Cynorthwy-ydd Gweinyddol

2 weeks ago


Swansea, United Kingdom Swansea University Full time

**Prif Ddiben y Swydd**:
Cynorthwyo'r Tîm Cymorth Ymchwil wrth:

- Ddarparu cymorth gweinyddol i Dîm Ymchwil y Gyfadran wrth ymdrin â gwybodaeth sensitif, gyfrinachol a phreifat. Mae hyn yn cynnwys monitro mewnflychau e-bost y tîm a chynorthwyo wrth wasanaethu cyfarfodydd pwyllgorau a allai gynnwys gwaith cymryd cofnodion, dirprwyo camau gweithredu a goruchwylio cynnydd y camau hynny.
- Ymateb i ymholiadau, galwadau ffôn, ymholiadau gan aelodau staff; aelodau'r cyhoedd; sefydliadau a rhanddeiliaid allanol; gweithio'n annibynnol ac yn rhagweithiol wrth ymdrin â busnes gweithredol beunyddiol.
- Sicrhau y caiff gohebiaeth Tîm Ymchwil y Gyfadran ei rheoli'n briodol â sensitifrwydd a'r lefel uchaf o gyfrinachedd ar bob adeg.
- Croesawu ymwelwyr i'r Gyfadran a chynorthwyo gyda'r trefniadau perthynol gan gynnwys archebu a threfnu ystafelloedd, trefniadau teithio, archebu a pharatoi arlwyaeth/lluniaeth ar gyfer cyfarfodydd a digwyddiadau ar y campws.
- Cydlynu trefniadau ar gyfer teithiau yn y wlad hon a rhai dramor ar gyfer y Tîm Ymchwil, gan sicrhau gwerth gorau. Mae hyn yn cynnwys trefnu tocynnau awyren, gwestai, cludiant i'r maes awyr ac oddi yno a threfniadau teithio eraill; a llunio amserlenni teithio a manylion am y teithiau.
- Dyletswyddau gweinyddu cyffredinol gan gynnwys codi archebion prynu mewnol ac allanol a chynorthwyo wrth wneud trefniadau i ymwelwyr.
- Cydlynu system ffeilio electronig ar gyfer dogfennau aelodau Tîm Ymchwil y Gyfadran. Bydd hyn yn cynnwys dogfennau ar gyfer cyfarfodydd a phrosiectau, manylion staff, strwythurau sefydliadol etc.
- Dyletswyddau eraill dan gyfarwyddyd y Tîm Ymchwil yn y Gyfadran.
- Cyfrannu at ddiwylliant o newid a gwella gwasanaethau'n barhaus yn y Gyfadran
- Cynorthwyo wrth gynllunio digwyddiadau, cynadleddau a seminarau'r Gyfadran, a gweithio i'w cyflwyno'n llwyddiannus. Gall y rhain fod ar y campws, mewn lleoliadau allanol neu ar-lein.

**Dyletswyddau Cyffredinol**:

- Cyfrannu'n llawn at bolisïau Galluogi Perfformiad ac Iaith Gymraeg y Brifysgol
- Hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth mewn arferion gwaith a chynnal perthnasoedd gweithio cadarnhaol.
- Arwain ar welliant parhaus perfformiad iechyd a diogelwch drwy ddealltwriaeth gadarn o broffil risg a datblygu diwylliant iechyd a diogelwch cadarnhaol.
- Dyletswyddau eraill yn unol â chyfarwyddyd Tîm Arweinyddiaeth y Gyfadran neu gynrychiolydd enwebedig, yn unol â disgwyliadau diffiniad y radd.
- Sicrhau bod rheoli risg yn rhan annatod o unrhyw broses benderfynu, drwy sicrhau cydymffurfiaeth â Pholisi Rheoli Risg y Brifysgol.

Job Reference: AC05136



  • Swansea, United Kingdom Swansea University Full time

    **Prif Bwrpas y Swydd** Er mwyn cyflawni ei huchelgais o fod ymysg y 30 o brifysgolion gorau, mae angen gweithlu gwasanaethau proffesiynol ar Brifysgol Abertawe â’r sgiliau amrywiol i sicrhau y gall gyflawni rhagoriaeth drwy systemau a phrosesau effeithlon ac effeithiol sy'n manteisio ar ddatblygiadau technolegol. Bydd y Cynorthwy-ydd Gweinyddol yn...