Swyddog Cynhwysiant, Trwyddedu a Data:

5 days ago

Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

**Amdanom ni**
Mae rôl barhaol llawn amser heriol a gwerth chweil ar gael i gefnogi gwaith y tîm cynhwysiant. Bydd y Swyddog Trwyddedu a Data yn cefnogi'r tîm gyda'i waith yn ymwneud â chyflogi plant, adloniant plant a thrwyddedu a rheoleiddio hebryngwyr plant ar gyfer yr Awdurdod Lleol. Bydd deiliad y swydd yn monitro a chefnogi gwaharddiadau a rhoi cymorth data i'r tîm hefyd.

Mae gwaith y tîm Cynhwysiant yn cynnwys: hyrwyddo lles a phresenoldeb dysgwyr mewn ysgolion - gan gynnwys defnyddio llwybrau cyfreithiol fel cyhoeddi Hysbysiadau Cosb Benodedig (HCB), Gorchmynion Mynychu'r Ysgol (GMY) a hefyd cymorth lles ac ymgysylltu i deuluoedd ac ysgolion i hyrwyddo presenoldeb cadarnhaol a lleihau absenoldeb parhaus (dan 80%). Cefnogi a monitro addysg ddewisol yn y cartref (ADdC), rhoi gweithdrefnau priodol yn ymwneud â Phlant sy'n Colli Addysg (PCA) a pholisïau a mesurau ymyriad corfforol ar waith, gan gynnwys rhoi gwybod yn swyddogol am ddigwyddiadau a hwyluso a goruchwylio dysgu y tu allan i’r ysgol (DTAY). Mae'r tîm hefyd yn cefnogi cylch gwaith yr Awdurdod Lleol o drwyddedu cyflogi plant a rhoi trwyddedau perfformio a thrwyddedau hebryngwyr. Mae'r tîm hefyd yn chwarae rôl o ran cefnogi ysgolion, dysgwyr a rhieni gyda gwaharddiadau a symudiadau a reolir.

**Ynglŷn â'r rôl**
Manylion y Cyflog: Gradd 6, PCG 14 -19 £23,484 - £25,927 y.f.

Oriau Gwaith/Patrwm Gwaith: 37 awr yr wythnos, 52 wythnos

Prif Weithle: Swyddfeydd Dinesig, Y Barri - gyda rhywfaint o weithio gartref ac ambell gyfarfod ysgol

Y rôl hon fydd y rôl arweiniol o fewn y Tîm Cynhwysiant ar gyfer cyflogaeth plant a reoleiddir, trwyddedau adloniant perfformiadau plant a rheoleiddio hebryngwyr plant sy’n cymryd rhan mewn perfformiadau ac adloniant.

Bydd deiliad y swydd yn coladu ac yn dadansoddi data ysgolion sy’n ymwneud â gwaharddiadau, ymyrraeth gorfforol ac ymyriadau atal mewn: ysgol, clwstwr ac ar sail ALl a bydd yn defnyddio'r data hwn i gynorthwyo gyda phrosesau gwella ysgolion a chynhwysiant ysgolion drwy hwyluso cymorth, arweiniad a cyngor a rhoi her i Swyddogion yr ALl ac arweinwyr ysgolion lle ceir pryderon am wahardd neu ataliaeth/ymyrraeth gorfforol systemig mewn ysgolion.

Cefnogi cylch gwaith a swyddogaeth y tîm cynhwysiant, sy'n cynnwys cyfrifoldebau'r ALl dros: y Tîm Cynhwysiant-Gwella presenoldeb, gwersi dysgu tu allan i’r ysgol (DTAY), trwyddedau cyflogaeth plant ac Addysg Ddewisol Cartref ADdC. Gwneud cyfraniad effeithiol i nod y Gwasanaeth Cynhwysiant o sicrhau bod plant o oedran ysgol statudol yn cael eu diogelu a hefyd yn manteisio'n llawn ar y cyfleoedd addysgol sydd ar gael iddynt ac yn manteisio i'r eithaf ar eu potensial addysgol.

**Amdanat ti**
Bydd angen y canlynol arnoch:
- Gwybodaeth ymarferol dda a chyfredol am y gyfraith a chanllawiau Llywodraeth Cymru yn ymwneud â pherfformiadau gan blant, cyflogi plant a rheoleiddio hebryngwyr.
- Gwybodaeth gyfredol am ddiogelu plant a sut mae'n berthnasol i waith y tîm Cynhwysiant: yn arbennig i wahardd, ymyrraeth gorfforol / atal a chyflogi plant/perfformio gan blant a rheoleiddio hebryngwyr.
- Gwybodaeth am y weithdrefn wahardd a pholisïau a phrotocolau ataliaeth ac ymyrraeth gorfforol.

Gwybodaeth TG gadarn a gallu defnyddio TGCh yn effeithiol ac yn greadigol o fewn y swyddfa a’r cyd-destun corfforaethol
- Profiad o sefydlu a chynnal y systemau data ONE, Excel ac ati i fonitro ac olrhain data disgyblion ac ysgolion.
- Profiad o greu a chynnal systemau i werthuso data ysgolion a disgyblion.
- Profiad o ddadansoddi data disgyblion, ysgolion a’r ALl a gwneud cymariaethau gwerthusol.
- Profiad o drwyddedu cyflogi plant a pherfformiadau plant a rheoleiddio hebryngwyr yn broffesiynol: naill ai fel sefydliad ymgeisiol neu’n rhan o waith swyddog yr ALl.
- Profiad o weithio mewn Awdurdod Lleol a’r gyfundrefn Addysg
- Sgiliau rhifedd/llythrennedd rhagorol
- Cymhwyster cydnabyddedig mewn TGCh - rhaglenni Microsoft Office neu CLAIT neu gyfwerth.
- Hyfforddiant diogelu i Lefel un neu uwch
- Hyfforddiant hebryngwyr yr NSPCC

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Y math o wiriad GDG sy’n ofynnol: Manwl a Gwahardd

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â: Keeva McDermott, Rheolwr Cynhwysiant
0751 497 9330

Gweler y disgrifiad swydd / fanyleb person atodol i gael rhagor o wybodaeth

Job Reference: LS00175

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae’r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir yn gweithio gyda’r tri chyngor partner - Caerdydd, Pen-y-bont ar Ogwr a Bro Morgannwg dan un strwythur rheoli unigol. Mae'r Tîm Trwyddedu ym mhob Cyngor yn gyfrifol am brosesu ceisiadau am ystod eang o drwyddedau sy'n ofynnol gan fusnesau, unig fasnachwyr a'r sector gwirfoddol. Mae'r tîm hefyd yn...

    **Amdanom ni** Mae’r Gwasanaeth Rheoliadol a Rennir yn gweithio gyda’r tri chyngor partner, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a Bro Morgannwg dan un strwythur rheoli unigol. Mae’r Gwasanaeth yn bennaf atebol i Gydbwyllgor o Aelodau Etholedig, ond bydd y rôl hon yn ei gwneud yn ofynnol i ddeiliad y swydd wasanaethu’r Pwyllgorau Trwyddedu a Diogelu’r...

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae'r Tîm Gorfodi Tai yn gyfrifol am gynnal safonau tai, yn enwedig yn y sector rhentu preifat. Mae'r tîm yn delio â chwynion gan denantiaid am eu llety byw ac mae'n canolbwyntio'n benodol ar drwyddedu Tai Amlfeddiannaeth. Yn ogystal, mae dyletswyddau'n ymwneud â niwsans statudol, safleoedd aflan ac lle mae plâu ac eiddo 2gwag sy’n...

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Bydd y rôl newydd hon yn rhan o dîm Ailgylchu a Gwastraff y Gwasanaethau Cymdogaeth yn sicrhau cydymffurfiaeth ar safleoedd ailgylchu a gwastraff a chynorthwyo gyda’r gwaith o fwrw targedau ailgylchu statudol, lleihau gwastraff a bod yn garbon niwtral erbyn 2030. **Ynglŷn â'r rôl** Manylion cyflog: Gradd 9, SCP 31-35, £37,261-...

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae'r Gwasanaethau Rheoleiddio a Rennir (SRS) yn wasanaeth cydweithredol arloesol a ffurfiwyd rhwng Cynghorau Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a Bro Morgannwg. Mae'r Gwasanaeth yn darparu gwasanaeth cwbl integredig o dan un strwythur rheoli ar gyfer safonau masnachu, iechyd yr amgylchedd a swyddogaethau trwyddedu. **Ynglŷn â'r rôl** Manylion...

  • Swyddog Incwm

    5 days ago

    Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Bro Morgannwg yn recriwtio ar gyfer swydd Swyddog Incwm yn y Tîm Cyllid Gofal Cymunedol, sy’n swyddogaeth allweddol o fewn Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae gan y Gyfarwyddiaeth ystod eang o ddyletswyddau a chyfrifoldebau statudol ynghylch amddiffyn a chefnogi plant ac oedolion sy’n agored i niwed. **Ynglŷn â'r rôl** Manylion Tâl:...

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Dysgu Cymraeg y Fro yn darparu rhaglen lawn o gyrsiau Cymraeg i oedolion ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Mae’r tîm yn rhan o’r adran Dysgu Oedolion yn y Gymuned sy’n gwasanaethu oedolion ledled Bro Morgannwg. O ganlyniad i benodiad newydd y deiliad presennol, rydym yn chwilio am Swyddog Datblygu Addysg newydd i...