Peiriannydd (Beicio)
7 days ago
**Am Y Gwasanaeth**
Yn rhan o’r Gyfarwyddiaeth Cynllunio, Trafnidiaeth a’r Amgylchedd, mae Tîm y Rhaglen Drafnidiaeth yn gyfrifol am gyflawni rhaglenni a phrosiectau allweddol sy'n gysylltiedig â Gweledigaeth Papur Gwyn Trafnidiaeth y Cyngor. Mae'r prosiectau'n cynnwys datblygu canol y ddinas, beicffyrdd, blaenoriaeth bysus, Coridorau Clyfar, strategaeth barcio, prosiectau parcio a gorchmynion rheoli traffig.
**Am Y Swydd**
Fel Swyddog Arweiniol yn Nhîm y Rhaglen Drafnidiaeth, byddwch yn cefnogi'r gwaith o ddatblygu a gweinyddu'r Rhaglen Drafnidiaeth, ac yn gweithio ar sawl prosiect trafnidiaeth cysylltiedig. Mewn cyfnod cyffrous a thrawsnewidiol ar gyfer rhwydwaith trafnidiaeth y Ddinas, byddwch yn cael eich gosod wrth galon y broses o symud pethau i'r lefel nesaf. Byddwch yn gweithio gyda'r tîm i symud pethau ymlaen ac adeiladu ar rai o'r cynlluniau arloesol sydd eisoes wedi eu cyflawni. Byddwch yn gweithio ar y rhaglen ehangach, felly cewch drosolwg gwych o'r hyn sy'n digwydd a'r hyn sydd wedi'i gynllunio ar gyfer y dyfodol. Byddwch hefyd yn gweithio ar brosiectau unigol o fewn y rhaglen i gael profiad o gyflwyno prosiectau trafnidiaeth allweddol drwy gylch bywyd y prosiectiau ac ar lawr gwlad.
**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Bydd gennych brofiad o weithio ar brosiectau o'r dechrau i'r diwedd. Mae gwybodaeth dda am seilwaith a thirwedd trafnidiaeth Caerdydd yn fuddiol. Bydd gennych hefyd sgiliau trefnu gwych, profiad o reoli contractau a lefel dda o brofiad o reoli rhanddeiliaid.
**Gwybodaeth Ychwanegol**
Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:
- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol
Gwybodaeth Ychwanegol:
- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd
Job Reference: PLA00224