Ffitiwr Cerbydau Modur

3 weeks ago


Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

**Amdanom ni**
Mae Cyngor Bro Morgannwg yn chwilio am unigolyn brwdfrydig i ymuno â'r Tîm Fflyd fel Ffitiwr Cerbydau Modur. Bydd y rôl yn ymwneud yn bennaf â gweithio’n rhan o dîm bach sy'n gwneud gwaith wedi'i gynllunio a heb ei drefnu ar Fflyd cerbydau a pheiriannau'r Cyngor.

**Ynglŷn â'r rôl**

Manylion y Cyflog: Gradd 7, PCG 20 - 25, £28, 371 - £32,020 y flwyddyn

Oriau Gwaith/Patrwm Gwaith: 37 awr yr wythnos Patrwm shifft: Llun - Iau: 6.30 am - 2.30pm neu 2pm i 10pm; Dydd Gwener: 6.30am - 2.00pm neu 2pm - 9.30pm

Prif Weithle: Depo’r Alpau, Gwenfô, CF5 6AA

Rheswm dros gynnig swydd dros dro: Dd/B

**Disgrifiad**:
Bydd yr unigolyn yn gwneud neu'n cynorthwyo gwaith atgyweirio ar ystod lawn o geir, offer masnachol trwm, ac offer masnachol ysgafn, fydd yn cynnwys gwneud diagnosis o ddiffygion, archebu rhannau, cwblhau gwaith i safonau VOSA, paratoi cerbydau'n gywir ar gyfer MOT, platio cerbydau tacsis, cwblhau dogfennau statudol a dogfennau cysylltiedig i fodloni Safonau'r Comisiynydd Traffig a thasgau cyffredinol yn gysylltiedig â gweithredu'r garej yn ôl y gofyn.

**Amdanat ti**

Bydd angen y canlynol arnoch:

- Profiad o ofynion hanfodol wrth baratoi cerbydau at Ddosbarth 4, 5 a 7 a phrawf MOT HGV.
- Profiad o arolygu cerbydau i fodloni'r safonau a bennwyd gan DVSA
- Gwybodaeth am Iechyd a Diogelwch
- Gwybodaeth fecanyddol am ystod eang o gerbydau, peiriannau, offer a thŵls
- Gwybodaeth am offer diagnostig
- Medrus yn nisgyblaethau trwsio cerbydau nwyddau ysgafn a thrwm ac offer cynnal a chadw.
- Y gallu i weithio’n effeithiol dan bwysau a bodloni terfynau amser.
- Sgiliau trefnu personol da
- NVQ Lefel 3 neu Astudiaethau Parc 1, 2 a 3 neu Gyfatebol Crefft Cerbydau Modur/Trwm City and Guilds.
- Deiliad tystysgrif profwr MOT VOSA ddilys neu'r gallu i ennill tystysgrif o fewn 2 flynedd ar ôl y cyfnod prawf
- Tystysgrif Iechyd a Diogelwch i safon ofynnol Gweithio'n Ddiogel IOSH neu gyfwerth neu'r gallu i ennill tystysgrif o fewn 2 flynedd ar ôl y cyfnod prawf
- Ymrwymiad i gael unrhyw hyfforddiant yn y dyfodol sy'n ofynnol ar gyfer y rôl
- Rhaid gallu gweithio mewn tîm ac ar eich pen eich hun gydag ymrwymiad i roi gwasanaeth atgyweirio o safon a gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol.
- Sgiliau rhyngbersonol da
- Rhaid meddu ar drwydded yrru Categori B ddilys lawn.
- Gallu gyrru/teithio ar hyd a lled y Fro neu rhwng lleoliadau fel y bo’n briodol
- Gweithio patrymau gwaith amrywiol fel sy'n ofynnol gan anghenion y gwasanaeth

**Gwybodaeth Ychwanegol**

Oes angen gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd: Na

Job Reference: EHS00406



  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Cyngor Bro Morgannwg yn chwilio am unigolyn brwdfrydig i ymuno â'r Tîm Fflyd fel Ffitiwr Cerbydau Modur. Bydd y rôl yn ymwneud yn bennaf â gweithio’n rhan o dîm bach sy'n gwneud gwaith wedi'i gynllunio a heb ei drefnu ar Fflyd cerbydau a pheiriannau'r Cyngor. **Ynglŷn â'r rôl** Manylion y Cyflog: Gradd 7 PCG 20 - 25 £30,296 -...