Gofalwr

2 days ago


Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

**Amdanom ni**
Mae Cyrsiau’r Fro yn rhaglen hwyliog a chreadigol sy’n cynnwys gweithgareddau dysgu hamdden a lles ar gyfer oedolion (dros 16 oed) ledled Bro Morgannwg. Mae’r rhaglen hon yn cael ei hunan-ariannu ac mae’n gynaliadwy drwy’r incwm o ffioedd y cyrsiau. Mae’r rhaglen yn cynnig ystod eang o bynciau gyda hyd ac amseroedd amrywiol i fod yn addas i anghenion unigol. Defnyddir adeilad yr Hen Neuadd ar gyfer y gweithgareddau dysgu oedolion hyn ynghyd ag arddangosfeydd celf a siopau dros dro.
**Ynglŷn â'r rôl**
Darparu dyletswyddau gofalu, cynnal a chadw a diogelwch ar gyfer Hen Neuadd, Y Bont-faen. Cynnal gwiriadau cydymffurfio arferol ac asesiad risg o’r adeilad yn unol â gofynion iechyd a diogelwch ac adrodd am unrhyw broblemau. Profi’r larwm tân, goleuadau brys a phrofi am legionella yn rheolaidd. Darllen mesuryddion, rheoli a monitro’r system wresogi. Gosod ystafelloedd dosbarth ar gyfer addysgu, symud dodrefn ac offer. Monitro diogelwch offer ystafell ddosbarth a diweddaru'r rhestr eiddo. Cynnal a chadw cyffredinol yr adeilad i gynnwys mân atgyweiriadau (e.e. gwaith coed/plymio), paentio ac addurno. Ymgymryd â dyletswyddau glanhau a garddio y tu allan i'r adeilad. Gwaredu gwastraff a sbwriel sydd i’w ailgylchu. Cyfathrebu gyda chontractwyr ar y safle.
**Amdanat ti**
Bydd angen y canlynol arnoch:

- Sgiliau cyfrifiadurol i gofnodi a diweddaru gwiriadau cydymffurfio
- Safon gyffredinol dda o sgiliau gwaith y cartref, e.e. Gosod silffoedd, paentio ac addurno, gwaith trwsio i gyfleusterau megis drysau, toiledau ac ati.
- Gwybodaeth am Iechyd a Diogelwch ac Asesu Risg Tân
- Gallu gweithio o’ch pen a’ch pastwn eich hun. Bod yn hyblyg gan gynnwys yn ystod y dydd, gyda'r nos ac ar benwythnosau.
- Gallu cyfathrebu a gweithio fel rhan o dîm.

**Gwybodaeth Ychwanegol**

Angen gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG): Oes Safonol

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â: Rheolwr Sally Perini 01446 773831

Gweler y disgrifiad swydd / manyleb person atodedig i gael rhagor o wybodaeth.

Job Reference: LS00306


  • Gofalwr

    1 week ago


    Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Pafiliwn Pier Penarth yn lleoliad eiconig gyda sawl gofod ar gyfer digwyddiadau sy'n dal rhwng 10 a 150 o bobl. Mae'r Pafiliwn yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau drwy gydol y flwyddyn, ac mae'r rhain yn cynnwys cymysgedd o ddigwyddiadau cymunedol, cyhoeddus a phreifat fel priodasau, cyfarfodydd, cerddoriaeth fyw, sgyrsiau celf ac...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Am y Rôl** Mae Corff Llywodraethol Ysgol Gynradd AGC St Andrews yn dymuno penodi gofalwr. Mae'r rôl yn cynnwys agor a chau ysgol addysg uwch, cynnal diogelwch ac iechyd a diogelwch holl staff a disgyblion yr ysgol, cynnal a chadw a chynnal a chadw adeilad yr ysgol a thir yr ysgol. Manylion tâl: £12.18-£12.59 yr awr Oriau Gwaith / Wythnosau y...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Tîm gweinyddol yn cynnig cefnogaeth a chymorth i dimau sy’n cynnig gwasanaeth i blant a theuluoedd Bro Morgannwg. **Ynglŷn â'r rôl** Manylion am gyflog: Gradd 3 SCP 4 £21,189 y flwyddyn Oriau Gwaith / Patrwm Gweithio: 37 awr yr wythnos. Dydd Llun - Dydd Gwener Prif Weithle: Swyddfa’r Dociau/Ystwyth **Disgrifiad**: - Rydym yn...