Rheolwr Cofrestredig Preswyl

4 weeks ago


North, United Kingdom Conwy County Borough Council Full time

I'Rhan weithgar yn y Gwasanaeth Preswyl Plant



Mae Conwy County Borough Council yn croesawu ceisiadau ar gyfer swydd Rheolwr Cofrestredig Preswyl yn ein cartref newydd gofal ym Mochdre. Mae'r rôl hwn yn rhoi cyfle i chi weithio i rymuso plant rydym yn eu cefnogi i ddysgu barn, teimladau a chamau newydd yn yr agweddau pwysicaf o'u bywydau.

Rydym yn chwilio am bobl sydd â'r un gwerthoedd â ni ac yn awyddus i recriwtio Rheolwr Uned Breswyl i ymuno â'n tîm.

Mae hwn yn gyfle gwych i ddylanwadu ar ddatblygiad y gwasanaeth newydd a sefydlu ymarfer sy'n ystyriol o drawma ac yn canolbwyntio ar y plentyn ar gyfer plant sydd wedi cael nifer o brofiadau niweidiol yn ystod eu plentyndod.

Bydd disgwyl i chi arwain tîm o weithwyr preswyl therapiwtig i sicrhau eu bod yn gallu helpu pobl ifanc i adfer o'u profiadau a datblygu sgiliau a gwytnwch yn eu bywyd fel oedolion.

Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.

Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.

Mae Conwy wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned.

Mae Conwy wedi ymrwymo i'n diwylliant Cymreig ac yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd.

Rydym yn darparu opsiwn i bobl anabl wneud cais mewn gwahanol fformatau.

Cysylltwch â'r Tîm AD ar i gael cyngor pellach.

This job description is also available in English.