Darlithydd Bioleg a Chemeg

3 weeks ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time

**Swydd Wag Fewnol / Allanol**

**Cyf: 12286**

**Teitl y Swydd**:Darlithydd Bioleg a Chemeg**

**Contract**:0.7 cyfwerth â llawn amser, Cyfnod Penodol hyd at Ragfyr 2024**

**Cyflog: £24,051 - £47,333 pro rata, yn ddibynnol ar brofiad**

**Oriau**: 18.5 awr yr wythnos**

**Lleoliad**:Caerdydd a'r Fro**

Mae swydd wag gyffrous ar gael ar gyfer Darlithydd Bioleg a Chemeg yn yr adran Addysg Gyffredinol yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro. Bydd y swydd hon wedi’i lleoli ar Gampws Canol y Ddinas.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am gynllunio, cyflwyno ac asesu’r pwnc gan sicrhau profiad cadarnhaol, yn seiliedig ar werthoedd i ddysgwyr yn unol â chenhadaeth CAVC o drawsnewid bywydau drwy ddatgloi potensial a datblygu sgiliau. Rydym yn awyddus i benodi addysgwr proffesiynol ymrwymedig a brwdfrydig a all ddarparu rhagoriaeth addysgu, ac sy'n barod i gymryd rhan weithredol ym mywyd CAVC.

Bydd yn ffurfio rhan o’n Meysydd STEM a Dysgu Academaidd i Oedolion, sy’n anelu at roi ehangder a dyfnder cyfoeth o brofiadau STEM.

Byddwch yn ymgymryd â’r holl waith addysgegol, megis addysgu yn yr ystafell ddosbarth a gwaith tiwtorialau ar Gyrsiau Mynediad i Addysg Uwch; Biowyddoniaeth a Gwyddorau Iechyd, yn ogystal â chyrsiau TGAU a Safon Uwch Bioleg a Lefel 3 BTEC Gwyddoniaeth Gymhwysol. Bydd cyfle i gyflwyno rhai elfennau o gymwysterau ategol fel Sgiliau Astudio, Bagloriaeth Cymru neu’r Cymhwyster Prosiect Estynedig.

Byddwch hefyd yn meddu ar gymhwyster hyfforddiant athrawon, neu’n barod i weithio tuag at un, ac yn meddu ar radd berthnasol.

Byddai sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.

Rhaid cyflwyno ceisiadau gan ddefnyddio ffurflen gais Coleg Caerdydd a'r Fro yn unig. Mae’r coleg yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg. Ni chaiff ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn y Saesneg. Os ydym yn eich gwahodd i gyfweliad, rhowch wybod i ni os hoffech i ni gynnal y cyfweliad a’r broses asesu yn y Gymraeg.

**Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau wedi'u cwblhau yw 14/02/2024 am 12:00pm.**

Mae'r holl swyddi gwag yn destun gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ac ni fydd cyflogaeth yn dechrau heb wiriad DBS cyfredol, dilys. Mae hwn yn gontract cytundebol y mae'n rhaid iddo fod ar waith cyn bod eich cyflogaeth yn dechrau. Mae gweithdrefn y Coleg ar gyfer Addasrwydd Cyn-droseddwyr ar gyfer Cyflogaeth ar gael ar gais.

**Mae'r rhain yn gontractau cytundebol y mae'n rhaid iddynt fod ar waith cyn y gall eich cyflogaeth ddechrau.**

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio a chadw pobl anabl, ac rydym yn gyflogwr cadarnhaol sy'n rhan o'r cynllun Hyderus o ran Anabledd.