Welsh Headings

3 days ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae'r Gwasanaeth Cyngor i Mewn i Waith yn cynnig pecyn cyflogaeth cynhwysfawr i bobl ledled y ddinas sydd wrthi'n chwilio am waith neu'n ceisio gwella'u sgiliau; mae'r tîm yn gallu cynnig cymorth a mentora dwys drwy brosiect a ariennir yn allanol, cyfleoedd gwirfoddoli a mynediad i gyrsiau digidol a hyfforddiant sgiliau gwaith am ddim.

Mae'r Gwasanaeth Cyngor i Mewn i Waith yn cynnwys nifer o ffrydiau gwahanol gan gynnwys y Porth (cymorth clwb gwaith), Mentora Oedolion, Mentora Ieuenctid, Gwirfoddoli, Cyswllt Cyflogwyr a’r Academi Adeiladu Ar y Safle, Dysgu Oedolion, Sgiliau Digidol, Caerdydd ar Waith ac Ansawdd a Pherfformiad.
**Am Y Swydd**
Bydd y Rheolwr i Mewn i Waith yn gyfrifol am bob un o reolwyr y gwahanol dimau (a enwir uchod) gan gynnwys asiantaeth fewnol y Cyngor, Caerdydd ar Waith, a bydd yn gyfrifol am y Fframwaith a Reolir gan Asiantaeth y Cyngor.

Bydd y rôl yn rheoli'r gwasanaeth yn gyffredinol a bydd yn gyfrifol am ddod o hyd i gyllid a gwneud ceisiadau llwyddiannus amdano i barhau â'r gwasanaeth blaenoriaeth hwn ar ôl Brexit, ar ôl i Gyllid Cymdeithasol Ewropeaidd gael ei dynnu'n ôl. Bydd y rôl hefyd yn arwain y gwasanaeth gyda chyfeiriad strategol ac yn sicrhau bod camau gweithredu’n cyd-fynd â strategaethau’r Awdurdod Lleol, Addewid Caerdydd, y Fargen Ddinesig, Llywodraeth Cymru a darparwyr cyllid allanol.

Bydd y Rheolwr i Mewn i Waith yn gweithio'n strategol gyda chyflogwyr a sefydliadau sy'n cynnig manteision cymunedol, i weithredu fel cynorthwy-ydd broceriaeth i helpu cwsmeriaid y Gwasanaeth i Mewn i Waith i fanteisio ar fwy o gyfleoedd, gan gynnwys cyfweliadau sicr, lleoliadau gwaith a swyddi gwag.

Bydd y rôl yn ceisio addasu'r gwasanaeth yn unol ag anghenion y dirwedd economaidd, gan sicrhau bod cwsmeriaid yn cael cymorth cyflogaeth a sgiliau cyfredol a mynd i'r afael â'r bwlch sgiliau yn y ddinas drwy greu ymgeiswyr medrus a pharod i gyflogwyr.
**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus wybodaeth a phrofiad helaeth yn y meysydd cyflogaeth a sgiliau a bydd ganddo’r gallu i arwain, cynllunio a rheoli newid. Mae hanes cryf o reoli adnoddau a pherfformiad yn effeithiol yn hanfodol, yn ogystal â'r gallu i sicrhau canlyniadau rhagorol i gwsmeriaid.

Bydd gan yr unigolyn cywir y weledigaeth i adnabod cyfleoedd yn y dyfodol i ddatblygu’r gwasanaeth, bydd ganddo hanes amlwg o gyflawni rhaglenni newid ar raddfa fawr a bydd ganddo’r gallu i gynllunio’n strategol ar gyfer anghenion y gwasanaeth.

Mae hwn yn gyfle cyffrous i ddod yn aelod o’r Tîm Rheoli Cyngor; bydd gofyn i chi ysgogi a dylanwadu ar eraill, a chydweithio â gwasanaethau eraill a phartneriaid a rhanddeiliaid er mwyn sicrhau canlyniadau cadarnhaol.
**Gwybodaeth Ychwanegol**
Bydd y swydd yn gofyn am weithio o nifer o leoliadau gwahanol, gan gynnwys Neuadd y Sir, Hyb y Llyfrgell Ganolog a Hybiau Cymunedol eraill.

Mae’r swydd hon yn amodol ar Wiriadau Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: PEO01552



  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Bilingual Cardiff's remit is to take a leading role in developing a fully bilingual Cardiff where citizens and Cardiff Council staff can access services and support of the same standard in Welsh and English. The team is responsible for facilitating and promoting the Welsh language in Cardiff in conjunction with our partners, and assisting...

  • Head of Security

    7 days ago


    Cardiff, United Kingdom Welsh Parliament Full time

    **Details**: **Reference number**: - 377801**Salary**: - £73,350 - £85,779- Please note, the starting salary will normally be offered at the minimum of the band.- A Civil Service Pension with an employer contribution of 28.97%**Job grade**: - Grade 6- Executive Band 1**Contract type**: - Permanent**Business area**: - WP - Security**Type of role**: -...


  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Welsh Assembly Government Communication Centre Home Full time

    ID 3263The Welsh Government operates name-free recruitment. The recruiting panel will not see personal information such as a candidate's name and address during the sifting process. This policy is in line with our commitment to end bias and promote equality and diversity.Vacancy detailsVacancy titleHead of ALN Delivery and ImprovementClosing date09/12/2025,...

  • Seasonal Ranger

    1 week ago


    Cardiff, United Kingdom Welsh Water Full time

    Seasonal Ranger (Lisvane Reservoir) **Date**:19 May 2025 **Company**:DWR Cymru Cyfyngedig Welsh Water Plc **City**:Cardiff **Address**:Cardiff, Wales, GB, CF14 0BB **Job Requisition Number** - 7481**Work Type** - Casual**Job Function** - Leisure and Hospitality**Salary Range** - £12.71 / hour**Base** **Closing Date** Llanishen **What you’ll be...


  • Cardiff, United Kingdom Welsh Water Full time

    Public Affairs Advisor - Fixed Term Contract **Date**:17 Jun 2025 **Company**:DWR Cymru Cyfyngedig Welsh Water Plc **City**:Cardiff **Address**:Cardiff, Wales, GB, CF30LT **Job Requisition Number** - 7727**Work Type** - Temporary / 12 month FTC**Job Function** - Human Resources & Comms**Salary Range** - £45,843.00 -£52,720.00**Base** -...


  • Cardiff, United Kingdom New Directions Full time

    Job Description New Directions are looking to recruit Welsh Speaking LSAs to work in Welsh-medium primary schools in the Caerphilly area. Job Specification Working within a Welsh medium school is not only rewarding but essential in keeping the Welsh language prominent within our society. We are looking for reliable and responsible individuals, who are...


  • Cardiff, United Kingdom Teaching Personnel Full time

    Welsh Speaking Unqualified Teacher Location: CardiffDays & Hours: Full time: Monday to Friday, 08:30 – 15:00 Part time: Flexible days availablePay: £110 per dayStart Date: 19th of January 2026Full time contract: Until the end of the academic year 2026 Ydych chi’n siarad Cymraeg ac yn awyddus i ddefnyddio eich sgiliau iaith mewn rôl addysg? Are you a...


  • Cardiff, United Kingdom New Directions Full time

    Job Description New Directions are looking to recruit an LSA to work in a school in the West of Cardiff. This is a long-term, mornings only role to start as soon as possible. Job Specification Working within a Welsh medium school is not only rewarding but essential in keeping the Welsh language prominent within our society. We are looking for reliable and...


  • Cardiff, United Kingdom Welsh Revenue Authority Full time

    **Details**: **Reference number**: - 385411 **Salary**: - £45,974 - £54,430 - A Civil Service Pension with an employer contribution of 28.97% **Job grade**: - Senior Executive Officer **Contract type**: - Permanent **Business area**: - WRA - Strategy **Type of role**: - Customer Insight **Working pattern**: - Flexible working, Full-time, Job...


  • Cardiff, United Kingdom Welsh Water Full time

    Strategic Asset Planning Lead (Wastewater) **Date**:15 Apr 2025 **Company**:DWR Cymru Cyfyngedig Welsh Water Plc **City**:Cardiff **Address**:Cardiff, Wales, GB, CF3 0LT **Job Requisition Number** - 7168**Work Type** - Permanent**Job Function** - Operational**Salary Range** £50,958 - £59,877**Base** **Closing Date** South East Hub South or North...