Prentisiaeth Newyddiadurwr Iau
6 days ago
Math o Gontract:
Prentisiaeth Cyfnod Penodol, Llawn-amser am 24 mis
Lleoliad:
Caerdydd - 3 Sgwâr Canolog
Cyflog:
£22,950
AI UN O BRENTISIAETHAU'R BBC YW'R SWYDD NESAF I CHI?
Ymunwch â ni fel prentis yn y BBC i roi hwb i'ch gyrfa mewn swydd y byddwch wrth eich bodd â hi. Rydym ni wedi ymrwymo i'ch helpu chi i ddatblygu eich sgiliau a'ch talent. Byddwch yn dysgu yn y gwaith ac yn cael cyfle i ddatblygu eich gwybodaeth a'ch sgiliau mewn maes y mae gennych chi ddiddordeb mawr ynddo, a hynny wrth weithio tuag at eich cymhwyster prentisiaeth gydag un o'n darparwyr dysgu.
PAM YMUNO Â'R CYNLLUN?
Mae'r
Brentisiaeth Newyddiadurwr Iau
yn ddelfrydol ar gyfer unigolion chwilfrydig sy'n frwd dros adrodd straeon. Os ydych chi newydd adael yr ysgol neu ar fin gorffen yr ysgol ac nad yw prifysgol yn addas i chi, mae'r rhaglen hon yn darparu hyfforddiant newyddiaduraeth o'r radd flaenaf gyda'r darlledwr gwasanaeth cyhoeddus mwyaf y byd.
Byddwch yn cael profiad ymarferol wrth weithio tuag at
Ddiploma NCTJ
mewn Newyddiaduraeth a chymhwyster prentisiaeth Lefel 5 – gan eich paratoi ar gyfer dyfodol yn y diwydiant.
I gael rhagor o wybodaeth am y cynlluniau rydym ni'n eu cynnig, gallwch gofrestru i ymuno ag un o'n gweminarau yma. Cadw llygad ar ein rhestr chwarae gwe-dathliad ar Youtube yma.
EICH PRIF GYFRIFOLDEBAU A'CH DYLANWAD
Fel Prentis Newyddiadurwr Iau, dyma gyfle gwych i ddysgu, tyfu a chyfrannu. Byddwch yn:
- Gweithio ochr yn ochr â thimau newyddion a materion cyfoes i ddatblygu eich sgiliau newyddiadurol, gan ddarparu cynnwys o safon ar gyfer y BBC
- Byddwch yn rhan o holl weithgareddau'r ystafell newyddion, fel dod o hyd i gyfranwyr neu westeion difyr, ysgrifennu briffiau ar gyfer eich tîm, neu ffilmio a golygu ffilmiau
- Canfod a chreu straeon ar gyfer cynulleidfaoedd amrywiol, gan gynnwys meddwl am syniadau newydd, cynnal ymchwil fanwl, a chynorthwyo gyda chyfweliadau
- Gweithio arbenigwyr yn y sefydliad darlledu gwasanaeth cyhoeddus mwyaf yn y byd, a dysgu ganddynt.
Byddwch yn astudio ar gyfer cymhwyster prentisiaeth sy'n cael ei gydnabod yn y diwydiant, gan ddysgu yn y gwaith a'r tu allan i'r gwaith. Mae hyn yn golygu y byddwch chi, fel prentis, yn dilyn y safon Prentisiaeth Newyddiadurwr Lefel 5 (cwricwlwm) ac yn gweithio tuag at gymhwyster sy'n cael ei gydnabod gan y diwydiant, sef Diploma NCTJ mewn Newyddiaduraeth. Caiff hyn ei asesu drwy arholiadau a gwaith cwrs.
I gael rhagor o wybodaeth am fframwaith y brentisiaeth, ewch i'r ddolen hon (JRA26). Mae rhagor o wybodaeth am Ddiploma NCTJ ar gael drwy ddilyn y ddolen hon.
EICH SGILIAU A'CH CYMHWYSEDD
Mae gennym ddiddordeb yn eich angerdd i weithio yn y BBC a'ch brwdfrydedd i ddarparu cynnwys o'r radd flaenaf a rhagoriaeth weithredol i'n cynulleidfaoedd. Nid ydym yn canolbwyntio ar eich cymwysterau, yn hytrach rydym yn chwilio am botensial, a byddwn yn rhoi cyfle i chi roi eich profiad a'ch cryfderau trosglwyddadwy ar waith mewn gwahanol ffyrdd.
Os Oes Gennych Chi Rai O'r Sgiliau A'r Profiadau Hyn, Ynghyd â Chryfderau Trosglwyddadwy, Byddem Yn Falch o Glywed Gennych Chi Ac Rydym Yn Eich Annog i Wneud Cais
- Yn chwilfrydig iawn am bobl a'r hyn sy'n digwydd yn y byd
- Yn llawn syniadau creadigol a ffyrdd llawn dychymyg o adrodd straeon
- Yn frwd dros gynhyrchu cynnwys newyddion a materion cyfoes ar draws teledu, sain, ar-lein a chyfryngau cymdeithasol
- Mae ysgrifennu yn eich cyffroi
- Agwedd hyblyg, llawn cymhelliant ac yn barod i addasu i gyflymder ystafell newyddion.
Mae'r cynllun hwn wedi'i anelu at bobl heb raddio. Os oes gennych chi radd neu ddiploma NCTJ mewn Newyddiaduraeth a'ch bod yn dymuno hyfforddi fel Newyddiadurwr yn y BBC, rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais am Brentisiaeth Newyddiadurwr Lefel 6.
MEINI PRAWF CYMHWYSEDD
Mae'n rhaid i chi fodloni'r canlynol i fod yn gymwys ar gyfer prentisiaeth yn y BBC:
- Bod yn 18 oed neu'n hŷn erbyn y bydd y brentisiaeth yn dechrau ym mis Medi 2026
- Bod wedi byw yn y DU yn ddi-dor am y 3 blynedd cyn dechrau'r brentisiaeth
- Bod yn gymwys yn gyfreithiol i weithio'n llawn-amser yn y Deyrnas Unedig am holl gyfnod y brentisiaeth
- Bod heb gofrestru ar gynllun prentisiaeth arall sy'n cael ei gefnogi gan y BBC neu sefydliad arall ar hyn o bryd.
I wneud cais am y cynllun hwn, rhaid bodloni'r canlynol hefyd:
- Nid ydych wedi cwblhau nac yn astudio ar gyfer diploma NCTJ neu gymhwyster newyddiaduraeth ar yr un lefel neu uwch
- Mae gennych un ai TGAU Mathemateg a Saesneg Gradd 4/C, gradd C mewn cymhwyster National 5 (yr Alban), Sgiliau Swyddogaethol Lefel 2; neu gymhwyster cyfatebol.
I gwblhau'r prentisiaeth, mae'n rhaid i chi gael Lefel 2 Sgiliau Hanfodol Cymru mewn: Cyfathrebu a Chymhwyso Nifer o fewn y 12 mis cyntaf o'r prentisiaeth.
BAROD I YMGEISIO?
Peidiwch â cholli'r cyfle i fod yn rhan o rywbeth cyffrous. Ydych chi'n gweld eich hun yn ffynnu yn y rôl hon? Cliciwch 'Ymgeisio Nawr'
Bydd angen i chi greu proffil ymgeisydd ac ateb ambell gwestiwn - does dim angen CV na llythyr cais.
Os ydych chi'n gymwys, byddwn ni'n eich tywys drwy'r camau nesaf gan roi syniad i chi o beth i'w ddisgwyl.
Bydd angen i chi fyw o fewn pellter teithio i leoliad y swydd hon. Eisiau gweithio o leoliad gwahanol? Edrychwch ar ein hysbysebion eraill - ond cofiwch mai dim ond am un swydd y gallwch wneud cais.
Mae hon yn brentisiaeth am gyfnod penodol - bydd eich contract yn para hyd ddiwedd y cynllun. Ar ôl cwblhau'r cynllun, byddwch chi'n cael eich cefnogi i ddatblygu yn eich gyrfa ac yn derbyn hyfforddiant cyflogadwyedd a chyfleoedd i rwydweithio i'ch helpu i gymryd y camau nesaf - boed hynny gyda'r BBC neu gyda sefydliad arall yn y diwydiant.
Disclaimer
This job description is a written statement of the essential characteristics of the job, with its principal accountabilities, incorporating a note of the skills, knowledge and experience required for a satisfactory level of performance. This is not intended to be a complete, detailed account of all aspects of the duties involved.
Our apprenticeship roles are also subject to you having the require qualifications that we have deemed to be necessary for your role and the requirement of the training provider for your scheme. The offer would be subject to you undergoing and meeting the requirements of a skill scan process with the BBC nominated training provider to determine your eligibility.
Please note: If you were to be offered this role, the BBC will conduct Employment screening checks which include Reference checks; Eligibility to work checks; and if applicable to the role, Safeguarding and Adverse media/Social media checks. Any offer made is conditional on these checks being satisfactory.
-
Prentisiaeth Newyddiadurwr Iau
2 weeks ago
Cardiff - Central Square, United Kingdom BBC Full time £22,950 per yearMath o Gontract: Prentisiaeth Cyfnod Penodol, Llawn-amser am 24 misLleoliad: Caerdydd - 3 Sgwâr CanologCyflog: £22,950 AI UN O BRENTISIAETHAU'R BBC YW'R SWYDD NESAF I CHI? Ymunwch â ni fel prentis yn y BBC i roi hwb i'ch gyrfa mewn swydd y byddwch wrth eich bodd â hi. Rydym ni wedi ymrwymo i'ch helpu chi i ddatblygu eich sgiliau a'ch talent....

Cardiff - Central Square, United Kingdom BBC Full time £19,192 per yearMath o Gontract: Prentisiaeth Cyfnod Penodol, Llawn-amser am 24 misLleoliad: Caerdydd - 3 Sgwr CanologCyflog: £22,950 AI UN O BRENTISIAETHAU'R BBC YW'R SWYDD NESAF I CHI? Ymunwch â ni fel prentis yn y BBC i roi hwb i'ch gyrfa mewn swydd y byddwch wrth eich bodd â hi. Rydym ni wedi ymrwymo i'ch helpu chi i ddatblygu eich sgiliau a'ch talent....
-
Cardiff, United Kingdom BBC Full timeMath o Gontract:Prentisiaeth Cyfnod Penodol Llawn-amser am 24 misLleoliad:Caerdydd - 3 Sgwâr CanologCyflog:22950AI UN O BRENTISIAETHAUR BBC YWR SWYDD NESAF I CHI Ymunwch â ni fel prentis yn y BBC i roi hwb ich gyrfa mewn swydd y byddwch wrth eich bodd â hi. Rydym ni wedi ymrwymo ich helpu chi i ddatblygu eich sgiliau ach talent. Byddwch yn dysgu yn y...

Prentisiaeth Newyddiadurwr
2 weeks ago
Cardiff - Central Square, United Kingdom BBC Full time £22,950 per yearMath o Gontract: Prentisiaeth Cyfnod Penodol, Llawn-amser am 24 misLleoliad: Caerdydd - 3 Sgwâr CanologCyflog: £22,950 AI UN O BRENTISIAETHAU'R BBC YW'R SWYDD NESAF I CHI? Ymunwch â ni fel prentis yn y BBC i roi hwb i'ch gyrfa mewn swydd y byddwch wrth eich bodd â hi. Rydym ni wedi ymrwymo i'ch helpu chi i ddatblygu eich sgiliau a'ch talent....
-
Cardiff, United Kingdom BBC Full timeMath o Gontract:Prentisiaeth Cyfnod Penodol Llawn-amser am 24 misLleoliad:Caerdydd - 3 Sgwâr CanologCyflog:22950AI UN O BRENTISIAETHAUR BBC YWR SWYDD NESAF I CHI Ymunwch â ni fel prentis yn y BBC i roi hwb ich gyrfa mewn swydd y byddwch wrth eich bodd â hi. Rydym ni wedi ymrwymo ich helpu chi i ddatblygu eich sgiliau ach talent. Byddwch yn dysgu yn y...
-
Prentisiaeth Cynhyrchu
1 day ago
Cardiff, United Kingdom BBC Group and Public Services Full timePrentisiaeth Cynhyrchu - Lefel 3 (Level 3 Apprenticeship) at Radio Cymru, Cardiff. Job Requisition ID: 35115 Closing Date: 11 January 2026 Contract: Prentisiaeth Cyfnod Penodol, penodol £22,950 annual salary Location: Caerdydd - 3 Sgwâr Canolog Department: Meithrin Potensial Responsibilities Brofi pob rhan o waith cynhyrchu rhaglenni Creu rhestri chwarae...