Current jobs related to Hysbyseb Swydd Pennaeth Ysgol Gynradd High Street - Barry - Vale of Glamorgan Council
-
Pennaeth - Ysgol Gynradd Gladstone
6 days ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Mae Ysgol Gynradd Gladstone yn ysgol fendigedig sy'n dyddio'n ôl i 1906 ac sy'n cynnwys dau brif adeilad gyda meysydd chwarae a mannau gwyrdd helaeth. Saif yr ysgol mewn lleoliad godidog yn edrych dros Gladstone Road gyda golygfeydd ar draws i Ddociau'r Barri a Môr Hafren. Ar hyn o bryd mae 442 o ddisgyblion ar y gofrestr (3-11 oed) gyda...
-
Pennaeth Cynorthwyol
2 weeks ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Wedi'i lleoli ym mhen gorllewinol tref arfordirol Y Barri ym Mro Morgannwg, mae Ysgol Gynradd y Romilly yn ysgol fawr ond cyfeillgar a chynhwysol gyda threftadaeth a safle balch o fewn y gymuned leol. Mae wedi mwynhau enw da ers amser maith am ddarparu addysg a gofal bugeiliol o safon uchel yn gyson. Arwyddair ein hysgol yw "Dysgu Tyfu a...
-
Pennaeth - Ysgol Gynradd Oak Field
4 days ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Rydym yn ysgol gymunedol yng nghanol Gibbonsdown - Y Barri. WeRydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein teuluoedd a'n staff yn tyfu mewn hyder, annibyniaeth, gwytnwch a gwybodaeth, fel bod pob un yn ffynnu ac yn cyflawni eu potensial llawn, wrth ddatblygu cariad gydol oes at ddysgu a'r byd o'n cwmpas. Rydym yn gweithio gyda theuluoedd ac ar draws...
-
Goruchwyliwr Canol Dydd
6 days ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Mae Corff Llywodraethol Ysgol Gynradd AGC St Andrews yn dymuno penodi Goruchwyliwr Cinio Canol Dydd parhaol i ymuno â'n hysgol gyfeillgar. Byddwch yn goruchwylio plant dros amser cinio. Byddai hyn yn cynnwys dyletswyddau meysydd chwarae, yn ogystal â gwlyb chwarae yn yr ystafell ddosbarth a goruchwylio neuaddau bwyta a dyletswyddau glanhau...
-
Cynorthwy-ydd Cymorth Dysgu Lefel 3
6 days ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Ynglŷn â’r Ysgol** - Rydym yn ysgol gynradd Fictoraidd fawr gyda 453 o ddisgyblion ar y gofrestr (gan gynnwys 39 meithrin). Mae gennym 23 o athrawon ac 16 o Gynorthwywyr Cymorth Dysgu. - Mae gennym 6.28% o blant ag ADY a 2.4% â SIY a 10.14% PYADd. - Wedi ein lleoli ym Mhenarth, rydym yn ddalgylch amrywiol gyda rhieni a llywodraethwyr cefnogol iawn. -...
-
Athro Dosbarth Dros Dro
6 days ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Mae Ysgol Gynradd Llanhari CiW yn ysgol arloesol, gynhwysol dan arweiniad ein Gwerthoedd Cristnogol. Mae gennym ddyheadau uchel ar gyfer pob dysgwr ac rydym yn sicrhau bod pob plentyn yn cyrraedd ei botensial llawn. **Am y Rôl** Manylion cyflog: Prif Raddfa Cyflog Oriau Gwaith / Wythnosau y flwyddyn / Patrwm Gwaith: Llawn Amser Prif Waith...
-
Lsa - Ysgol Gynradd Romilly
6 days ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Wedi'i lleoli ym mhen gorllewinol tref arfordirol Y Barri ym Mro Morgannwg, mae Ysgol Gynradd y Romilly yn ysgol fawr ond cyfeillgar a chynhwysol gyda threftadaeth a safle balch o fewn y gymuned leol. Mae wedi mwynhau enw da ers amser maith am ddarparu addysg a gofal bugeiliol o safon uchel yn gyson. Arwyddair ein hysgol yw "Dysgu Tyfu a...
-
Athro - Ysgol Gynradd Ynys y Barri
2 weeks ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Gweledigaeth Ysgol Gynradd Ynys y Barri: 'Cyffroi, Cymell ac Arloesi - Ymdrechu am Ragoriaeth Gyda'n Gilydd.' Mae Ysgol Gynradd Ynys y Barri yn ysgol fywiog sy'n gwasanaethu cymuned Ynys y Barri. Rydym yn awyddus i benodi athrawon deinamig a thalentog i ymuno â thîm hapus a gweithgar. Rydym yn chwilio am athrawon sydd ag angerdd i gefnogi...
-
Cynorthwy-ydd Cymorth Dysgu
2 weeks ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Mae Ysgol Gynradd Evenlode yn ysgol dau ddosbarth mynediad ffyniannus ym Mhenarth **Am y Rôl** Cyfeirnod y swydd (i'w ddefnyddio ar y ffurflen gais): EPS-LSA2 Manylion Cyflog: Lefel 2 (Gradd 4) £21, 575 - £22,369 pro rata Oriau Gwaith / Wythnosau’r Flwyddyn / Patrwm Gwaith: 32.5 awr yr wythnos / 39 wythnos y flwyddyn Prif Weithle: Ysgol...
-
Gweithiwr Chwarae
2 weeks ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Rydym yn croesawu ceisiadau am Weithiwr Chwarae i weithio yn ein Clwb y Tu Allan i Oriau Ysgol, sydd wedi’i leoli yn Ysgol Gynradd Evenlode. Mae hwn yn gyfle gwych i ymuno â thîm uchel ei barch sy'n darparu gofal plant o ansawdd uchel. **Am y Rôl** Manylion Tâl: Gradd 1, SCP 2 £9.90 yr awr Oriau: Cyfanswm yr oriau i'w cytuno - Cyn...
Hysbyseb Swydd Pennaeth Ysgol Gynradd High Street
3 weeks ago
**Amdanom ni** Mae Ysgol Gynradd High Street yn St Paul's Avenue, Y Barri yn adeilad Fictoraidd mawr gyda'i nodweddion gwreiddiol yn dyddio'n ôl i 1889 ond wrth ddod i mewn fe welwch amgylchedd dysgu o’r 21ain ganrif. Dim ond milltir i ffwrdd o ynys eiconig y Barri. Mae'r ysgol wedi'i bendithio ag ardal ysgol natur/coedwig, a nifer o ardaloedd dysgu y tu allan wedi'u datblygu'n dda i ddiwallu anghenion y 250 disgybl sydd yn yr ysgol ar hyn o bryd. Mae Corff Llywodraethu Ysgol Gynradd High Street yn edrych ymlaen, ar ran y disgyblion, y rhieni a'r staff, at recriwtio Pennaeth ysbrydoledig i arwain yr ysgol lwyddiannus, hapus a chynhwysol hon a chefnogi pob disgybl i gyrraedd y sêr. Rydym yn chwilio am arweinydd cydweithredol a gweledigaethol i groesawu ein cenhadaeth barhaus; creu amgylchedd dysgu diogel a hapus. Rydym yn chwilio am Bennaeth brwdfrydig, ysbrydoledig ac arloesol a fydd yn sicrhau bod pawb yn cael eu hannog i gyflawni eu potensial trwy gwricwlwm heriol, cyffrous a chynhwysol a datblygu'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer dysgu gydol oes. **Closing date: Tuesday 20 June at 12pm/Dydd Mawrth 20 Mehefin am 12pm** **Am y Rôl** Manylion am gyflog: L15-L21 Diwrnodau / Oriau Gwaith: Llawn amser Parhaol/Dros Dro: Parhaol **Amdanat ti** Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus: - yn meddu ar hanes y gellir ei brofi o sgiliau addysgu a rheoli; - yn dangos sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu cryf; - yn ymrwymedig i gynnal safonau uchel a gwelliant parhaus; - yn frwdfrydig dros gynnal y partneriaethau rhwng disgyblion, rhieni, staff, llywodraethwyr a'r gymuned ehangach; - yn gweithredu a dangos gweledigaeth glir o ddatblygiad parhaus yr ysgol gynradd lwyddiannus hon; - yn ymrwymedig i ddatblygu llais y disgybl ymhellach, a gweithio mewn partneriaeth â rhieni; - yn rheolwr pobl effeithiol sy’n ymrwymedig i'w les a'i ddatblygiad ei hun a lles a datblygiad ei dîm. Gall yr Ysgol gynnig y canlynol i chi: - Ysgol groesawgar, cyfeillgar a hapus gyda phlant brwdfrydig sy'n awyddus i ddysgu ac sy'n bleser i’w haddysgu; - Uwch Dîm Arwain galluog ac effeithiol, sy’n ymrwymedig i gyflawni'r canlyniadau gorau i'n plant ; - Staff cyfeillgar, ymroddedig a gweithgar; - Corff llywodraethu cefnogol iawn; - Ymrwymiad i’ch datblygiad proffesiynol a’ch lles eich hun; - Yr ymrwymiad i weithio mewn partneriaeth â theuluoedd sy'n frwd dros sicrhau bod eu plant yn cyrraedd eu potensial; - Cyfleoedd i feithrin a datblygu partneriaethau gydag amrywiaeth o asiantaethau yn y gymuned, ac - Amgylchedd meithringar lle mae pob plentyn a phob person yn cael ei werthfawrogi. Yn 2018, dywedodd Estyn..."Mae'r ysgol yn amgylchedd diogel, hapus a gofalgar lle mae staff yn annog disgyblion i ddatblygu gwerthoedd personol parch, goddefgarwch a thegwch. Mae lles disgyblion wrth wraidd ethos yr ysgol ac mae hyn yn sicrhau bod yr ysgol yn noddfa lle gall disgyblion ffynnu a dysgu. Mae athrawon a staff cymorth yn adnabod y disgyblion yn dda ac yn ymateb i'w hanghenion emosiynol a chorfforol gyda dealltwriaeth a sensitifrwydd."...ac rydym yn credu ein bod wedi mynd o nerth i nerth ac yn parhau i adeiladu ysgol y gall pawb fod yn falch i ddysgu a thyfu ynddi. Oes angen gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd?: Manwl **Sut i wneud cais** Am wybodaeth bellach, cysylltwch â: Jamie Phillips, Chair of Governors via the school on 01446 734553 Dylid dychwelyd ceisiadau trwy e-bost at John Sparks yn yr Uned Cymorth Job Reference: SCH00556