Technegydd Therapi Galwedigaethol

2 months ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae Tîm Gwasanaeth Offer ar y Cyd Caerdydd a'r Fro yn bwriadu cyflogi Technegydd Therapi Galwedigaethol sydd wedi'i leoli yn ein warws, Uned B5 Ystad Ddiwydiannol Westpoint, Heol Penarth, Caerdydd CF11 8JQ.

Mae tîm Cyd-Wasanaeth Offer y Cyngor yn rhoi offer i bobl yng Nghaerdydd a’r Fro. Rydym yn archebu, dosbarthu, casglu a chynnal amrywiaeth eang o gymhorthion symud i helpu pobl i fyw mor annibynnol â phosibl yn eu cartrefi eu hunain.
Mae offer yn cael ei archebu gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol, fel Nyrsys Ardal, Therapyddion Galwedigaethol a Ffisiotherapyddion ac yn cynnwys amrywiaeth eang o eitemau, o welyau arbenigol a hoistiau i offer ystafell ymolchi ac offer eistedd a cherdded a ddefnyddir gan blant mewn ysgolion.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio’n rhan o dîm i gynnig gwasanaeth o’r safon orau.

**Am Y Swydd**
Byddwch yn gyfrifol am gasglu, dosbarthu a gosod (yn ôl yr angen) offer a ddyluniwyd i gynorthwyo pobl ag anableddau yn eu cartrefi eu hunain. Bydd yn rhaid gweithio fel tîm o ddau i osod eitemau mwy (e.e. gwelyau a hoistiau). Ar ôl pob cais am ddosbarthu/gosod gan aelod tîm yn dilyn asesiad o anghenion y cleient, caiff archeb ddosbarthu ei phrosesu gan tîm gweinyddu JES a chaiff yr offer ei gasglu, ei ddosbarthu a’i osod gan dîm mewnol y byddai’r swydd hon yn rhan ohono.

Sylwch fod y gwasanaeth hwn yn gweithredu o 8am tan 4pm o ddydd Llun i ddydd Iau ac o 8am tan 3:30pm ar ddydd Gwener.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Mae'r swydd yn un gorfforol a bydd angen i chi allu cyflawni ystod eang o weithgareddau codi a chario (codi, tynnu, gwthio ac ati).

Mae'r holl amserlenni gwaith yn cael eu rheoli gyda defnyddio dyfeisiau llaw felly mae dealltwriaeth o dechnoleg/apiau symudol yn hanfodol. Mae'r swydd yn gofyn ichi weithredu faniau masnachol bach (dan 7.5T) ac felly mae trwydded yrru lân yn hanfodol.

Byddwch yn dosbarthu at ac yn mynd i mewn i gartrefi preswylwyr bregus ac mae gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG) yn ofyniad hanfodol arall i'r swydd.

**Gwybodaeth Ychwanegol**- Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rôl ar ôl darllen y disgrifiad swydd, cysylltwch â Neal Hall - Rheolwr Gwasanaeth 02920 873 670
- Wrth gwblhau eich cais ar-lein, dylech deilwra eich cais i'r rôl yn yr adran Gwybodaeth Ategol, gan nodi sut rydych yn bodloni pob un o'r meini prawf hanfodol a restrir ar y Fanyleb Person. Dylech hefyd nodi sut rydych yn bodloni'r meini prawf dymunol gan y gallem ddefnyddio'r rhain i lunio'r rhestr fer os bydd nifer fawr o ymgeiswyr yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol. Mae adran Gwybodaeth Ategol y ffurflen gais ar-lein wedi'i chyfyngu i 4,000 o nodau - gallwch lanlwytho Gwybodaeth Ategol ychwanegol ond peidiwch â chyflwyno CV gan nad yw’n debygol o gynnig y wybodaeth sydd ei hangen. Darllenwch y canllaw ar sut i wneud cais.- Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn brif flaenoriaethau i’r Cyngor. Ein nod yw cefnogi plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein gwasanaethau a'n hysgolion wedi ymrwymo i amddiffyn a diogelu pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn rhoi camau ar waith i ddiogelu eu lles ac yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy'n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Cefnogir hyn yn ethos cyffredinol y Cyngor a phob ysgol.
- Mae’r swydd hon yn destun Gwiriad Safonol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
- Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.
- Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
- Oherwydd y trefniadau gwaith dros dro presennol, ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio na derbyn ffurflenni cais drwy'r post.
- Nid yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau adran gwybodaeth ategol eich cais, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:

- Gwybodaeth bwysig y mae angen i chi ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllaw Ymgeisio
- Gwneud cais am swyddi gyda ni
- Fframwaith Cymwyseddau Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter Cyflogeion
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Hysbysiad Preifatrwydd

Job Reference: PEO02619



  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Tîm Cyd-Wasanaeth Offer (CWO) Caerdydd a'r Fro yn awyddus i gyflogi Technegydd Therapi Galwedigaethol wedi'i leoli yn ein warws, Unedau 2 a 3 Lambourne Crescent, Parc Busnes Caerdydd, Llanisien, Caerdydd, CF14 5GF. Mae tîm CWO y Cyngor yn darparu offer i bobl yng Nghaerdydd a’r Fro. Rydym yn archebu, yn dosbarthu, yn casglu ac yn...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Tîm Cyd-Wasanaeth Offer (CWO) Caerdydd a'r Fro yn awyddus i gyflogi Technegydd Therapi Galwedigaethol wedi'i leoli yn ein warws, Unedau 2 a 3 Lambourne Crescent, Parc Busnes Caerdydd, Llanisien, Caerdydd, CF14 5GF. Mae tîm CWO y Cyngor yn rhoi offer i bobl yng Nghaerdydd a’r Fro. Rydym yn archebu, yn dosbarthu, yn casglu ac yn...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn elwa o fod yn brifddinas Cymru, gan gynnig cyfle i weithwyr cymdeithasol weithio gyda phoblogaeth hynod amrywiol gydag amrywiaeth o anghenion gofal a chymorth. Fel yr awdurdod lleol mwyaf yng Nghymru rydym yn cefnogi bron i 5000 o unigolion i fyw'n dda, gan gynnig strwythur cymorth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn iddynt i...

  • Gweithiwr Cymdeithasol

    2 months ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae’r rôl hon ar hyn o bryd yn cael taliad atodol ar Sail y Farchnad o £3,000 (cyfwerth ag amser llawn) a adolygir yn flynyddol.** Ydych chi'n Fyfyriwr Gwaith Cymdeithasol yn eich blwyddyn olaf yn y brifysgol? Mae Gwasanaethau Oedolion Cyngor Caerdydd yn cynnig cyfle unigryw i sicrhau swydd fel Gweithiwr Cymdeithasol parhaol yn...

  • Gweithiwr Cymorth

    2 months ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn elwa o fod yn brifddinas Cymru, gan gynnig cyfle i staff weithio gyda phoblogaeth hynod amrywiol gydag amrywiaeth o anghenion gofal a chymorth. Fel yr awdurdod lleol mwyaf yng Nghymru rydym yn cefnogi bron i 5000 o unigolion i fyw'n dda, gan gynnig strwythur cymorth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn iddynt i sicrhau eu bod...