Internal Applicants Only

3 days ago


London, Greater London, United Kingdom Prifysgol Caerdydd Full time
Mae'r swydd hon ar agor i weithwyr Prifysgol Caerdydd yn unig ar hyn o bryd.  Peidiwch ymgeisio os nad oes ganddoch gytundeb cyflogaeth ddilys gyda'r brifysgol.

Ymgeiswyr Mewnol yn Unig - Cynorthwy-ydd Gweinyddol – Ymgysylltu â Chyflogwyr

Mae Dyfodol Myfyrwyr, sy'n rhan o is-adran Bywyd Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, yn wasanaeth cyflym sy'n gweithio gyda chydweithwyr, myfyrwyr a chyflogwyr y Brifysgol i wella cyflogadwyedd myfyrwyr a chanlyniadau graddedigion. Mae'r tîm wedi'i leoli yn adeilad newydd cyffrous Canolfan Bywyd y Myfyrwyr ar gampws Parc Cathays.

Gan weithio fel rhan annatod o'r tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr yn Dyfodol Myfyrwyr, bydd y rôl amrywiol hon yn darparu ystod eang o gymorth gweinyddol i'r tîm ac yn cynnwys cyfathrebu'n rheolaidd â chyflogwyr gan dargedu myfyrwyr a graddedigion Prifysgol Caerdydd. Bydd tasgau allweddol yn cynnwys:
  • Ymdrin ag ystod eang o ymholiadau gan gwsmeriaid mewnol ac allanol, gan roi gwybodaeth a chyngor ar brosesau a gweithdrefnau ymgysylltu â chyflogwyr.
  • Rheoli ein Cronfa Ddata Cysylltiadau Cwsmeriaid (CRM) o ddydd i ddydd a'n Bwrdd Swyddi ar-lein.
  • Rhoi cymorth gweinyddol marchnata a logistaidd i'r tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr ar gyfer ein rhaglen flynyddol o ddigwyddiadau cyflogwyr ac ymgyrchoedd recriwtio
  • Cefnogi'r tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr i greu ystod o adroddiadau rheoli amserol.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â thîm cyflym a blaengar o fewn Dyfodol Myfyrwyr a chael profiad o reoli digwyddiadau o fewn atyniad graddedigion a thirwedd recriwtio.

Swydd amser llawn (35 awr yr wythnos) a phenagored yw hon.  Patrwm gweithio safonol — Dydd Llun i Ddydd Gwener.

Cyflog: £25,249 - £26,093 y flwyddyn (Gradd 3)

Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig llawer o fanteision rhagorol, gan gynnwys 32 diwrnod o wyliau blynyddol (ynghyd â gwyliau banc) cynllun pensiwn lleol, gweithio cyfunol (sy'n golygu y byddwch yn gallu gweithio gartref am beth o'ch amser), cynllun beicio i'r gwaith a mentrau teithio eraill, cynyddiadau blynyddol i fyny'r raddfa gyflog, a mwy. Mae'n le cyffrous a bywiog i weithio, gyda llawer o heriau gwahanol ac mae'n gefnogwr Cyflog Byw balch.

Dyddiad cau: Dydd Mawrth, 16 Rhagfyr 2025

Nid yw ceisiadau allanol yn cael eu hystyried ar gyfer y swydd hon ar hyn o bryd.  Os penderfynir agor y swydd i ymgeiswyr allanol, bydd yr isbennawd ar y brig yn cael ei thynnu a rhoddir digon o amser i chi wneud cais - cadwch olwg ar y dudalen am fanylion.

Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol.  Credwn y gallwn wneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o wahanol gefndiroedd sydd am greu Prifysgol sy'n ceisio cyflawni ein rhwymedigaeth gymdeithasol, ddiwylliannol ac economaidd i Gaerdydd, Cymru, a'r byd.  Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Prif Ddyletswyddau
  • Ymgymryd ag amrywiaeth o ddyletswyddau gweinyddol i gefnogi'r Tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr a'r adran. Bydd hyn yn cynnwys rhoi cefnogaeth weinyddol gyffredinol, anfonebu, diweddaru'r system CRM, gweinyddu'r bwrdd swyddi a rhoi cymorth gyda logisteg a marchnata yn ôl yr angen.
  • Ymdrin ag ystod o ymholiadau gan gwsmeriaid mewnol ac allanol drwy gyfrwng ebost a thros y ffôn mewn modd proffesiynol a phrydlon.
  • Casglu a dadansoddi data er mwyn diweddaru systemau gweinyddol â gwybodaeth gywir, ac adnabod tueddiadau a phatrymau sylfaenol mewn unrhyw ddata a gyflwynir, gan gynhyrchu gwybodaeth reoli adroddiadau misol.
  • Cydweithio ag eraill mewn cyfarfodydd tîm a chyfarfodydd adrannol rheolaidd, gwneud argymhellion i ddatblygu'r prosesau a'r gweithdrefnau sydd eisoes ar waith.
  • Sefydlu perthynas waith gyda chysylltiadau allweddol i geisio gwella lefelau gwasanaeth, gan gynnwys cysylltiadau â chyflogwyr a chydweithwyr ym maes Dyfodol Myfyrwyr a'r Brifysgol yn ehangach.
Dyletswyddau Penodol
  • Cyflawni amrywiaeth o dasgau gweinyddol i gefnogi'r gwaith o gyflwyno rhaglen flynyddol o weithgarwch ymgysylltu â chyflogwyr cyfunol (ar-lein ac ar y campws).
  • Rheoli a gweinyddu bwrdd swyddi ar-lein Prifysgol Caerdydd o ddydd i ddydd gan ddefnyddio TARGETConnect i gyfathrebu â sefydliadau fel y bo'n briodol, a monitro hysbysebion a osodir ar y safle i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â chanllawiau'r Brifysgol.
  • Diweddaru system cronfa ddata CRM er mwyn cadw gwybodaeth a sicrhau bod cysylltiadau'n gyfredol.
  • Darparu ystod eang o gymorth gweinyddol marchnata i helpu i hyrwyddo digwyddiadau cyflogwyr a hyrwyddo ymgyrchoedd a chyfleoedd recriwtio.
  • Darparu cynnwys rheolaidd ar gyfer y tîm cyfathrebu, diweddaru adnoddau digidol a chreu ebyst marchnata wythnosol i gydweithwyr sy'n tynnu sylw at gyfleoedd myfyrwyr a graddedigion a digwyddiadau sydd i ddod.
  • Cyflawni tasgau gweinyddol ariannol gan gynnwys anfonebu a gweithio gyda'r Rheolwr Ymgysylltu â Chyflogwyr a'r tîm Cyllid i ddatrys ymholiadau.
  • Gweithio gyda'r Rheolwr Ymgysylltu â Chyflogwyr i gynhyrchu a diweddaru canllawiau, polisïau a chanllawiau i ddefnyddwyr myfyrwyr a chyflogwyr, gan wneud argymhellion i wella systemau a gweithdrefnau'r tîm lle bo'n briodol.
  • Cynllunio a threfnu cyfarfodydd ar-lein ac wyneb yn wyneb ar gyfer aelodau'r tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr, gan gymryd cofnodion yn ôl yr angen.
  • Cefnogi'r tîm i ddiweddaru a chynnal rhestrau cyflogwyr targed sy'n cyfrannu at gyflawni targedau tîm blynyddol a blaenoriaethau allweddol.
  • Cyfrannu'n weithredol at rannu gwybodaeth yn y Tîm a chyfrannu'n rheolaidd at safleoedd Teams newydd a ffeiliau SharePoint i gefnogi cydweithwyr. 
  • Cyfrannu at y tîm gweinyddol ehangach, a chynnig cefnogaeth ym meysydd eraill yr Is-adran, fel y bo angen, a chynnal hyfforddiant cysylltiedig.
  • Datblygu'n bersonol ac yn broffesiynol mewn ffyrdd addas a fydd yn gwella perfformiad. 
Dyletswyddau Cyffredinol
  • Sicrhau eich bod yn deall pwysigrwydd cyfrinachedd wrth ymgymryd â phob un o'ch dyletswyddau
  • Cadw at bolisïau'r Brifysgol o ran Iechyd a Diogelwch a Chydraddoldeb ac Amrywiaeth
  • Cyflawni dyletswyddau eraill o bryd i'w gilydd nad ydynt wedi'u cynnwys uchod, ond sy'n cyd-fynd â'r rôl.
Nodyn pwysig:
  • Mae'n bolisi gan y Brifysgol i ddefnyddio manyleb yr unigolyn fel adnodd allweddol wrth ddethol pobl ar gyfer y rhestr fer. Dylai ymgeiswyr ddangos tystiolaeth eu bod yn bodloni'r HOLL feini prawf hanfodol, yn ogystal â'r meini prawf dymunol, lle bo'n berthnasol.
  • Fel rhan o'ch cais, gofynnir i chi roi'r dystiolaeth hon mewn datganiad i ategu'r cais. 
  • Gwnewch yn siŵr bod eich tystiolaeth yn cyfateb i'r meini prawf isod sydd wedi' rhifo.
  • Ystyrir eich cais ar sail y wybodaeth y byddwch yn ei rhoi o dan bob elfen.
Wrth atodi'r datganiad i ategu eich cais i broffil eich cais, cofiwch roi cyfeirnod y swydd wag yn nheitl y ddogfen e.e. Datganiad Ategol ar gyfer 20393BR.

Meini Prawf Hanfodol

Cymwysterau ac Addysg
  1. NVQ 2/TGAU A-C neu gymwysterau cyfatebol
Gwybodaeth, Sgiliau a Phrofiad
  1. Profiad sylweddol o weithio mewn amgylchedd swyddfa neu weinyddol, a'r gallu i sefydlu systemau gweinyddol a gweithdrefnau safonol
  2. Yn fedrus wrth ddefnyddio pecynnau TG swyddfa cyffredin (e.e. MS Office), Cyfryngau Cymdeithasol a llwyfannau digidol
Gwasanaeth i Gwsmeriaid, Cyfathrebu a Gweithio mewn Tîm
  1. Y gallu i gyfathrebu'n glir, yn effeithiol ac yn broffesiynol ag ystod amrywiol o bobl a chwsmeriaid ar lafar ac yn ysgrifenedig
  2. Y gallu i weithio fel aelod effeithiol o'r tîm, gan roi cyngor ac arweiniad i gwsmeriaid mewnol ac allanol lle bo angen
  3. Gallu diamheuol i ymdopi â cheisiadau estynedig am wybodaeth neu wasanaeth, a datrys problemau cwsmeriaid lle bo'n briodol
Cynllunio, Dadansoddi a Datrys Problemau
  1. Y gallu i gynllunio, blaenoriaethu a threfnu eich llwyth gwaith eich hun o fewn amserlenni y cytunir arnynt
  2. Tystiolaeth o allu i ddadansoddi ac adrodd ar ystod o ddata o wahanol ffynonellau gwybodaeth
  3. Y gallu i ddefnyddio menter a chreadigrwydd wrth gyfrannu at y broses o gynllunio tîm yn ogystal â rhagweld a datrys problemau, gan nodi atebion ymarferol ac arloesol.
Arall
  1. Parodrwydd i ymgymryd â hyfforddiant a datblygiad pellach.
Meini Prawf Dymunol
  1. Profiad o weithio ym maes Addysg Uwch
  2. Rhugl yn y Gymraeg, yn ysgrifenedig ac ar lafar


  • London, Greater London, United Kingdom Cardiff University Full time

    This post is currently open to employees of Cardiff University only.  Please do not apply if you do not have a current contract of employment with the University.Internal Applicants Only - International Student Support AdvisorWorking within the flagship Centre for Student Life it's an exciting time to work in Cardiff University's Student Life...


  • London, Greater London, United Kingdom Cardiff University Full time £28,031 - £31,236 per year

    This post is currently open to employees of Cardiff University only.  Please do not apply if you do not have a current contract of employment with the University.Internal Applicants Only - Research Support OfficerSchool of Biosciences (BIOSI)An exciting opportunity has arisen within the Research Service for a Research Support Officer based in the School of...


  • London, Greater London, United Kingdom LBWF Career Site Full time £40,182 - £42,060

    ***Internal Applicants Only*** Organisation: London Borough of Waltham Forest Salary: SO2 £40,182 - £42,060  Contract Type: Full-time, Permanent  Working hours per week: 36 hours a week (Monday-Thursday 9am-5.15pm), Friday (9am-5pm) Application Deadline: 25/11/2025 DBS: Standard  Reference: 1802 About Us:  Bursting with culture, energy, and...


  • London, Greater London, United Kingdom LBWF Career Site Full time £38,256 - £39,276

    ***Internal Applicants Only*** Organisation: London Borough of Waltham Forest Salary: SO1 £38,256 - £39,276 Contract Type: Full-time, Permanent Working hours per week: 36 Application Deadline: 12/12/2025 Reference: 1928 About Us:  Bursting with culture, energy, and opportunity, the London Borough of Waltham Forest is a fantastic and exciting place to...


  • London, Greater London, United Kingdom LBWF Career Site Full time £54,267 - £57,402

    ***Internal Applicants Only*** Organisation: London Borough of Waltham Forest Salary: PO6 £54,267 - £57,402 Contract Type: Full-time, Permanent Working hours per week: 36 Application Deadline: 17/11/2025 Reference: 1924 About Us:  Bursting with culture, energy, and opportunity, the London Borough of Waltham Forest is a fantastic and exciting place to...


  • London, Greater London, United Kingdom Prifysgol Caerdydd Full time

    Mae'r swydd hon ar agor i weithwyr Prifysgol Caerdydd yn unig ar hyn o bryd.  Peidiwch ymgeisio os nad oes ganddoch gytundeb cyflogaeth ddilys gyda'r brifysgol.Ymgeiswyr Mewnol yn Unig - Intern Graddedig (Recriwtio Myfyrwyr y DU)Mae cyfle cyffrous ar gael ar gyfer Intern Graddedig yn yr adran Cyfathrebu a Marchnata. Byddwch yn cefnogi gwaith y Tîm...


  • London, Greater London, United Kingdom Prifysgol Caerdydd Full time £41,064 - £46,649 per year

    Mae'r swydd hon ar agor i weithwyr Prifysgol Caerdydd yn unig ar hyn o bryd.  Peidiwch ymgeisio os nad oes ganddoch gytundeb cyflogaeth ddilys gyda'r brifysgol.Ymgeiswyr Mewnol yn Unig – Cynghorydd Cymorth Myfyrwyr RhyngwladolDyma adeg gyffrous i weithio yng y Ganolfan Bywyd Myfyrwyr ac yn Is-adran Bywyd Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Bydd y rôl hon yn y...


  • London, Greater London, United Kingdom Prifysgol Caerdydd Full time £41,064 - £46,049 per year

    Mae'r swydd hon ar agor i weithwyr Prifysgol Caerdydd yn unig ar hyn o bryd.  Peidiwch ymgeisio os nad oes ganddoch gytundeb cyflogaeth ddilys gyda'r brifysgol.Ymgeiswyr Mewnol yn Unig - Arbenigwr Prosiect (DA a Gwyddor Data)Hwb Caerdydd Canolfan HartreeYr Ysgol Cyfrifiadureg a GwybodegMae cyfle wedi codi i ymuno â Hwb Caerdydd Canolfan Hartree a'r Ysgol...


  • London, Greater London, United Kingdom Prifysgol Caerdydd Full time £33,951 - £36,836 per year

    Mae'r swydd hon ar agor i weithwyr Prifysgol Caerdydd yn unig ar hyn o bryd.  Peidiwch ymgeisio os nad oes ganddoch gytundeb cyflogaeth ddilys gyda'r brifysgol.Ymgeiswyr Mewnol yn Unig - Cynorthwy-ydd Ymchwil (rhan-amser)Ysgol Peirianneg CaerdyddMae Ysgol Peirianneg, Prifysgol Caerdydd, yn chwilio am Gynorthwy-ydd Ymchwil brwdfrydig iawn i ymuno â'n tîm...


  • London, Greater London, United Kingdom Prifysgol Caerdydd Full time

    Mae'r swydd hon ar agor i weithwyr Prifysgol Caerdydd yn unig ar hyn o bryd.  Peidiwch ymgeisio os nad oes ganddoch gytundeb cyflogaeth ddilys gyda'r brifysgol. Ymgeiswyr Mewnol yn Unig - Datblygwr/Dadansoddwr Cynnal Systemau (Systemau Myfyrwyr)  Mae gan Brifysgol Caerdydd swydd wag ar gyfer Datblygwr/Dadansoddwr Cynnal Systemau gyda'r tm sy'n gofalu am...