Internal Applicants Only

4 days ago


London, Greater London, United Kingdom Prifysgol Caerdydd Full time
Mae'r swydd hon ar agor i weithwyr Prifysgol Caerdydd yn unig ar hyn o bryd.  Peidiwch ymgeisio os nad oes ganddoch gytundeb cyflogaeth ddilys gyda'r brifysgol.

Ymgeiswyr Mewnol yn Unig – Cydymaith Ymchwil (Biowybodeg)
Yr Isadran Meddygaeth Seicolegol a'r Niwrowyddorau Clinigol
Yr Ysgol Meddygaeth
Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd

Mae cyfle cyffrous wedi codi i benodi Cydymaith Ymchwil (Biowybodegydd) brwdfrydig a phrofiadol i ymuno â grŵp ymchwil yr Athro Valentina Escott-Price yn Sefydliad Ymchwil Dementia y DU (DRI UK) ym Mhrifysgol Caerdydd. Bydd deiliad y swydd yn chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o ddadansoddi setiau data cofnodion iechyd genetig ac electronig mawr a chymhleth, gan ddefnyddio ystod o ddulliau Ystadegol a Dysgu Peirianyddol, tra'n arwain ystod eang o weithgareddau ymchwiliadol a dadansoddol i fanteisio i'r eithaf ar ddata clinigol a genetig, a'u cysylltu â sgoriau risg genetig gyda'r nod o efelychu damcaniaethau a chanfyddiadau biolegol allweddol yn sgil ymchwil arbrofol foleciwlaidd, gellog ar bobl/anifeiliaid ledled y Sefydliad yn ogystal â llunio damcaniaethau sy'n seiliedig ar ddata. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn ymchwil arloesol sy'n ymchwilio i bensaernïaeth gymhleth dementia ac isffenoteipiau perthnasol mewn data dynol.
Swydd yn Adeilad Hadyn Ellis ar gampws Parc Cathays yw hon. 

Mae gweithio cyfunol yn bosibl wrth wneud y swydd hon. Mae hynny'n golygu, yn ogystal â threulio amser yn gweithio ar y campws, y gallwch ddewis gweithio o leoliad arall (e.e. eich cartref) rywfaint o'r amser. Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i gynnig yr hyblygrwydd hwn pan fo'r swydd ac anghenion busnes yn caniatáu hynny er mwyn eich helpu i sicrhau cydbwysedd rhwng eich gwaith a'ch bywyd personol.

Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig pecyn buddion gwych, sy'n cynnwys 45 diwrnod o wyliau blynyddol (gan gynnwys gwyliau banc), cynllun pensiwn lleol, cynllun beicio i'r gwaith a mentrau teithio eraill, cynyddrannau blynyddol ar hyd y raddfa gyflog, a mwy. Dyma le cyffrous a bywiog i weithio lle ceir llawer o heriau gwahanol. Mae'r Brifysgol hefyd yn falch o gefnogi'r Cyflog Byw.

Sut y byddwn yn eich helpu i gyflawni'r swydd hon – 

Mae'n rhaid ichi fodloni rhai gofynion cyn gallu dechrau'r swydd (gweler 'Meini Prawf Hanfodol'), ond bydd modd datblygu sgiliau eraill drwy gael hyfforddiant neu brofiad cyffredinol yn y gwaith.  Rydym yn awyddus i'ch cefnogi a'ch datblygu ar ôl ichi ddechrau yn y swydd gan ddefnyddio cyfuniad o'r canlynol er mwyn sicrhau eich bod yn gallu rhoi o'ch gorau:

1.    Cyfarfodydd un i un rheolaidd gyda'ch rheolwr.
2.    Tîm profiadol a chefnogol o'ch cwmpas.
3.    Cefnogi'r hyfforddiant a'r datblygiad sy'n berthnasol i'ch swydd ac y bydd ei angen arnoch o bosibl.
4.    Cynllun mentora.

E-bostiwch yr Athro Valentina Escott-Price ) os oes gennych ymholiad anffurfiol. 

Swydd amser llawn yw hon (35 awr yr wythnos), sydd ar gael ar unwaith ac am gyfnod penodol tan 31 Mai 2027.

Cyflog: £41,064 – £46,049 y flwyddyn (Gradd 6).  Fel arfer, bydd pobl a benodir ym Mhrifysgol Caerdydd yn dechrau ar waelod y raddfa gyflog, heblaw o dan amgylchiadau eithriadol.

Dyddiad cau: Dydd Llun, 22 Rhagfyr 2025

Nid yw ceisiadau allanol yn cael eu hystyried ar gyfer y swydd hon ar hyn o bryd.  Os penderfynir agor y swydd i ymgeiswyr allanol, bydd yr isbennawd ar y brig yn cael ei thynnu a rhoddir digon o amser i chi wneud cais - cadwch olwg ar y dudalen am fanylion.

Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a sicrhau diwylliant gwaith cynhwysol. Rydym o'r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o'r gymuned, beth bynnag fo'u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran.  Er mwyn cefnogi ein cyflogeion i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywyd personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio'n hyblyg neu rannu'r swydd.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Mae Prifysgol Caerdydd wedi llofnodi Datganiad ar Asesu Ymchwil (DORA) San Francisco, sy'n golygu y byddwn, wrth wneud penderfyniadau cyflogi a dyrchafu, yn gwerthuso ymgeiswyr ar sail safon eu hymchwil, nid ar sail metrigau cyhoeddi na'r cyfnodolyn y mae'r ymchwil wedi'i chyhoeddi ynddo. Ceir rhagor o wybodaeth yma:  Asesu ymchwil yn gyfrifol - Ymchwil - Prifysgol Caerdydd
Diben y Swydd
Ymchwilio yn bennaf ym maes bioystadegau, dysgu peirianyddol a biowybodeg sy'n gysylltiedig ag anhwylderau niwroddirywiol mewn astudiaethau o boblogaethau mawr, a chyfrannu at berfformiad ymchwil cyffredinol yr Ysgol, y Brifysgol a'r Sefydliad, gan gynnal ymchwil sy'n arwain at gyhoeddi gwaith mewn ymchwil o safon. Bydd deiliad y swydd yn ceisio rhagoriaeth mewn ymchwil ac yn ysbrydoli eraill i wneud yr un fath. 

Dyletswyddau a Chyfrifoldebau

Prif Ddyletswyddau

Ymchwil 

•    Ymchwilio ym maes bioystadegau, Dysgu Peirianyddol a biowybodeg sy'n gysylltiedig â geneteg dementia a data clinigol carfanau mawr

•    Cyfrannu at berfformiad ymchwil cyffredinol yr Ysgol a'r Brifysgol drwy greu allbynnau y gellir eu mesur gan gynnwys gwneud ceisiadau am gyllid, cyhoeddi mewn cynadleddau a chyfnodolion academaidd cenedlaethol, a recriwtio a goruchwylio myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig.  

•    Datblygu amcanion a chynigion ymchwil ar gyfer ymchwil annibynnol neu ymchwil ar y cyd, gan gynnwys cynigion am gyllid ymchwil 

•    Mynd i gynadleddau/seminarau lleol a chenedlaethol a/neu roi cyflwyniadau ynddynt yn ôl y gofyn 

•    Ymgymryd â thasgau gweinyddol sy'n gysylltiedig â'r prosiect ymchwil, gan gynnwys cynllunio a threfnu'r prosiect a rhoi'r gweithdrefnau sydd eu hangen ar waith i sicrhau bod adroddiadau cywir yn cael eu cyflwyno'n brydlon

•    Paratoi ceisiadau moeseg ymchwil a llywodraethu ymchwil fel y bo'n briodol

•    Adolygu a chyfosod y llenyddiaeth ymchwil sydd eisoes yn bodoli yn y maes

•    Cymryd rhan yng ngweithgareddau ymchwil yr Ysgol. 

•    Datblygu a chreu rhwydweithiau yn fewnol yn y Brifysgol a'r tu allan iddi, dylanwadu ar benderfyniadau, archwilio gofynion ymchwil y dyfodol, a rhannu syniadau ymchwil er budd prosiectau ymchwil

Arall

•    Cydweithio'n effeithiol â chyrff diwydiannol, masnachol a chyhoeddus, sefydliadau proffesiynol, sefydliadau academaidd eraill ac ati, a hynny'n rhanbarthol ac yn genedlaethol, i godi proffil yr Ysgol, meithrin partneriaethau sy'n strategol werthfawr a chwilio am gyfleoedd i gydweithio ar draws sawl gweithgarwch. Bydd disgwyl i'r gweithgareddau hyn gyfrannu at yr Ysgol a gwella ei phroffil rhanbarthol a chenedlaethol.

•    Datblygu'n bersonol ac yn broffesiynol mewn modd priodol a fydd yn gwella perfformiad.

•    Cymryd rhan yng ngweinyddiaeth a gweithgarwch yr Ysgol er mwyn hyrwyddo'r Ysgol a'i gwaith yn y Brifysgol a thu hwnt

•    Cyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill nad ydynt wedi'u nodi uchod ond sy'n cyd-fynd â gofynion y swydd

Gwybodaeth Ychwanegol
Mae'r prosiect yn rhan o Sefydliad Ymchwil Dementia y DU ym Mhrifysgol Caerdydd. Bydd deiliad y swydd yn gweithio gyda'r Athro Valentina Escott-Price ac yn mynd i gyfarfodydd a seminarau, a chyfrannu atynt. Bydd cyfle i ryngweithio ag ystod o garfanau rhyngwladol er mwyn dadansoddi data yn ogystal â'r cyfle i gyhoeddi mewn cyfnodolion o safon.

PWYSIG: Tystiolaeth o Feini Prawf

Polisi'r Ysgol Meddygaeth yw defnyddio manyleb yr unigolyn yn adnodd allweddol wrth ddethol ymgeiswyr ar gyfer y rhestr fer. Dylai ymgeiswyr ddangos tystiolaeth eu bod yn bodloni POB UN o'r meini prawf hanfodol, yn ogystal â'r rhai dymunol pan fo'n berthnasol. Yn rhan o'r broses ymgeisio, gofynnir i chi gyflwyno'r dystiolaeth hon ar ffurf datganiad ategol.

Gofalwch mai cyfeirnod y swydd wag yw enw'r ddogfen hon wrth ei chyflwyno / ei hatodi wrth broffil eich cais. Yn yr achos hwn, y cyfeirnod yw 21030BR.

Os na fydd ymgeisydd wedi cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig sy'n dangos ei fod yn bodloni pob un o'r meini prawf hanfodol, ni fyddwn yn ymdrin â'i gais. Mae'r Ysgol Meddygaeth yn croesawu cyflwyno CV i gyd-fynd â'r dystiolaeth o fodloni meini prawf y swydd.

Meini Prawf Hanfodol

Cymwysterau ac Addysg
1.    Gradd ôl-raddedig ar lefel PhD (neu ar fin gorffen / cyflwyno) mewn pwnc cysylltiedig neu brofiad diwydiannol perthnasol.

Gwybodaeth, Sgiliau a Phrofiad
2.    Arbenigedd sefydledig a phortffolio diamheuol o waith ymchwil a/neu brofiad diwydiannol perthnasol yn y meysydd ymchwil canlynol:
- Bioystadegau/Biowybodeg dadansoddi genetig cymhleth 
- Geneteg afiechydon cymhleth
- Cyfrifiadura perfformiad uchel
- Trin a dadansoddi data ar raddfa fawr
- Dysgu Peirianyddol

3.    Gwybodaeth am statws cyfredol ymchwil ym meysydd bioystadegau, biowybodeg, dysgu peirianyddol a dulliau ystadegol o ymdrin â dadansoddi data hydredol sy'n ddibynnol ar amser. 
4.    Gallu diamheuol i gyhoeddi erthyglau mewn cyfnodolion cenedlaethol neu allbynnau ymchwil eraill.
5.    Gwybodaeth am gyllid ymchwil cystadleuol a dealltwriaeth ohono er mwyn gallu paratoi ceisiadau i'w cyflwyno i gyrff cyllido. 

Cyfathrebu a Gweithio'n Rhan o Dîm
6.    Gallu diamheuol i gyfathrebu'n effeithiol ac yn argyhoeddiadol.
7.    Gallu i oruchwylio gwaith eraill er mwyn sianelu gwaith y tîm ac ysgogi unigolion.

Arall
8.    Gallu diamheuol i fod yn greadigol, yn arloesol a gweithio yn rhan o dîm yn y gwaith.
9.    Gallu diamheuol i weithio heb oruchwyliaeth agos.

Meini Prawf Dymunol

10.    Cymhwyster/cymwysterau proffesiynol perthnasol: Cefndir/modiwlau israddedig mewn naill ai/neu Seicoleg, Niwrowyddoniaeth, Cyfrifiadureg neu Fathemateg.
11.    Mae gwybodaeth am dechnegau a ddefnyddir ym maes geneteg ac epidemioleg i ddadansoddi amrywiadau genetig cyffredin a phrin, yn ogystal â phrofiad o ddefnyddio meddalwedd a ddefnyddir i ddadansoddi data genomeg megis GCTA, PRS-CS, LDScore, MAGMA.
12.    Y gallu diamheuol i addasu i ofynion newidiol y gymuned Addysg Uwch.
13.    Tystiolaeth o'r gallu i fod yn rhan o rwydweithiau mewnol ac allanol, eu datblygu a'u defnyddio i wella gweithgareddau ymchwil yr Ysgol.
14.    Parodrwydd i ysgwyddo cyfrifoldeb dros waith gweinyddol academaidd

  • London, Greater London, United Kingdom Cardiff University Full time

    This post is currently open to employees of Cardiff University only.  Please do not apply if you do not have a current contract of employment with the University.Internal Applicants Only - International Student Support AdvisorWorking within the flagship Centre for Student Life it's an exciting time to work in Cardiff University's Student Life...


  • London, Greater London, United Kingdom Cardiff University Full time £28,031 - £31,236 per year

    This post is currently open to employees of Cardiff University only.  Please do not apply if you do not have a current contract of employment with the University.Internal Applicants Only - Research Support OfficerSchool of Biosciences (BIOSI)An exciting opportunity has arisen within the Research Service for a Research Support Officer based in the School of...


  • London, Greater London, United Kingdom LBWF Career Site Full time £40,182 - £42,060

    ***Internal Applicants Only*** Organisation: London Borough of Waltham Forest Salary: SO2 £40,182 - £42,060  Contract Type: Full-time, Permanent  Working hours per week: 36 hours a week (Monday-Thursday 9am-5.15pm), Friday (9am-5pm) Application Deadline: 25/11/2025 DBS: Standard  Reference: 1802 About Us:  Bursting with culture, energy, and...


  • London, Greater London, United Kingdom LBWF Career Site Full time £38,256 - £39,276

    ***Internal Applicants Only*** Organisation: London Borough of Waltham Forest Salary: SO1 £38,256 - £39,276 Contract Type: Full-time, Permanent Working hours per week: 36 Application Deadline: 12/12/2025 Reference: 1928 About Us:  Bursting with culture, energy, and opportunity, the London Borough of Waltham Forest is a fantastic and exciting place to...


  • London, Greater London, United Kingdom LBWF Career Site Full time £54,267 - £57,402

    ***Internal Applicants Only*** Organisation: London Borough of Waltham Forest Salary: PO6 £54,267 - £57,402 Contract Type: Full-time, Permanent Working hours per week: 36 Application Deadline: 17/11/2025 Reference: 1924 About Us:  Bursting with culture, energy, and opportunity, the London Borough of Waltham Forest is a fantastic and exciting place to...


  • London, Greater London, United Kingdom Prifysgol Caerdydd Full time

    Mae'r swydd hon ar agor i weithwyr Prifysgol Caerdydd yn unig ar hyn o bryd.  Peidiwch ymgeisio os nad oes ganddoch gytundeb cyflogaeth ddilys gyda'r brifysgol.Ymgeiswyr Mewnol yn Unig - Intern Graddedig (Recriwtio Myfyrwyr y DU)Mae cyfle cyffrous ar gael ar gyfer Intern Graddedig yn yr adran Cyfathrebu a Marchnata. Byddwch yn cefnogi gwaith y Tîm...


  • London, Greater London, United Kingdom Prifysgol Caerdydd Full time

    Mae'r swydd hon ar agor i weithwyr Prifysgol Caerdydd yn unig ar hyn o bryd.  Peidiwch ymgeisio os nad oes ganddoch gytundeb cyflogaeth ddilys gyda'r brifysgol.Ymgeiswyr Mewnol yn Unig - Cynorthwyydd Ymchwil (Biowybodegydd)Yr Isadran Meddygaeth Seicolegol a'r Niwrowyddorau ClinigolYr Ysgol MeddygaethColeg y Gwyddorau Biofeddygol a BywydRydym yn chwilio am...


  • London, Greater London, United Kingdom Prifysgol Caerdydd Full time

    Mae'r swydd hon ar agor i weithwyr Prifysgol Caerdydd yn unig ar hyn o bryd.  Peidiwch ymgeisio os nad oes ganddoch gytundeb cyflogaeth ddilys gyda'r brifysgol.Ymgeiswyr Mewnol yn Unig - Cynorthwyydd YmchwilMae Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd am benodi hyd at ddau Gynorthwyydd Ymchwil rhan-amser (0.5 CALl) i wneud cyfraniad sylweddol i...


  • London, Greater London, United Kingdom Prifysgol Caerdydd Full time

    Mae'r swydd hon ar agor i weithwyr Prifysgol Caerdydd yn unig ar hyn o bryd.  Peidiwch ymgeisio os nad oes ganddoch gytundeb cyflogaeth ddilys gyda'r brifysgol.Ymgeiswyr Mewnol yn Unig - Pennaeth Cyllid / Partner Busnes Cyllid Uwchraddol yn Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau CymdeithasolMae Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau...


  • London, Greater London, United Kingdom Prifysgol Caerdydd Full time

    Mae'r swydd hon ar agor i weithwyr Prifysgol Caerdydd yn unig ar hyn o bryd.  Peidiwch ymgeisio os nad oes ganddoch gytundeb cyflogaeth ddilys gyda'r brifysgol.Ymgeiswyr Mewnol yn Unig - Rheolwr Darparu Lletygarwch (Arlwyo - Sector Prifysgolion)Mae Gwasanaethau Arlwyo'r Brifysgol yn darparu amrywiaeth o wasanaethau i fyfyrwyr, staff ac ymwelwyr, gan...