Operational Support Grade

2 weeks ago


Wrexham, United Kingdom Ministry of Justice Full time

**Operational Support Grade - HMP Berwyn Welsh Speaking (Prison support Role) - 71588**
**£23,226**
**Wrexham**:
Disgrifiad swydd

**Trosolwg o’r swydd**

Mae angen gwaith tîm i gefnogi ein carchardai.

Fel unigolyn ar Raddfa Cymorth Gweithredol, byddwch yn gofalu am redeg carchar prysur o ddydd i ddydd, gan weithio mewn tîm agos i gyflawni amrywiaeth o wasanaethau cefnogi - popeth o ddyletswyddau patrolio a phorth, i reoli danfoniadau, goruchwylio ymwelwyr, a monitro galwadau ffôn a Theledu Cylch Cyfyng. Byddwch yn gweithio amrywiaeth o shifftiau, gan gynnwys nosweithiau i gadw pethau i fynd. Yn wahanol i’n swyddogion yn y carchar, mae eich cyswllt â throseddwyr yn gyfyngedig, er, yn dibynnu ar y carchar penodol, efallai y byddwch yn rhyngweithio â throseddwyr o bryd i’w gilydd.

Does dim angen unrhyw gymwysterau arnoch ar gyfer y swydd hon. Mae helpu i sicrhau bod carchar yn rhedeg yn esmwyth ac yn ddiogel yn gofyn am grebwyll, synnwyr cyffredin, cyfrifoldeb ac, yn anad dim, gwaith tîm.

**Yn ychwanegol at eich cyflog sylfaenol, byddwch yn derbyn**:

- 25 diwrnod o wyliau blynyddol pan benodir chi, a bydd yn cynyddu i 30 diwrnod ar ôl 10 mlynedd o wasanaeth (cyfrifir ar sail pro-rata)
- 9 diwrnod o wyliau banc, gwyliau cyhoeddus a diwrnodau braint
- mynediad at brentisiaeth Lefel 2 gyda thâl mewn gwasanaeth i gwsmeriaid
- mynediad at gynllun pensiwn hael y Gwasanaeth Sifil
- benthyciadau tocyn tymor, gostyngiadau adwerthu, Rhaglen Cymorth i Weithwyr a chynllun Beicio i’r Gwaith
- £23,226

Mae’r ffigurau cyflog a ddyfynnir ar gyfer wythnos waith 37 awr yn cynnwys lwfans gweithio oriau anghymdeithasol o 17% sydd wedi’i gynnwys yn y cyflog i adlewyrchu’r gofyniad i weithio shifftiau dros nos, gyda’r nos ac ar benwythnosau. Ac unrhyw daliad atodol ar sail y farchnad na fydd ond yn cael ei dalu mewn lleoliadau penodol.

**Oriau**

Byddwch yn gweithio 37 awr yr wythnos ar gyfartaledd a bydd hyn yn cynnwys gweithio shifftiau nos, gyda’r nos ac ar benwythnosau ar batrwm shifftiau treigl (mae’r dyddiau hyn yn cael eu hychwanegu at eich lwfans gwyliau). Bydd amlder y shifftiau nos yn amrywio ar gyfer pob Sefydliad a gellir ei drafod yn y cyfweliad. I gael enghraifft o amseroedd y shifftiau y gallech chi fod yn eu gweithio

**Cyfrifoldebau, gweithgareddau a dyletswyddau**

Byddwch yn cael eich defnyddio’n hyblyg i gyflawni rolau gweithredol ar draws y carchar yn ôl yr angen. Mae cyfrifoldebau, gweithgareddau a dyletswyddau yn debygol o gynnwys:

- **dyletswyddau wrth y gât/porth**: sicrhau bod staff, ymwelwyr a cherbydau yn dod i mewn ac yn gadael yn ddiogel; chwilio staff, carcharorion, ymwelwyr, contractwyr a cherbydau; dosbarthu a chasglu allweddi/setiau radio staff
- **ystafell reoli**: gweithredu system radio’r sefydliad a monitro teledu cylch cyfyng gan sicrhau bod pob gweithgaredd amheus yn cael ei riportio
- **ymweliadau**: archebu ymweliadau; canfod pwy yw’r ymwelwyr a’u prosesu ar ôl iddynt gyrraedd, eu hebrwng os oes angen
- **sensor/gohebiaeth**: monitro/cofnodi post a rhoi gwybod am unrhyw eitemau anghyfreithlon neu waharddedig (contraband), gan gynnal a diogelu tystiolaeth
- **dyletswyddau nos**: sicrhau bod drysau celloedd yn cael eu cloi/diogelu a bod pob carcharor yn ddiogel a bod cyfrif amdanynt
- **derbynfa**: helpu i gefnogi tasgau priodol yn y dderbynfa; tynnu lluniau carcharorion; casglu dogfennau ar gyfer y broses eiddo; chwilio/tynnu llun pelydr-x o eiddo carcharorion a pharseli sy’n dod i mewn; derbyn eitemau ar gyfer carcharorion a gwneud yn siŵr bod yr holl seliau’n gyflawn wrth storio eiddo
- **goruchwylio carcharorion**: goruchwylio carcharorion yn ôl yr angen; cyfnewid dillad/eiddo carcharorion a chynorthwyo swyddogion gyda symudiadau llif rhydd
- **danfon bwyd**: danfon a chasglu bwyd gyda throli, a allai gynnwys defnyddio cerbyd dosbarthu trydan
- **dyletswyddau gyrru**: cludo carcharorion a’u hebrwng i’w cyrchfan yn y cerbyd cellog; casglu post o’r swyddfa ddidoli leol
- **galwadau ffôn**: monitro’r system Rhifau Adnabod Personol (PIN), cadw cofnod o geisiadau PIN dros y Ffôn gan garcharorion; cwblhau’r holl waith papur perthnasol gan gadw trywydd archwilio o sgyrsiau; sicrhau bod rhifau cyfreithiol yn gyfreithwyr cofrestredig
- **gweithdrefnau a phrotocolau**: deall a chydymffurfio â pholisïau cenedlaethol a lleol, ymateb yn briodol i roi gweithdrefnau brys ar waith a’r camau sy’n ofynnol mewn perthynas â digwyddiadau

**Sut i wneud cais**

**Cam 1**
- **Dywedwch wrthym amdanoch chi eich hun**
Cliciwch ymgeisio a rhowch eich manylion personol ar ein ffurflen gais
- **Sefyll prawf byr ar-lein**
Pan fyddwch yn gwneud cais, byddwch yn derbyn e-bost gyda chyfarwyddiadau manwl ar sut i sefyll ein prawf ar-lein. Mae hwn yn asesiad seiliedig ar ymddygiad sy’n asesu a oes gennych chi’r cryfderau naturiol a’r dewisiadau ymddygiad priodol i fod yn unigolyn ar Raddfa Cymorth Gweithredol. Byddwch yn cwblhau cyfres o dasgau



  • Wrexham, United Kingdom Ministry of Justice Full time

    Salary 1 - £25,626 Number of jobs available 1 - 4 Detail of reserve list 1 - 12 Months Region 1 - Wales City/Town 1 - Wrexham Building/Site 1 - HM Prison Berwyn, LL13 9QE Grade 1 - AA Organisation Grade for HMPPS 1 - Band 2 Post Type 1 - Permanent Working Pattern 1 - Full Time, Part Time, Part Time/Job Share, Flexible Working Role Type 1 -...


  • Wrexham, United Kingdom Ministry of Justice Full time

    **Operational Support Grade - HMP Berwyn (Prison support Role) - 73962** **£23,226** **Wrexham**: **Overview of the job**: It takes teamwork to support our prisons. As an Operational Support Grade, you will look after the day-to-day running of a busy prison, working in a close-knit team to carry out a range of support services - everything from patrol and...


  • Wrexham, United Kingdom Ministry of Justice Full time

    **Operational Support Grade - HMP Berwyn (Prison support Role) - 76061** **£23,226** **Wrexham**: **Overview of the job**: It takes teamwork to support our prisons. As an Operational Support Grade, you will look after the day-to-day running of a busy prison, working in a close-knit team to carry out a range of support services - everything from patrol and...

  • Signaller - Grade 4

    1 week ago


    Wrexham, United Kingdom Network Rail Full time

    Signaller - Grade 4 - Croes Newydd SB **Location**: Wrexham, GB **Department Name**: Wales & Western Region.RWAL..HO.10 **About Network Rail**: Our passengers and freight users are at the heart of everything we do. We help connect people to their friends and families and get goods to their destination safely and efficiently. We're an organisation where...


  • Wrexham, United Kingdom Ministry of Justice Full time

    **General Information**: - Business Unit - HM Prison Berwyn - Date published - 06-Jan-2025 - Working time - Full Time, Part Time, Part Time/Job Share, Flexible Working - Closing date - 03-Feb-2025 - Location - Wrexham - Civil Service Grade - AO - Job ID - 1439 **Descriptions & requirements**: - Job description **An extraordinary job. Done by someone like...


  • Wrexham, United Kingdom Betsi Cadwaladr University Health Board Full time

    Board Overview We are Betsi Cadwaladr University Health Board (BCUHB) North Wales, the largest health organisation in Wales, providing a full range of primary, community, mental health, acute and elective hospital services for a population of around 700,000 across North Wales. Join our team and get the support you need, in line with our Organisational Values...

  • Operational Support

    3 days ago


    Wrexham, United Kingdom Oscar Mayer Wrexham Full time

    Job description We are currently recruiting for Operational Support to provide administrative and organisational support to ensure smooth and efficient daily operations in a fast - paced environment managing bookings, stock reconciliation and day to day support in the warehouse office. The Operational Support role is significant to the goods in...

  • Operations Support

    2 weeks ago


    Wrexham, Wrexham, United Kingdom ProFM Group Full time £27,081 - £35,000 per year

    25 / 11 / 2025Operations SupportLocation: WrexhamPosition: Operations SupportEmployment: 40 hours per weekSalary: £27,081.60 per yearPost Date: 25 / 11 / 2025About UsAt ProFM Group, we are redefining the future of facilities management. As the UK's number one ACS-approved contractor, we are leading the way in Security, Cleaning, and Security Systems,...

  • Operational Support

    5 days ago


    Wrexham, United Kingdom Iberdrola Full time

    Job TitleOperational SupportLocationWrexhamSalary from 27498 benefitsFlexible Working PatternHelp us create a better future quickerAt Scottish Power we know that our people are our strongest asset so were always looking for individuals whose energy intelligence and passion can help us reach our goals.At the heart of all business visions and activities are...


  • Wrexham, United Kingdom Wrexham County Borough Council Full time

    **Description**: SOCIAL CARE SAFEGUARDING SUPPORT OFFICER x 2 Grade 06 £24,054 - £25,409 per Annum A post has arisen for a full time safeguarding support officer to be placed within the Adult Safeguarding and DoLS team. The main function of the post will be to support adult safeguarding. The role includes responding to professionals and the public who...