Gweithiwr Man Addasiadau

2 weeks ago


Wales, United Kingdom Grwp Cynefin Full time

Diolch am eich diddordeb yn y swydd Gweithiwr Man Addasiadau / Small Repairs Operative efo "Canllaw". Pwrpas y swydd: - Gosod canllawiau, rampiau, cadeiriau cawod ayyb yn unol â gofynion yr asesydd ar unigolyn. Mae "Canllaw" yn is-gwmni i Grŵp Cynefin. Nod "**Canllaw"** yw galluogi pobl i fyw yn eu cymunedau. Rydym yn fenter gymdeithasol syn gweithredu ar draws Gwynedd ac Ynys Môn, gan ddarparu gwasanaethau tai mewn ymateb i anghenion pobl hŷn neu bobl fregus lleol. Mae ein gwasanaethau yn cynnwys: **"Canllaw Addasu"** - Gwasanaeth masnachol o gynnal addasiadau priodol yng nghartrefi pobl hŷn neu bobl fregus, er mwyn iddynt gynnal eu hannibyniaeth. **"Canllaw Technegol"** - Gwasanaeth proffesiynol o ddylunio, cynllunio, archwilio a goruchwylio gwaith adeiladu, boed gwaith mawr neu fach. Yn gwasanaethu cleientiaid syn bobl hŷn neu bobl fregus. **'Gofal a Thrwsio Gwynedd a Môn**' Gwasanaeth rhad ac am ddim i bobl 60 oed a drosodd iw cynghori a chefnogi i gynnal, gwella neu addasu eu cartrefi. Yn benodol yn y sector breifat, ac wedi ei ariannun bennaf gan Lywodraeth Cymru. Mae **Grŵp Cynefin** wedi bod yn darparu tai o ansawdd, syn ddiogel a fforddiadwy dros chwe sir gogledd Cymru a gogledd Powys i dros 8,000 o bobl ers 2014. Rydym yn gweithion galed i ddarparu tai a gwasanaethau rhagorol, i gyfrannu i ddatblygiad cymunedau cynaliadwy a gwarchod a hybur iaith Gymraeg gyda balchder. Rydyn ni am gynyddu iechyd a lles ein cymunedau ir eithaf, creu cyfleoedd i newid bywydau a siapio lleoedd syn sicrhau dyfodol cynaliadwy. Maer swydd hon yn cynnig cyfle i unigolion syn awyddus i ddatblygu gyrfa yn y maes tai mewn awyrgylch Gymreig lle maer amodau gwaith yn flaengar a chyfeillgar ir teulu. Os hoffech sgwrs pellach am y swydd, cysylltwch a Gwenno Jones, Rheolwr Canllaw Addasu ar 0300 1110210. **Y Swydd**: **Math o gytundeb**: Parhaol **Cyflog Spot**:£30,244 y flwyddyn **Gwyliau**:30 diwrnod y flwyddyn yn ogystal âr gwyliau banc statudol ar cyfnod rhwng y Nadolig ar Flwyddyn Newydd **Teithio**:Defnyddio cerbyd, a ddarperir gan y cwmni, syn cyd-fynd âr dibenion gwaith, i'w ddefnyddio yn amser Canllaw yn unig. **Pensiwn**: Mae Grŵp Cynefin yn cynnig darpariaeth pensiwn trwy Gynllun Social Housing Pension Scheme (SHPS) **Disgrifiad Swydd**:DS Gweithiwr Man Addasiadau 09.2025.pdf** **Buddiannau**:Pecyn Buddion.pdf Benefits Package.pdf **Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)** Byddwn yn gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau gwiriad Sylfaenol gyda rhestrau gwahardd ar gyfer y swydd hon. **Mae'r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg ar Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.