Cynorthwy-ydd Hyb

2 weeks ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Dyma gyfle cyffrous i unigolyn ymrwymedig sy’n meddu ar sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid gwych i ymuno â’r tîm yn Hyb y Gogledd, wedi'i leoli yn Hyb yr Eglwys Newydd a Hyb Rhiwbeina. Byddwch yn cynorthwyo â’r gwaith o ddarparu gwasanaeth llyfrgell o ansawdd uchel.

**Am Y Swydd**
Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus weithio ar y cyd ag amryw sefydliadau partner i roi gwasanaeth cyfannol i gwsmeriaid.

Byddwch yn helpu i hyrwyddo cynhwysiant digidol a chynhwysiant ariannol drwy helpu cwsmeriaid i wneud y mwyaf o’u hincwm.

Bydd gofyn i chi weithio ar y penwythnos a chyda'r hwyr ar sail rota ac efallai bydd lleoliad y gwaith yn amrywio

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Bydd gennych brofiad o ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol, gan weithio’n dda mewn tîm, a byddwch yn meddu ar agwedd hyblyg. Bydd gennych sgiliau cyfathrebu a TG rhagorol a byddwch yn gallu datrys anghydfod mewn modd cadarnhaol ac adeiladol.

Byddai’r gallu i siarad ieithoedd eraill, yn benodol Cymraeg, Somalieg, Arabeg neu Bwyleg, o fantais.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Dylai’r ymgeisydd llwyddiannus allu cyfathrebu’n effeithiol drwy gyfrwng y Gymraeg hyd at Lefel 3 - Sylfaen

Byddai’r gallu i siarad ieithoedd eraill, yn benodol y Gymraeg, Somalieg, Arabeg neu Bwyleg, o fantais.

Bydd gofyn i chi weithio ar y penwythnos a chyda'r hwyr ar sail rota ac efallai bydd lleoliad y gwaith yn amrywio.

Mae'r swydd hon yn addas i’w rhannu.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: PEO02607



  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Yr Hyb Diogelu Amlasiantaethol (y MASH) yw'r pwynt cyswllt cyntaf i unrhyw un a allai fod yn poeni am les plentyn yng Nghaerdydd. Mae'r MASH yn ymateb i aelodau'r cyhoedd, ac i weithwyr proffesiynol a allai fod angen cyngor neu sydd eisiau adrodd am bryderon. Mae ansawdd ac amseroldeb y wybodaeth a gesglir ac a gofnodir yn helpu i lunio...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae gennym swydd wag ar hyn o bryd ar gyfer Cynorthwy-ydd Gofal a Lles yn ein Hybiau Caerdydd yn Gofalu, i ddarparu gwasanaeth sy'n rhoi cymorth i oedolion sy'n byw gyda Dementia. Cefnogir y bobl gan y gwasanaeth i fanteisio ar ystod eang o gyfleoedd dydd mewn lleoliad gofal. **Am Y Swydd** Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio yn...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae gennym swydd wag ar hyn o bryd ar gyfer Cynorthwy-ydd Gofal a Lles yn ein Hybiau Caerdydd yn Gofalu, i ddarparu gwasanaeth sy'n rhoi cymorth i oedolion sy'n byw gyda Dementia. Cefnogir y bobl gan y gwasanaeth i fanteisio ar ystod eang o gyfleoedd dydd mewn lleoliad gofal. **Am Y Swydd** Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio yn...