Swyddog Cynaliadwyedd

1 week ago


Llantrisant, United Kingdom South Wales Fire and Rescue Service Full time

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn bwriadu penodi Swyddog Cynaliadwyedd ar swydd barhaol i ddechrau. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am weithio ar draws gwahanol adrannau i greu, rheoli a chyflawni prosiectau a mentrau cynaliadwyedd amgylcheddolgan sicrhau bod ein Gwasanaeth yn bodloni gofynion deddfwriaethol ac yn mabwysiadu arfer gorau wrth ddarparu ein gwasanaethau i ddinasyddion De Cymru.

Rhaid i ymgeiswyr allu defnyddio creadigrwydd a gwybodaeth dechnegol i gynllunio a chyflwyno mentrau a chodi ymwybyddiaeth ar draws y Gwasanaeth. Bydd deiliad y swydd hon yn adrodd yn uniongyrchol i'r Rheolwr Strategaeth Eiddo ond bydd hefyd yn gweithio'nagos gydag uwch swyddogion eraill ar draws cylch gwaith cyfan y tîm (cynaliadwyedd, ynni, fflyd, gwastraff ac ati). Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cyfrannu'n sylweddol at agweddau eraill ar strategaeth a pholisïau cynaliadwyedd amgylcheddol y Gwasanaethyn ôl y gofyn.

Rhaid i ymgeiswyr allu dangos dealltwriaeth ardderchog o gynaliadwyedd amgylcheddol, bod yn greadigol a chanolbwyntio ar ddatrysiadau. Mae llygad barcud am fanylion a sgiliau dadansoddi cryf yn hanfodol ar gyfer y swydd hon, yn ogystal â set sgiliau cyfathreburhifiadol, ysgrifenedig a llafar ardderchog. Gan eu bod yn gweithio'n agos gydag uwch swyddogion amrywiol, mae'n hanfodol bod gan yr ymgeiswyr y gallu i fynegi a chyflwyno gwybodaeth gymhleth yn gywir, yn glir ac yn gryno ar lafar ac yn ysgrifenedig ac mae'rsgiliau hyn yn hanfodol i'r rôl.
- ____________________________

Rydym yn sefydliad sy'n ystyriol o deuluoedd a gweithredir polisi gweithio'n hyblyg.

Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn destun gwiriad boddhaol gan Wasanaeth Datgelu'r Alban ac ymgymryd â Phrawf Cyffuriau ac Alcohol cyn y gwneir unrhyw benodiad.

Gellir lawr lwytho Ffurflen Gais, Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person o dudalen Gyrfaoedd ein gwefan.

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn Ffurflenni Cais gorffenedig yw Dydd Iau Mai 12fed am hanner dydda dylid dychwelyd Ffurflenni Cais gorffenedig at: Y Tîm Recriwtio ac Adnoddau, Pencadlys Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Parc Busnes Forest View, Llantrisant,CF72 8LX neu drwy law e-bost.

Mae'r holl ddogfennaeth ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg ac rydym yn croesawu cyfathrebu yn y ddwy iaith. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol. Bydd ymgeiswyr sy'n llwyddo yn y cam Llunio Rhestr Fer yn cael cyfle i gadarnhaueu dewis iaith ar gyfer cyfweliadau ac asesiadau (gan gynnwys gwaith papur, cyflwyniadau llafar a chwestiynau cyfweliad). Bydd y trefniadau'n cael eu cadarnhau yn dilyn gwahoddiad i gyfweliad a gellir darparu gwasanaeth Cyfieithu a/neu Gyfieithu ar y Pryd.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru'n credu yng ngwir werth gweithlu amrywiol ac rydym yn dymuno annog yn rhagweithiol ymgeiswyr o bob sector cymdeithas i ymgeisio.

**------------------------------------------------------------------------------------**

South Wales Fire and Rescue Service are looking to appoint a Sustainability Officer on a permanent basis.

An Application Form, Job Description and Person Specification can be downloaded from the Careers page of our website.

Arrangements will be confirmed following invitation to interview and may include Translation and/or Simultaneous Translation.

**South Wales Fire and Rescue Service believes in the real value of having a diverse workforce and we proactively want to encourage applicants from all sectors of our community to apply