Gweithiwr Aml Grefft
3 days ago
Diolch am eich diddordeb yn y swydd Gweithiwr Aml Grefft hefo Canllaw Addasu (Gofal a Thrwsio Gwynedd a Môn)
Mae Grŵp Cynefin wedi bod yn darparu tai o ansawdd, syn ddiogel a fforddiadwy dros chwe sir gogledd Cymru a gogledd Powys i dros 8,000 o bobl ers 2014. Rydym yn gweithion galed i ddarparu tai a gwasanaethau rhagorol, i gyfrannu i ddatblygiad cymunedau cynaliadwy a gwarchod a hybur iaith Gymraeg gyda balchder. Rydyn ni am gynyddu iechyd a lles ein cymunedau ir eithaf, creu cyfleoedd i newid bywydau a siapio lleoedd syn sicrhau dyfodol cynaliadwy.
Mae '**Canllaw'** yn is-gwmni i Grwp Cynefin syn rheoli asiantaeth Gofal a Thrwsio Gwynedd a Môn.
Nod Canllaw yw _galluogi pobl i fyw yn eu cymunedau_. Rydym yn fenter gymdeithasol syn gweithredu ar draws Gwynedd ac Ynys Môn, gan ddarparu gwasanaethau tai mewn ymateb i anghenion pobl hŷn neu bobl fregus lleol. Mae ein gwasanaethau yn cynnwys:
**'Gofal a Thrwsio** Gwynedd a Môn'** Gwasanaeth rhad ac am ddim i bobl 60 oed a drosodd iw cynghori a chefnogi i gynnal, gwella neu addasu eu cartrefi. Yn benodol yn y sector breifat, ac wedi ei ariannun bennaf gan Lywodraeth Cymru.
**Canllaw Addasu** - Gwasanaeth masnachol o gynnal addasiadau priodol yng nghartrefi pobl hŷn neu bobl fregus, er mwyn iddynt gynnal eu hannibyniaeth.
**Canllaw Technegol**:
- Gwasanaeth proffesiynol o ddylunio, cynllunio, archwilio a goruchwylio gwaith adeiladu, boed gwaith mawr neu fach. Yn gwasanaethu cleientiaid syn bobl hŷn neu bobl fregus.
Maer swydd hon yn cynnig cyfle i unigolion syn awyddus i ddatblygu gyrfa yn y maes tai mewn awyrgylch Gymreig lle maer amodau gwaith yn flaengar a chyfeillgar ir teulu.
Os hoffech sgwrs pellach am y swydd, cysylltwch a Elfyn Owen, Prif Swyddog ar 01286 889360
**Y Swydd**:
**Math o gytundeb**: Parhaol
**Cyflog Spot**:£31,729 y flwyddyn
**Gwyliau**:30 diwrnod y flwyddyn yn ogystal âr gwyliau banc statudol ar cyfnod rhwng y Nadolig ar Flwyddyn Newydd
**Teithio**:Defnyddiwr Car Hanfodol
**Pensiwn**:Mae Grŵp Cynefin yn cynnig darpariaeth pensiwn trwy Gynllun Social Housing Pension Scheme (SHPS)
**Disgrifiad Swydd**:
DS Gweithiwr Aml Grefft 09.24.pdf
JD Multi-Skilled Operative 09.24.pdf
**Buddiannau**:
**GC Buddion 2024 Cymraeg-compressed.pdf**
**Benefits Package.pdf**
**Canllawiau sut i ymgeisio**
**Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)**
Byddwn yn gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau gwiriad Sylfaenol gyda rhestrau gwahardd ar gyfer y swydd hon.
**Mae'r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg ar Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.