Swyddog Ymchwilio Graddedig Dan Hyfforddiant

2 weeks ago


Bridgend, United Kingdom Public Services Ombudsman for Wales Full time

**SWYDDOG YMCHWILIO GRADDEDIG DAN HYFFORDDIANT (SIARADWR CYMRAEG RHUGL)**

Math o Gontract: Parhaol

Patrwm gweithio: Llawn amser/Hybrid - Pen-y-bont ar Ogwr/Gartref

Oriau Gwaith: 37 awr yr wythnos

Cyflog:
Blwyddyn 1 £27,000

Blwyddyn 2 £30,000

Blwyddyn 3 £33,000

Blwyddyn 4 £37,338

Blwyddyn 5 ymlaen - cynyddrannau blynyddol hyd at £48,474 y flwyddyn

Math o Swyddogaeth: Ymchwilio i Gwynion

Ydych chi wedi graddio’n ddiweddar yn y Gyfraith, Gweinyddiaeth Gyhoeddus neu faes pwnc tebyg, neu a fyddwch chi’n cwblhau eich astudiaethau eleni? Ydych chi'n siarad Cymraeg yn rhugl? Os mai “ydw” yw eich ateb i’r cwestiynau hyn a bod gennych ddiddordeb mewn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru a sicrhau, pan fydd gwasanaethau’n methu, bod modd troi at system gwyno annibynnol, fe allai’r swydd hon fod yn addas i chi.

Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn awyddus i recriwtio Hyfforddai Graddedig i ymgymryd â rhaglen ddatblygu bwrpasol dros dair blynedd sy’n arwain at fod yn Swyddog Ymchwilio.

Mae Swyddogion Ymchwilio yn ymchwilio i gwynion oddi wrth aelodau’r cyhoedd am driniaeth annheg neu wasanaeth gwael oherwydd diffyg o ryw fath ar ran cyrff cyhoeddus datganoledig yng Nghymru. Bydd yr Ombwdsmon hefyd yn ymchwilio i gwynion bod Cynghorwyr mewn awdurdodau lleol yng Nghymru o bosib wedi torri Cod Ymddygiad statudol eu cyngor. Fel Swyddog Ymchwilio, byddwch yn canolbwyntio ar yr achosion mwyaf difrifol ac yn rheoli llwyth achosion sy’n amrywio o ran cymhlethdod, ar draws nifer o feysydd, gan ddarparu profiad da i gwsmeriaid. Byddwch yn:

- Dadansoddi gwybodaeth fanwl er mwyn cyrraedd a deall craidd y gŵyn
- Canfod a chael tystiolaeth yn brydlon
- Gwneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth, a chyflwyno’r penderfyniadau hyn mewn adroddiadau ysgrifenedig grymus
- Ymgysylltu’n effeithiol â’r achwynydd drwy gydol yr ymchwiliad
- Datrys achosion drwy ymgysylltu’n adeiladol
- Gweithio’n annibynnol a defnyddio awdurdod dirprwyedig i wneud penderfyniadau ar ran yr Ombwdsmon

Mae disgrifiad llawn a gwybodaeth ychwanegol ar gael ar y dudalen “Ymunwch â Ni” ar ein gwefan.

**Am beth rydym ni’n chwilio**
- Rhywun sydd wedi graddio’n ddiweddar neu a fydd yn graddio eleni yn y Gyfraith, Gweinyddiaeth Gyhoeddus neu faes pwnc tebyg
- Cymraeg rhugl ar lafar ac ar bapur
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol, ar lafar ac ar bapur
- Gallu a chymhelliant i gwblhau rhaglen ddatblygu dros dair blynedd
- Rhywun sydd ag awydd i ddatblygu i fod yn Swyddog Ymchwilio

**Beth yw’r manteision i chi**
- Cyfle i ddatblygu sgiliau Swyddog Ymchwilio gyda swydd sicr fel Swyddog Ymchwilio ar ddiwedd y rhaglen dair blynedd
- Rhaglen hyfforddi strwythuredig i ymestyn eich sgiliau a’ch galluoedd
- Cyfle i weithio gyda thîm gwych i wneud gwahaniaeth go iawn, gan ddarparu cyfiawnder ac arwain at welliannau
- Amrywiaeth o waith
- Cyflog cystadleuol sy’n cynyddu
- Lwfans gwyliau blynyddol o 32 o ddiwrnodau a gwyliau banc ar ben hynny
- Mae’r manteision eraill yn cynnwys; Pensiwn y Gwasanaeth Sifil, cynllun oriau hyblyg, aelodaeth ratach o gampfa, cynlluniau prynu am bris gostyngol
- Cyfleusterau rhagorol ar y safle pan fyddwch yn gweithio ar y safle, a chyfarpar ar gyfer gweithio gartref

**I wneud cais**

Bydd yr ymatebion a roddwch yn y ffurflen gais yn cael eu defnyddio i lunio’r rhestr fer ar gyfer y swydd.

**Mae’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus yn Gyflogwr Cyfle Cyfartal.**

**Mae amrywiaeth a chynhwysiant yn ganolog i bopeth a wnawn. Rydym wedi ymrwymo’n weithredol i hyrwyddo a chymryd rhan mewn arferion da yn y ffordd rydym yn denu, yn recriwtio ac yn cadw staff.**

**Rydym yn annog pawb i ddod â nhw eu hunain yn llwyr i’r gwaith oherwydd ein bod yn gwerthfawrogi’r gwerth y mae gweithlu gwirioneddol amrywiol yn ei roi i sefydliad. Rydym yn dathlu gwahaniaeth, gan gydnabod y manteision a ddaw yn sgil hyn i’n diwylliant cynhwysol, gan gynnwys oed, anabledd, hunaniaeth o ran rhywedd a mynegiant, crefydd, hil, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol a chefndir economaidd-gymdeithasol.**

**GRADUATE TRAINEE INVESTIGATION OFFICER (FLUENT WELSH SPEAKER)**

Contract Type: Permanent

Working Pattern: Full time/Hybrid - Bridgend/Home

Working Hours: 37 hours per week

**Salary**:
Year 1 £27,000

Year 2 £30,000

Year 3 £33,000

Year 4 £37,338

Year 5 onwards annual increments up to £48,474 pa

Function Type: Complaint Investigations

The Public Services Ombudsman for Wales is looking to recruit a Graduate Trainee to undertake a dedicated three year development programme which leads to becoming an Investigation Officer.

Investigation Officers investigate complaints from members of the public about unfair treatment or poor service through some failure on the part of devolved public bodies in Wales. The Ombudsman also investigates complaints made about Councillors within local authorities in Wales who may have breached their council’s statutory Code of Conduct. As an Investigation Officer, you will fo



  • Bridgend, United Kingdom Public Services Ombudsman for Wales Full time

    **Investigation Officer** Contract Type: Permanent Working Pattern: Full time Working Hours: 37 hours per week **Salary**: £33,486 - £44,625 p.a. Location: Hybrid or remote working Function Type: Investigations Are you passionate about public services in Wales and ensuring that where services fall short, there is recourse through an independent...


  • Bridgend, United Kingdom Public Services Ombudsman for Wales Full time

    **Code of Conduct Lead Officer** Contract Type: Permanent Working Pattern: Full time Working Hours: 37 hours per week **Salary**: £44,625 - £48,876 p.a. Location: Hybrid or remote Function Type: Complaint Investigations Are you passionate about public services in Wales and upholding standards in public life? Would you like to be part of an...


  • Bridgend CF AP, United Kingdom G4S Full time £30,267 - £33,219 per year

    SWYDDOG DDALFA Y CARCHARCEF a STI PARC, PEN-Y-BONT AR OGWR, CF35 6APParhaol, Llawn Amser (40 awr yr wythnos gyda shifftiau amrywiolCyflog Cychwynnol £30,267.00Ar ôl 1 mlynedd o wasanaeth £31,036.50Ar ôl 3 blynedd o wasanaeth £32,319.00Ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth £33,858.00Ar ol cwbwlhau eich 12 mis cyntaf o wasanaeth a'ch cyfnod prawf terfynol yn...


  • Bridgend, United Kingdom Public Services Ombudsman for Wales Full time

    Swyddog Ymchwiliadau Math o Gontract: Parhaol ac Amser Llawn Oriau Gwaith: 37 awr yr wythnos Cyflog: £37,338 - £48,474 y flwyddyn Lleoliad: Gweithio hybrid neu o bell Math o Swyddogaeth: Ymchwiliadau A ydych chi’n teimlo’n angerddol am wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru a sicrhau, pan fydd gwasanaethau’n methu, y gellir troi at rywun am gymorth...


  • Bridgend, United Kingdom Bridgend College Full time

    **Work Based Learning Liaison Officer** **Full Time Permanent (37 hours per week)** **Salary Scale 4 (points 21-24) : £21,846 - £24,242 per annum**: You will undertake the apprentice review visits for Bridgend College Work Based Learning and other associated training providers. You will have a minimum of GCSE Grade C or above in English and Mathematics, an...