Cynghorydd Gwasanaeth Cwsmer

2 weeks ago


Gwynedd, United Kingdom Grwp Cynefin Full time

Diolch am eich diddordeb yn y swydd uchod.

Mae Grŵp Cynefin wedi bod yn darparu tai o ansawdd, syn ddiogel a fforddiadwy dros chwe sir gogledd Cymru a gogledd Powys i dros 8,000 o bobl ers 2014.

Rydym yn gweithion galed i ddarparu tai a gwasanaethau rhagorol, i gyfrannu i ddatblygiad cymunedau cynaliadwy a gwarchod a hybur iaith Gymraeg gyda balchder.

Rydyn ni am gynyddu iechyd a lles ein cymunedau ir eithaf, creu cyfleoedd i newid bywydau a siapio lleoedd syn sicrhau dyfodol cynaliadwy.

Rydym yn chwilio am unigolyn angerddol a brwdfrydig i ymuno ân tîm. Mae hwn yn gyfle cyffrous ir person cywir a rhywun syn ffynnu mewn amgylchedd heriol ac yn awyddus i wneud gwahaniaeth. Fel aelod or Tîm Cyswllt Cynefin, byddwch yn darparu gwasanaeth rheng flaen o ansawdd uchel ar draws amrywiol gyfryngau cyfeillgar ir cwsmer fel bod Grŵp Cynefin yn rhagori. Byddwch yn gweithio fel rhan o Dîm syn canolbwyntio ar y cwsmer i gyflawni dangosyddion perfformiad allweddol. Byddwch ag agwedd ei gyflawni heddiw gyda meddylfryd gweithredu yn syth.

Rydym yn chwilio am rywun sydd âr un ysfa a ni i ddarparu cartrefi a lleoedd cynaliadwy lle mae ein cwsmeriaid eisiau byw.

Dylai eich gwerthoedd adlewyrchu ein gwerthoedd ni ac rydym yn chwilio am unigolyn sy'n rhoi'r cwsmer wrth wraidd bob dim y maent yn ei gyflawni.

Os oes gennych yr ysfa ar angerdd i fod yn allweddol wrth wneud gwahaniaeth i ddyfodol pobl, hon ywr swydd i chi.

Os hoffech sgwrs pellach am y swydd, cysyllwch ag Ann Vaughan Jones, Rheolwr Gwasanaeth Cwsmer, ar 0300 111 2122.

**Y Swydd**

**Math o gytundeb**:Parhaol

**Cyflog**:£24,522 - £27,600 pro rata

**Oriau**: 21 ayw (Llun, Mawrth a Mercher)

**Gwyliau**:30 diwrnod y flwyddyn pro rata yn ogystal âr gwyliau banc statudol ar cyfnod rhwng y Nadolig ar Flwyddyn Newydd

**Teithio**:Defnyddiwr Car Achlysurol

**Pensiwn**:Mae Grŵp Cynefin yn cynnig darpariaeth pensiwn trwy Gynllun Social Housing Pension Scheme (SHPS)

**Disgrifiad Swydd**

DS Cynghorydd Gwasanaeth Cwsmer 21.pdf

JD Customer Service Advisor 21.pdf

**Buddiannau**

**GC Buddion 2024 Cymraeg-compressed.pdf**

**Benefits Package.pdf**

**Datblygiad Personol**:
Os oes gennych gymwysterau proffesiynol ach bod yn talu ffioedd proffesiynol blynyddol ich corff aelodaeth, byddwn yn talu un or rhain bob blwyddyn ich helpu i aros yn gysylltiedig âr wybodaeth ar addysg ddiweddaraf gan eich corff proffesiynol. Rydyn ni hefyd eisiau in holl gydweithwyr fwynhau buddion dysgu gydol oes, felly os ydych chin gweithio gyda ni byddwn nin buddsoddi ynoch chi fel hyn hefyd

**Dogfennau a Dyddiadau Perthnasol**

Canllawiau sut i ymgeisio

**Cyfweliadau**: 07/10/24

**Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)**

Byddwn yn gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau gwiriad Sylfaenol ar gyfer y swydd hon.