Web Developer

4 days ago


London, Greater London, United Kingdom Prifysgol Caerdydd Full time
Gwe-ddatblygwr

Mae Prifysgol Caerdydd yn chwilio am Ddatblygwr Gwe brwdfrydig i ymuno â'r Tîm Datblygu Gwe a Symudol. Bydd y rôl hon yn canolbwyntio ar ddarparu atebion technegol a ddiffinnir gan y Brifysgol a fydd yn helpu i ddatblygu a gwella profiad digidol Myfyrwyr a Staff. Byddwch yn rhan o dîm sefydledig o ddatblygwyr. Bydd deiliaid y rôl yn cymryd cyfrifoldeb am ddylunio, datblygu, integreiddio, profi a dogfennu nifer o raglenni gwe pwrpasol. Rydym yn chwilio am ddatblygwr sy'n gyfforddus yn ysgrifennu cymwysiadau gwe a symudol gyda phrofiad o ddefnyddio APIs i ddefnyddio data a chysylltu systemau â'i gilydd. Rydym yn defnyddio PHP a JavaScript yn bennaf ar gyfer datblygiad pen blaen, ond byddwch yn ymuno â thîm amrywiol sy'n defnyddio amrywiaeth o ieithoedd i ddatblygu a chefnogi cymwysiadau gwe ar gyfer myfyrwyr a staff. Rydym yn gweithio mewn ffordd hyblyg ac yn disgwyl gwybodaeth am arferion da safonol, rheoli fersiynau, dogfennaeth a datblygu ar sail profion.
Swydd llawn amser a phenagored yw hon

Rydym yn chwilio am ddatblygwr stac cyflawn i ddefnyddio ystod o dechnolegau gan gynnwys React Native, Go a PHP. Bydd y rôl yn eich galluogi i gael mewnbwn ar benderfyniadau technegol a dylunio ac yn gofyn i chi ryngweithio'n uniongyrchol â'n rhanddeiliaid. Rydym yn caniatáu i chi fynd ati i lunio'r cynhyrchion rydym yn eu datblygu a gweld y manteision i chi'ch hun.

Mae'r tîm yn gweithio mewn ffordd hyblyg gan ddefnyddio JIRA ar gyfer rheoli prosiectau, Docker ar gyfer datblygu lleol, piblinellau CI/CD gyda'r holl newidiadau côd yn cael eu hadolygu gan gymheiriaid. Er bod y tîm yn gweithio o bell yn bennaf, mae'r tîm yn cymryd rhan mewn cyfarfodydd sefyll dyddiol gyda diwrnodau rheolaidd ar y safle.   

Mae'r swydd hon yn un amser llawn a phenagored.

Cyflog: £33,951 - £36,636 y flwyddyn (Gradd 5) 

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i:

Dyddiad hysbysebu: Dydd Iau, 11 Rhagyfr 2025

Dyddiad cau: Dydd Sul, 4 Ionawr 2026

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a sicrhau amgylchedd gwaith cynhwysol. Rydym yn credu y gallwn wneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o weithwyr o lawer o wahanol gefndiroedd sydd â'r uchelgais i greu prifysgol sy'n ceisio cyflawni ei rhwymedigaeth gymdeithasol, ddiwylliannol ac economaidd i Gaerdydd, Cymru, a'r byd.  Er mwyn helpu ein gweithwyr i gynnal cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywyd personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio'n hyblyg neu rannu swydd.
Prif Swyddogaeth 

Mae'r swydd yn rhan o wasanaeth TG y Brifysgol. Bydd deiliad y swydd yn gweithio'n rhan o dîm cyflwyno gwasanaethau proffesiynol sy'n ymroi i gyflwyno gwasanaeth effeithlon, effeithiol, ystyriol o gwsmeriaid ac o ansawdd uchel ar gyfer holl staff a myfyrwyr y Brifysgol.
Bydd rhaid gwneud y canlynol: 
· Cyfrannu at arbenigedd y sefydliad, gan fod yn gyfrifol am ddatblygu a chynnal systemau technegol. 
· Cyfrannu at ddatblygu, cefnogi a chynnal cymwysiadau gwe a ffonau symudol pwrpasol y Brifysgol. 
· Bod yn gyfrifol am fanylu a dylunio gwelliannau i'r wefan, gan ddefnyddio crebwyll i awgrymu'r ffordd fwyaf priodol o weithredu lle bo angen. 
· Cytuno ar safonau, dulliau ac offer dylunio priodol mewn ymgynghoriad â rheolwyr llinell. · Sicrhau bod yr holl waith yn cael ei ddogfennu gan ddefnyddio'r safonau, dulliau ac offer priodol, gan gynnwys offer prototeipio (prototyping) lle bo'n briodol. 
· Cadw'n ymwybodol o'r farchnad, asesu pecynnau meddalwedd ar sail eu gallu i fodloni gofynion penodol naill ai'n rhannol neu'n gyfan gwbl, a rhoi gwybod i gydweithwyr a rheolwyr am eu haddasrwydd technegol. 
· Cysylltu â chydweithwyr lle bo'n briodol ar ddadansoddiadau cost a budd, dadansoddiadau risg a chynlluniau datblygu. · Cysylltu â chyflenwyr allanol a chyfrannu at asesu a dewis pecynnau meddalwedd addas i fodloni'r cyfan neu rannau o ofynion penodol. 
· Cadw'n ymwybodol o ofynion gweithredu, yn enwedig o ran lefelau'r gwasanaeth, argaeledd, amserau ymateb, diogelwch ac amserau atgyweirio.
 · Rhoi cyngor ynglŷn â phob agwedd ar ddylunio a thechnoleg o fewn eich cylch gwaith. 
· Gwneud yn siŵr bod pob tasg a gweithdrefn yn cael ei gwblhau'n effeithiol ac yn effeithlon yn unol â lefelau gwasanaeth y cytunir arnynt. 
· Derbyn, cofnodi a blaenoriaethu gofynion am gymorth yn unol â meini prawf y cytunir arnynt, ac anghenion y sefydliad, gan uwch-gyfeirio gofynion at staff datblygu neu gyflenwyr lle bo'n briodol. 
· Sicrhau bod problemau yn cael eu hymdrin yn unol â safonau a phrosesau y cytunir arnynt ac yn cydymffurfio â gweithdrefnau uwchgyfeirio. 
· Gweithio o fewn timau matrics o staff ar draws y sefydliad er mwyn cyflwyno datrysiadau technoleg arbennig i'r Brifysgol. Rhoi cyngor ac arweiniad lle bo angen. 
· Cymryd rhan mewn unrhyw brosiectau fel bo'n briodol. 
· Meithrin perthnasoedd gyda chysylltiadau allweddol i wneud yn siŵr bod amcanion y swydd yn cael eu bodloni, gan ddatblygu cysylltiadau cyfathrebu addas gyda rhanddeiliaid mewnol ac allanol yn ôl yr angen.
 · Cadw at bolisïau'r Brifysgol mewn perthynas ag Iechyd a Diogelwch a Chydraddoldeb ac Amrywiaeth.
 · Cyflawni dyletswyddau eraill o bryd i'w gilydd nad ydynt wedi'u cynnwys uchod, ond sy'n cyd-fynd â'r rôl. 

Cwblhau tasgau fyddai'n gysylltiedig â chydweithwyr iau fel arfer, er mwyn bodloni gofynion gweithredu. 

Ymgymryd â dyletswyddau sy'n gysylltiedig â rôl uwch er mwyn datblygu. 

Technolegau Cyfredol: CakePHP, JavaScript, Expo, React, Go, WordPress

Meini Prawf Hanfodol

Gwybodaeth, Sgiliau a Phrofiad
1. Profiad amlwg o ysgrifennu côd cynaliadwy o ansawdd da ar gyfer rhaglenni gwe ar raddfa fawr cymwysiadau
2. Profiad o gylch oes llawn datblygu meddalwedd, gan gynnwys hanesion defnyddwyr a datblygu ar sail profi, methodolegau cyflwyno hyblyg neu iteraidd
3. Gwybodaeth a phrofiad gan ddefnyddio dau neu ragor o'r ieithoedd/fframweithiau/technegau canlynol neu debyg;
  • HTML 5, JavaScript, React, PHP, CSS, Git a defnyddio APIs.
4. Profiad amlwg o ddefnyddio setiau offer ar gyfer tasgau monitro, archwilio ac adrodd cefnogi perfformiad.
5. Sgiliau rheoli perthynas rhagorol a phrofedig gyda phrofiad o reoli'r gofynion rhanddeiliaid

Gwasanaeth Cwsmeriaid, Cyfathrebu a Gweithio mewn Tîm
6. Y gallu i lywio datblygiadau drwy gymryd rhan weithredol mewn timau a grwpiau.
7. Sgiliau trefnu a chyfathrebu a sgiliau rhyngbersonol rhagorol Y gallu i gofnodi atebion cymhleth a thechnegol ar ffurf fframwaith rhesymegol a chlir y gall pobl eraill ei ddeall yn hawdd.

Cynllunio, Dadansoddi a Datrys Problemau
8. Y gallu i fod yn hyblyg dan bwysau wrth flaenoriaethu gwaith.
9. Gwybodaeth a phrofiad amlwg o reoli problemau, gwallau a gwybodaeth technegau dadansoddi, datrys a chyflwyno.

Cymwysterau ac Addysg
10. Gradd/NVQ 4 neu brofiad/aelodaeth broffesiynol gyfatebol.

Meini Prawf Dymunol

1. Profiad o ddatblygu mewn dull 'ffôn yn gyntaf'.
2. Dealltwriaeth o reoli gwasanaethau ITIL, neu rywbeth tebyg.
3. Gallu i gyfathrebu yn Gymraeg neu barodrwydd i'w dysgu.
  • Web Developer

    7 hours ago


    London, Greater London, United Kingdom GLC People Full time

    Job Title: Web Developer - Job Board WebsitesRole: Partner / Business Associate Location: Remote / Hybrid Type: Full-Time / Part-Time / Flexi About Us:At Millens.XYZ, we specialize in creating dynamic, user-friendly job board websites that connect employers with top talent across various industries. Our mission is to streamline the hiring process and...

  • Web Developer

    2 weeks ago


    London, Greater London, United Kingdom Enus Recriutment Full time £30,000 - £60,000 per year

    A leading web agency, specialising in web design, web application development and web marketing has an opportunity for an outstanding Web Developer with very strong PHP/MySQL skills to join their friendly and hardworking team. Experience in Zend Framework would be a plus. This role, based in North London is ideal for a very experienced and technically...

  • Web Developer

    2 weeks ago


    London, Greater London, United Kingdom StrategiQ Full time £25,000 - £35,000 per year

    We're looking for a talented Web Developer with exceptional front-end skills to join our team. You'll play a key role in bringing websites, apps and digital experiences to life, working closely with designers, strategists and backend developers to create world-class interfaces. If you love crafting clean, accessible high-quality front-end code, enjoy solving...

  • Web Developer

    6 days ago


    London, Greater London, United Kingdom Gamdom Full time

    We are seeking a detail-oriented Remote Web Developer to support our online casino platform through technical implementation, publishing, and optimisation of SEO content. This fully remote role requires someone who is highly organised, technically skilled, and able to work independently while collaborating effectively with international teams.Key...

  • Web Developer I

    4 days ago


    London, Greater London, United Kingdom ADF International Full time

    Make a difference with us At ADF International, we believe God has brought you here for His purpose—to stand for truth and defend the God-given right to live and speak it. Together, we protect religious freedom, free speech, the sanctity of life, marriage and family, and parental rights. Review our Statement of Faith to ensure we're a fit for...


  • London, Greater London, United Kingdom Fonoa Full time £60,000 - £100,000 per year

    Role description:As the Fonoa Web Developer, you'll own the development and optimisation of Fonoa's marketing website, our primary channel for driving qualified leads and demand.You'll build and maintain a high-performing, conversion-optimised Webflow site that's fast, accessible, and on brand. Working closely with marketing, design, and content teams,...

  • Web Developer

    1 week ago


    London, Greater London, United Kingdom Sensor Tower Full time £60,000 - £100,000 per year

    Fraud warning:It's common for scammers to create positions that look legitimate on other sites. To ensure your submission is considered, only apply for positions at Sensor Tower through our company website or through posts directly associated with Sensor Tower company profiles on sites such as LinkedIn, Indeed, BuiltIn or Hackajob. At no point will Sensor...


  • London, Greater London, United Kingdom UCKG Help Centre Full time £280,000 - £350,000 per year

    The UCKG is currently looking for a talented and self-motivated in-house WordPress Web Developer who can take full responsibility for designing, developing, and delivering a clean, fully functional, and SEO-optimised website. The ideal candidate will have strong experience working independently across the full website lifecycle—from concept and structure...


  • London, Greater London, United Kingdom SetSales Full time £30,000 - £40,000 per year

    Do you thrive in a fast-paced environment? Do you want to be part of an exceptional entrepreneurial team with young, motivated and extremely driven people? And are you curious or passionate about people? If so, you might be our next Wordpress Web Developer.About usSetSales is Northern Europe's leading sales community and aims to connect and develop...


  • London, Greater London, United Kingdom CFO Insights Full time £30,000 - £60,000 per year

    Do you thrive in a fast-paced environment? Do you want to be part of an exceptional entrepreneurial team with young, motivated and extremely driven people? And are you curious or passionate about people? If so, you might be our next Wordpress Web Developer.About usCFO Insights is Northern Europe's largest CFO forum and aims to connect and develop CFOs,...