Gweithiwr Cefnogi Pobl Hyn
4 months ago
Diolch am eich diddordeb yn y swydd uchod.
Mae Grŵp Cynefin wedi bod yn darparu tai o ansawdd, syn ddiogel a fforddiadwy dros chwe sir gogledd Cymru a gogledd Powys i dros 8,000 o bobl ers 2014. Rydym yn gweithion galed i ddarparu tai a gwasanaethau rhagorol, i gyfrannu i ddatblygiad cymunedau cynaliadwy a gwarchod a hybur iaith Gymraeg gyda balchder. Rydyn ni am gynyddu iechyd a lles ein cymunedau ir eithaf, creu cyfleoedd i newid bywydau a siapio lleoedd syn sicrhau dyfodol cynaliadwy.
**Mae Gorwel yn uned fusnes o fewn Grŵp Cynefin syn darparu gwasanaethau o safon i**:
- gefnogi pobl syn dioddef trais yn y cartref
- gefnogi pobl rhag colli ei cartref ac atal digartrefedd
Rydym yn gweithio gydag unigolion a theuluoedd, rhai ohonynt yn denantiaid Grŵp Cynefin, o fewn pedair sir gogledd Cymru: Ynys Môn, Gwynedd, Sir Conwy a Sir Ddinbych.
Mae gennym staff profiadol a phroffesiynol yn gweithio o swyddfeydd ym Mhenygroes, Caernarfon, Llangefni, Pwllheli, Dinbych, Dolgellau a Blaenau Ffestiniog.
**Gwasanaeth Pobl Hŷn Ynys Môn**
Maer prosiect yn darparu cymorth fel y bor angen yn gysylltiedig âr cartref i bobl 55 oed a hŷn yn Ynys Môn. Darperir y gwasanaeth 7 diwrnod yr wythnos, 9am 5pm ac maen darparu cymorth tymor byr, tymor canolig a thymor hir i alluogi pobl hŷn i fyw mor annibynnol ag y bo modd. Fei cynigir i denantiaid cymdeithasol a phreifat yn ogystal â pherchnogion-breswylwyr. Ariennir y prosiect hwn gan Dîm Cefnogi Pobl Cyngor Sir Ynys Môn.
Gall y math o gefnogaeth tai a ddarperir gynnwys:
- Cymorth gyda sgiliau bywyd a sgiliau bywn annibynnol
- Cymorth gyda rheoli dyledion rhent/morgais/biliau cyfleustodau
- Cymorth gydag addasiadau i wella hygyrchedd yn y cartref
- Cyngor a chefnogaeth gyffredinol ynghylch materion yn ymwneud â diogelwch personol a chymunedol
- Cymorth i sefydlu cysylltiadau a gweithgareddau cymdeithasol a chymunedol
- Cynorthwyo gyda rheoli cyllid ac uchafu incwm, llunio a chadw at gyllideb a hawlio budd-daliadau lles y mae ganddynt yr hawl iddynt
- Cydgysylltu â gwasanaethau statudol neu wasanaethau proffesiynol eraill
- Cymorth i fanteisio ar gyfleoedd addysg, hyfforddiant a chyflogaeth
- Cyngor a chefnogaeth i ddilyn ffordd o fyw iach ac egnïol
- Cyfeirio at wasanaethau eraill lle bon briodol.
Ni fydd y prosiect yn:
- Darparu gofal personol megis siopa, ymolchi personol, cymorth gyda gwisgo na darparu prydau bwyd.
- Rhoi meddyginiaeth o unrhyw fath.
- Codi unrhyw un ar ôl syrthio (maen rhaid i ni alwr gwasanaeth ambiwlans).
- Trin arian neu ddogfennau cyfreithiol ar ran defnyddwyr y gwasanaeth, aelodaur teulu neu grŵp cymdeithasol
Os oes gennych yr ysfa ar angerdd i fod yn allweddol wrth wneud gwahaniaeth i ddyfodol pobl, hon ywr swydd i chi.
**Y Pecyn**
**Math o gytundeb**:Parhaol
**Cyflog**:£23,157 - £25,303
**Gwyliau**:36 diwrnod y flwyddyn yn cynnwys gwyliau banc statudol
**Teithio**:Defnyddiwr Car Achlysurol
**Pensiwn**:Mae Grŵp Cynefin yn cynnig darpariaeth pensiwn trwy Gynllun Social Housing Pension Scheme (SHPS)
**Buddiannau**
Mynediad in Cynllun Cymorth Cyflogaeth
Cyfleusterau gweithio hyblyg ar gallu i weithio o bell/ gweithio gartref os yn addas
Cynllun arian parod iechyd Westfield Health
Oriau gwaith: 35 awr yr wythnos
Cynllun fflecsi yn cael ei weithredu
Cyflog salwch**:Mae cynllun tâl salwch galwedigaethol yn cael ei weithredu
**Lwfansau Absenoldebau**:
5 diwrnod pro rata mewn unrhyw gyfnod o 12 mis i ofalu am ddibynyddion
2 ddiwrnod pro rata gyda thâl i briodi, i symud tŷ, i ysgaru
Amser credyd rhesymol ar gyfer apwyntiadau meddygol
Hyd at 10 diwrnod pro rata gyda thâl ar adegau o brofedigaeth. Hyd at 3 mis pro rata gyda thâl i ofalu am berthynas agos â chlefyd terfynol
**Datblygiad Personol**:
Os oes gennych gymwysterau proffesiynol ach bod yn talu ffioedd proffesiynol blynyddol ich corff aelodaeth, byddwn yn talu un or rhain bob blwyddyn ich helpu i aros yn gysylltiedig âr wybodaeth ar addysg ddiweddaraf gan eich corff proffesiynol. Rydyn ni hefyd eisiau in holl gydweithwyr fwynhau buddion dysgu gydol oes, felly os ydych chin gweithio gyda ni byddwn nin buddsoddi ynoch chi fel hyn hefyd
**Y Swydd**
Disgrifiad Swydd Cymraeg Gweithiwr Cefnogi Pobl Hyn Ynys Môn.pdf
Job Description English Older People Support Worker.pdf
**Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)**
Byddwn yn gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau gwiriad Manwl gyda rhestrau gwahardd ar gyfer y swydd hon.
**Mae'r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg ar Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
-
Learner Success Mentor
5 months ago
Llangefni, United Kingdom Grŵp Llandrillo Menai Full time**JOB INTRODUCTION: - ** - **Do you like to see young people succeed?** - **Do you have the skills to get the best out of young people?** - **Are you and “open” person, fun and determined?** - **Do you like to work and help young people achieve their potential?** **..if you answer yes to all the above and want to make a difference to the lives and...
-
Tenancy Support Worker
5 months ago
Llangefni, United Kingdom Digartref Cyf Full time**Tenancy Support Worker** **Llangefni** Salary Point 20-21 **£21,795.74 - £22,590.64** 37 hours per week Are you passionate about supporting young people aged 16 to 24, who have experienced or are at risk of homelessness, to make lasting positive changes in their lives? If yes, we would like to hear from you. Digartref Cyf is looking to recruit an...
-
Cynorthwyydd Meithrinfa Medra
5 months ago
Llangefni, United Kingdom Mudiad Meithrin Full timeYdych chi eisiau gwneud gwahaniaeth i fywydau plant bach Cymru? Dewch i ymuno â theulu Mudiad Meithrin - rydyn ni’n angerddol am roi’r dechrau gorau i blant. Mae Meithrinfa Medra, Llangefni yn darparu gofal ac addysg blynyddoedd cynnar o ansawdd i blant o chwe wythnos oed hyd at oed ysgol mewn awyrgylch deniadol, cyfeillgar a Chymreig. Mae’r...
-
Cynorthwyydd Meithrinfa Medra
5 months ago
Llangefni, United Kingdom Mudiad Meithrin Full timeYdych chi eisiau gwneud gwahaniaeth i fywydau plant bach Cymru? Dewch i ymuno â theulu Mudiad Meithrin - rydyn ni’n angerddol am roi’r dechrau gorau i blant. Mae Meithrinfa Medra, Llangefni yn darparu gofal ac addysg blynyddoedd cynnar o ansawdd i blant o chwe wythnos oed hyd at oed ysgol mewn awyrgylch deniadol, cyfeillgar a Chymreig. Mae’r...
-
Cleaning Supervisor
5 months ago
Llangefni, United Kingdom Churchill Group Full timeHourly Rate: £11.44 **Location**:Penmynydd Rd, Llangefni LL77 7HY **Contract Type: Permanent, part time** **Weekly Hours: 15 hours (7am-10am Monday to Friday)** **Salary: £12.42+** Mae miloedd o sefydliadau ledled y DU yn ymddiried yn ein brandiau i lanhau, sicrhau a gwella gweithleoedd, amgylcheddau addysg, trafnidiaeth gyhoeddus, cyrchfannau...
-
Relief Family Connector
5 months ago
Llangefni, United Kingdom Mencap Full time**Job Advert**: *** Mencap Cymru alongside Ynys Mon Council, Mencap Mon and local families are leading on a new Family Support Project. the project offers a range of support to families on Ynys Mon who have a young child with significant developmental delay / learning disability. We are looking for a Relief Family Connector to join our team on a fixed term...