Swyddog Cyswllt Ysgol

2 weeks ago


Bangor, United Kingdom Stori Full time

**Oes gennych radd neu gymhwyster perthnasol ym maes addysg, gwaith cymdeithasol, gwaith ieuenctid neu ymgysylltu cymunedol, ynghyd â phrofiad o weithio gyda phobl ifanc mewn sesiwn addysgol?**

Rydym yn chwilio am aelod newydd (siaradwr Cymraeg) i ymuno â’n tîm Prosiect Spectrum, gan weithio gydag ysgolion cynradd ac uwchradd yng Nghymru, gan addysgu plant am berthnasau iach a phynciau VAWDASV (Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol).

Mae’r rôl hon yn amodol ar wiriad Datgeliad Manwl (Gweithlu Plant) gan y DBS, a delir gan y cwmni os oes angen.

Croesewir ceisiadau gan unrhyw un sy’n byw yn ardal Gwynedd / Ynys Môn. Yn ddelfrydol, bydd gan ymgeiswyr drwydded yrru lawn ac yn meddu ar gerbyd, gan fod y rôl hon, er ei bod wedi’i lleoli gartref, yn cynnwys teithio rhwng ysgolion ledled Gwynedd ac Ynys Môn.

Rhaid i ymgeiswyr allu profi eu hawl i weithio yn y DU.

Mae’r cyfweliadau wedi’u trefnu i’w cynnal ar 28 Gorffennaf 2025.

*********

Do you have a degree or relevant qualification in education, social work, youth work, or community engagement and experience of working with young people in an educational session?

We are looking for a new member (Welsh speaker) to join our Spectrum Project team, working with primary and secondary schools in Wales, teaching children about healthy relationships and VAWDASV topics.

Applicants must be able to prove their right to work in the UK.

Interviews are scheduled to take place on 28 July 2025

Os ydych chi'n hoffi gweithio yn rhywle lle rydych chi'n cael gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i bobl bob dydd, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Gallai fod yn swydd rheng flaen sy'n darparu cymorth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, yn hytrach na gofal personol, neu mewn rôl cefnogi busnes - rydym yn chwilio am unigolion talentog i ymuno â'n tîm hapus, gweithgar.

Yn gyfnewid am hyn, rydym yn cynnig contractau llawn a rhan-amser, oriau gwaith hyblyg, hawl i wyliau gwell, tâl salwch galwedigaethol, pensiwn cwmni a hyfforddiant cynhwysfawr.


  • Liaison Officer

    2 weeks ago


    Bangor, United Kingdom ADRA Full time

    **Swyddog Cyswllt** **£20,448 - £22,791 y flwyddyn / 37 awr yr wythnos / Gogledd Cymru / Parhaol** Ni yw Adra. Darparwr cartrefi o safon yng ngogledd Cymru. Nid ydym yn sefydliad sy'n aros yn ei unfan. Dros y blynyddoedd i ddod byddwn wedi adeiladu nifer sylweddol o gartrefi y tu allan i'r sir, gyda'r uchelgais i fod yn darparu cannoedd fwy o gartrefio...


  • Bangor, United Kingdom Hafan Cymru Full time

    Inspire the next generation shape how young people understand respect equality and healthy relationships.Are you ready to make a real impact in classrooms across WalesWere looking for a passionate Welsh-speaking educator or facilitator to join our Spectrum Project team as a School Liaison Officer delivering powerful age-appropriate sessions in primary and...


  • Bangor, United Kingdom Hafan Cymru Full time

    Dewch i ysbrydolir genhedlaeth nesaf i werthfawrogi parch cydraddoldeb a pherthnasau iachOes gennych radd neu gymhwyster perthnasol ym maes addysg gwaith cymdeithasol gwaith ieuenctid neu ymgysylltu cymunedol ynghyd â phrofiad o weithio gyda phobl ifanc mewn sesiwn addysgolRydym yn chwilio am aelod newydd (siaradwr Cymraeg) i ymuno ân tîm Prosiect...