Cynorthwyydd Grantiau
2 months ago
Cyngor Celfyddydau Cymru yn chwilio am rywun i ymuno a'r tîm Prosesu Grantiau fel Cynorthwyydd Grantiau. Mae'r tîm Prosesu Grantiau yn chwarae rhan allweddol wrth helpu i weinyddu a chydlynu'r gwaith o gyflawni gweithgarwch ehangach tîm Ariannu'r Celfyddydau.
Mae Cynorthwywyr Grantiau yn cynnal y wybodaeth sydd yn y systemau rheoli grantiau'r Cyngor Celfyddydau. Mae hyn yn cynnwys:- Cynorthwyo gyda sefydlu systemau i sicrhau bod cynlluniau ariannu ar gael i ymgeiswyr.
- Prosesu grantiau drwy'r system grantiau am oes y grant.
- Sicrhau bod y data sydd ar y system grantiau yn gywir.
- Cynorthwyo a chynghori ymgeiswyr a staff ar brosesau sy'n ymwneud â systemau a chanllawiau ariannu.
- Adolygu cyllidebau ceisiadau.
- Sicrhau bod ceisiadau yn cadw at reolaethau llywodraethu'r Cyngor Celfyddydau.
Mae'r rôl hon ar gyfer rhywun sy'n hoffi'r cymysgedd o ddadansoddiad rhifiadol a gweinyddol ac sy'n gallu cyfathrebu gwybodaeth ariannol a gwybodaeth arall yn glir i eraill.
Iaith GymraegRydym yn gweithio yn Gymraeg a Saesneg. Mae rhuglder yn y Gymraeg (yn ysgrifenedig ac ar lafar) yn ddymunol ond nid yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Cynllun Hyderus o ran AnableddMae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd, sy'n ymroddedig i gyfweld pob ymgeisydd anabl sy'n bodloni'r holl feini prawf hanfodol a nodir yn y fanyleb person.
Sut i ymgeisioCyflwynwch Ffurflen Gais a Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant mewn fformat Word. Os hoffech chi gyflwyno'ch cais mewn fformat arall, cysylltwch â ni yn gyntaf os gwelwch yn dda.