol a rhagweithiol sydd ag angerdd am ddylunio, creu fideos chynnwys ar gyfer gwefannau.
- ** Cydweithio**: Unigolyn sy’n ffynnu mewn amgylchedd prysur a chydweithredol ac sy’n gyfforddus yn gweithio ar ei liwt ei hun pan fo angen.
- ** Llygad am fanylder**: Unigolyn sy’n medru talw sylw i man fanylion a’r gallu i gwblhau gwaith sy’n cydfynd ag amcanion a brand y Coleg.
- Dyma gyfle cyffrous i gyfrannu at brosiectau effeithiol a gwella eich portffolio creadigol._ _Os ydych chi’n barod i ddefnyddio eich sgiliau dylunio/creu fideos a chynnwys ar gyfer gwefannau mewn rôl heriol a gwerth chweil, cysylltwch â ni_
**Buddion**:
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, gwyliau banc a phythefnos o wyliau dros gyfod y Nadolig pan fydd y Coleg ar gau.
- Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol gyda chyfraniad cyflogwr cyfartalog o 21% (2023).
- 2 ddiwrnod lles staff.
- Cyfleoedd addysgu â disgownt ar raglenni’r Coleg.
**Angen help i gwblhau eich cais?**Cliciwh yma i ddarllen ein canllawiau.**
- Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion waeth beth fo’u hoedran, rhywedd, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhwyiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred. Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol o fewn ein sefydliad ar hyn o bryd._
Os hoffech chi barhau i gwblhau’ch cais yn Gymraeg, ewch i’n gwefan Gymraeg. Rydym yn annog unigolion i gyflwyno ceisiadau Cymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau Cymraeg a’r angen i ehangu ein gweithlu dwyieithog.
Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc a disgwylir i bob aelod o staff gydymffurfio â hyn. Gwneir penodiadau yn amodol ar wiriad DBS a bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus gofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.
- Rydym yn disgwyl derbyn llawer iawn o geisiadau ar gyfer y rôl hon. Os felly, efallai bydd angen i ni newid y dyddiad cau i ddyddiad cynharach, felly, rydym yn argymell i chi gyflwyno cais yn gynnar._ _
Gwneir penodiadau fel arfer i waelod y raddfa gyflog, gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad dechrau cyn 1 Chwefror).
-
Swyddog Llywodraethiant
17 hours ago
Swansea, United Kingdom Swansea University Full time**Prif Ddiben y Swydd** - Bydd gan ddeiliad y swydd hanes cryf mewn rôl lywodraethu, o fewn amgylchedd addysg uwch yn ddelfrydol. Bydd ganddynt, neu byddant yn datblygu’n gyflym, ddealltwriaeth o’r fframwaith rheoleiddio ar gyfer addysg uwch yng Nghymru a ledled y DU a gwybodaeth ragorol o fframwaith llywodraethiant polisïau a gweithdrefnau’r...
-
Cynorthwy-ydd Cynnwys Digidol Ac Ymgysylltu
2 weeks ago
Swansea, United Kingdom Swansea University Full time**Manyleb Person** Meini Prawf Hanfodol**: **Gwerthoedd**: - Tystiolaeth o ymfalchïo mewn darparu atebion a gwasanaethau proffesiynol - Y gallu i gydweithio mewn amgylchedd o gydraddoldeb, ymddiriedaeth a pharch i ddarparu gwasanaethau sy'n ceisio rhagori ar anghenion a disgwyliadau cwsmeriaid. - Tystiolaeth o ddarparu ymagwedd ofalgar at bawb rydym yn...