Technegydd Lletygarwch

2 weeks ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time

**Swydd Wag Fewnol ac Allanol**

***

**Teitl y Swydd**:Technegydd Lletygarwch

**Contract**:Parhaol

**Oriau**:Llawn Amser (37 awr yr wythnos)

**Cyflog**:£21,030 y flwyddyn

**Lleol**: Caerdydd a’r Fro (Aml-Safle)

Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer Technegydd Lletygarwch profiadol yn Adran Lletygarwch Coleg Caerdydd a’r Fro yng nghampws nodedig newydd y Coleg yng nghanol y ddinas.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am gynnig cymorth Technegydd i’r Adran Lletygarwch ym maes y cwricwlwm a’r gegin/ty bwyta masnachol.

Ymhlith y cyfrifoldebau bydd:

- Bod yn weithredol ym mhob un o’r sesiynau ymarferol ar yr amserlen o fewn oriau gwaith y contract yn rhoi cymorth i’r staff o ran adnoddau a chyfarpar i alluogi’r sesiynau hyn i redeg yn effeithiol
- Cynnal gweithdrefnau i sicrhau bod y cyfleusterau’n cael eu defnyddio’n ddiogel mewn ffordd effeithlon ac effeithiol
- Cynorthwyo’r staff darlithio a’r ty bwyta / cegin masnachol i baratoi deunyddiau a chyfarpar ar gyfer gweithgareddau’r myfyrwyr
- Sicrhau bod cyflenwadau digonol o ddeunyddiau, cyfarpar, offer ac ati ar gael pryd a ble bydd eu hangen
- Datgysylltu gwaith y myfyrwyr a chadw deunyddiau o waith y cwricwlwm a’r ty bwyta/cegin masnachol i’w defnyddio yn y dyfodol
- Byddai sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.

Rhaid bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu dangos profiad blaenorol o fod wedi gweithio yn y diwydiant fel Technegydd ynghyd â chymwysterau sy’n gymesur â’r swydd ar Lefel 2 neu’n uwch. Byddai’n ddymunol iawn bod â gwybodaeth weithredol o weithdrefnau Iechyd a Diogelwch, Asesu Risg a COSHH yn y diwydiant Lletygarwch.

Mae rhagor o fanylion ynglyn â’r rôl, manyleb y person a chymwyseddau’r swydd ar gael yn y disgrifiad swydd atodedig.

Rhaid gwneud cais drwy ddefnyddio ffurflen gais ar-lein Coleg Caerdydd a’r Fro yn unig. Ni dderbynnir ceisiadau CV.

**12.00 ar Ebrill 3ydd 2023 yw’r dyddiad olaf i dderbyn ffurflenni cais**.**

Mae’r Coleg yn cefnogi nifer o blant ac oedolion bregus ac felly mae’r staff i gyd wedi’u heithrio o Adran 4(2) Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Felly, bydd rhaid i’r rhan fwyaf o’r staff gael Gwiriad ‘Safonol’ neu Wiriad ‘Manwl’ y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd neu Wiriad Rhestr 99 a fydd yn cadarnhau nad oes gwaharddiad arnynt.