Swyddog Cymorth Busnes y Cynnig Gofal Plant

6 days ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae Cynnig Gofal Plant Cymru yn darparu 30 awr yr wythnos o addysg gynnar a gofal plant wedi'i ariannu ar gyfer rhieni cymwys, o blant 3 i 4 oed, sydd mewn gwaith neu mewn addysg/hyfforddiant. Mae'r cynnig wedi bod ar waith yng Nghaerdydd ers diwedd 2018, a hyd yma mae dros 6,500 o blant wedi elwa.

Mae'r Tîm Cynnig Gofal Plant yn gyfrifol am gyflwyno'r Cynnig ledled Caerdydd. Mae hyn yn cynnwys hyrwyddo'r Cynnig i rieni a darparwyr er mwyn sicrhau bod teuluoedd cymwys yn manteisio i'r eithaf arno; asesu ceisiadau gan rieni; prosesu hawliadau taliadau gan ddarparwyr gofal plant; darparu adroddiadau cynnydd ac ariannol i Lywodraeth Cymru a rheolaeth fewnol; a sicrhau cydymffurfiaeth â pholisïau a gweithdrefnau mewnol ac allanol.
**Am Y Swydd**
Rydym yn ceisio recriwtio Swyddog Cymorth Busnes Cynnig Gofal Plant a fydd yn cefnogi'r gwaith o gyflwyno'r Cynnig Gofal Plant yn effeithiol yng Nghaerdydd. Yn benodol, bydd deiliad y swydd yn;
- Cynorthwyo gydag asesu ceisiadau gan rieni am y Cynnig
- Cynorthwyo gyda’r gwaith o gyfathrebu penderfyniadau a wneir ar gymhwysedd rheini ar gyfer elfen gofal plant y Cynnig
- Sicrhau bod taliadau i ddarparwyr gofal plant yn cael eu gwneud yn amserol ac yn gywir
- Cynorthwyo gyda’r gwaith o gasglu, coladu ac adrodd data allweddol yn ôl angen Llywodraeth Cymru
- Sicrhau cydymffurfiaeth â’r holl bolisïau, gweithdrefnau, deddfwriaeth a gofynion statudol sy’n ofynnol

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus y swydd yn gallu dangos ei fod yn rhoi sylw manwl i fanylion, darparu gwasanaeth cwsmer o’r safon uchaf i ddarparwyr gofal plant a rhieni, a sicrhau cywirdeb y data sydd ar gronfa ddata’r project. Bydd deiliad y swydd yn hyderus yn defnyddio amrywiaeth o systemau TG a hefyd yn gallu rheoli a chefnogi newid o fewn y gwasanaeth.

Bydd asesu ceisiadau rhieni yn erbyn meini prawf gosod a'r cofnodi amserol a gwirio gwybodaeth a gyflenwyd gan ddarparwyr gofal plant yn ffurfio swyddogaeth graidd y rôl. Nod cyllid Cynnig Gofal Plant yw cefnogi rhieni i gael mynediad i waith/addysg neu hyfforddiant tra bydd y gofal plant sy'n cael ei ddarparu yn gwella datblygiad plant ifanc a pharodrwydd ysgolion.
**Gwybodaeth Ychwanegol** Dylai’r ymgeisydd/ymgeiswyr llwyddiannus allu cyfathrebu’n effeithiol drwy gyfrwng y Gymraeg i Lefel 3 - Canolradd.**

Swydd dros dro yw hon tan **31 Mawrth 2025**.

Bydd yn ofynnol i ddeiliad y swydd weithio ar sail hybrid.

Mae’r swydd hon yn destun Gwiriad Safonol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Dylai ymgeiswyr mewnol sy’n dymuno gwneud cais am y swydd hon ar secondiad gael caniatâd cyn ymgeisio trwy lenwi ffurflen SEC1 (4.C.081). Dim ond y Cyfarwyddwr/Dirprwy Gyfarwyddwr/Prif Swyddog perthnasol neu uwch swyddog arall a enwebwyd, nad ydynt ar raddfa is na RhG2, neu’r Pennaeth/Corff Llywodraethu yn achos staff ysgolion, sy’n gallu cymeradwyo ceisiadau.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: PEO03997



  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi yng Ngwasanaeth Cymorth Cynnar Tai a Chymunedau i recriwtio Swyddog Cymorth Busnes Gofal Plant. Mae'r swydd ran amser, dros dro hon yn cael ei hariannu tan 31. Mai 2025 ar hyn o bryd. Byddwch yn rhan o Dîm Cymorth Busnes Gofal Plant sefydledig sy'n rhoi cyngor, cymorth ac arweiniad...


  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Ynglŷn â'r Gwasanaeth**Mae cyfle cyffrous wedi codi yng Ngwasanaeth Cymorth Cynnar Tai a Chymunedau i recriwtio Swyddog Cymorth Busnes Gofal Plant. Mae'r swydd ran amser, dros dro hon yn cael ei hariannu tan 31. Mai 2025 ar hyn o bryd.Byddwch yn rhan o Dîm Cymorth Busnes Gofal Plant sefydledig sy'n rhoi cyngor, cymorth ac arweiniad i'r...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Crosslands, un o Gartrefi Plant Caerdydd, yn ardal Trelái, Caerdydd. Mae'r cartref yn dŷ ar ben ei hun yn ei erddi ei hun ac mae siopau lleol, canolfannau hamdden ac amwynderau lleol yn gyfleus wrth law. Mae'r cartref hefyd yn agos at ganol y ddinas ac yn hawdd ei gyrraedd o’r holl brif ffyrdd i mewn ac allan o Gaerdydd. Mae...


  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth**Mae Crosslands, un o Gartrefi Plant Caerdydd, yn ardal Trelái, Caerdydd. Mae'r cartref yn dŷ ar ben ei hun yn ei erddi ei hun ac mae siopau lleol, canolfannau hamdden ac amwynderau lleol yn gyfleus wrth law. Mae'r cartref hefyd yn agos at ganol y ddinas ac yn hawdd ei gyrraedd o'r holl brif ffyrdd i mewn ac allan o Gaerdydd.Mae...


  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth**Drwy bartneriaethau ag ysgolion, cyflogwyr, cymunedau a sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach, mae Addewid Caerdydd yn ceisio sicrhau cyfleoedd sy'n creu uchelgais ac yn cyflwyno sgiliau i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed, ac sy'n eu cefnogi i symud ymlaen i Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant.Mae Addewid Caerdydd yn chwilio am Swyddog...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Drwy bartneriaethau ag ysgolion, cyflogwyr, cymunedau a sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach, mae Addewid Caerdydd yn ceisio sicrhau cyfleoedd sy'n creu uchelgais ac yn cyflwyno sgiliau i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed, ac sy’n eu cefnogi i symud ymlaen i Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant. Mae Addewid Caerdydd yn chwilio am...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Dechrau'n Deg yw rhaglen Blynyddoedd Cynnar Llywodraeth Cymru wedi’i dargedu at deuluoedd â phlant dan 4 oed mewn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru. Mae elfennau craidd y rhaglen wedi dod o amrywiaeth o opsiynau sydd wedi’u profi i ysgogi canlyniadau gwell i blant a'u teuluoedd. Mae’r rhain yn cynnwys: - Gofal plant rhan...


  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth**Ariennir y Rhaglen Dechrau'n Deg gan Lywodraeth Cymru ac mae'n helpu teuluoedd â phlant dan 4 oed mewn ardaloedd difreintiedig ledled Cymru. Mae'r rhaglen yn cynnwys pedair elfen allweddol:- Gwasanaeth Ymweliadau Iechyd estynedig- Mynediad at Raglenni Rhianta- Cymorth Lleferydd ac Iaith i helpu plant i siarad a chyfathrebu.Gofal plant...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â'n tîm i ddarparu cymorth busnes o ansawdd uchel i Wasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru. Mae tîm canolog Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru yn darparu cymorth busnes a galluogi i fabwysiadu ledled Cymru. **Am Y Swydd** Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhan o dîm cenedlaethol bach a'i...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Cyf.**PEO02929 **Swydd**:Uwch Swyddog Gofal Plant Preswyl **Gradd**:6 **Cyflog**:£27,852 - £32,020 **Statws**: parhaol a llawn amser **Ynglŷn â'r gwasanaeth** Mae gennym gyfle cyffrous i Uwch Swyddog Gofal Plant Preswyl weithio gyda rhai o'n plant a'n pobl ifanc mwyaf bregus yng Nghaerdydd. Rydym yn chwilio am Uwch Swyddog...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Cyf.**PEO02929 **Swydd**:Uwch Swyddog Gofal Plant Preswyl **Gradd**:6 **Cyflog**:£27,852 - £32,020 **Statws**: parhaol a llawn amser **Ynglŷn â'r gwasanaeth** Mae gennym gyfle cyffrous i Uwch Swyddog Gofal Plant Preswyl weithio gyda rhai o'n plant a'n pobl ifanc mwyaf bregus yng Nghaerdydd. Rydym yn chwilio am Uwch Swyddog...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi yn y Gwasanaeth Tai a Chymunedau ar gyfer Swyddog Cymorth Busnes Parhaol llawn-amser (37 awr yr wythnos) yn yr Uned Cynnal a Chadw Ymatebol. **Mae’r cyflog hwn yn destun yr Ychwanegiad Cyflog Byw sy’n codi’r gyfradd gyflog sylfaenol i £12.00 yr awr. Bydd yr ychwanegiad yn cael ei adolygu bob mis...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r boblogaeth gynyddol yng Nghaerdydd ac ymrwymiad Caerdydd i sicrhau bod plant a'u teuluoedd yn derbyn _dim ond y gorau_ wedi arwain at gyfleoedd o fewn y gwasanaeth maethu, Maethu Cymru Caerdydd. Caerdydd yw un o'r dinasoedd sy'n tyfu gyflymaf yng ngwledydd Prydain ac mae’n ymrwymedig i ddod yn _'Ddinas sy’n Dda i Blant'_ sy'n...


  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth**Mae'r boblogaeth gynyddol yng Nghaerdydd ac ymrwymiad Caerdydd i sicrhau bod plant a'u teuluoedd yn derbyn _dim ond y gorau_ wedi arwain at gyfleoedd o fewn y gwasanaeth maethu, Maethu Cymru Caerdydd.Caerdydd yw un o'r dinasoedd sy'n tyfu gyflymaf yng ngwledydd Prydain ac mae'n ymrwymedig i ddod yn _'Ddinas sy'n Dda i Blant'_ sy'n rhoi...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r gyfarwyddiaeth Oedolion, Tai a Chymunedau yn ymgorffori dwy adran Gwasanaethau Oedolion a Thai a Chymunedau ac mae'n cynnwys llawer o wasanaethau rheng flaen pwysig y cyngor. Mae'r tîm Gwella Gwasanaethau a ffurfiwyd yn ddiweddar yn ymroddedig i ddatblygu arferion gwaith o fewn y gyfarwyddiaeth ac yn rhoi cymorth i'w timau...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymroddedig ymuno â'r Tîm Hyfforddi a Datblygu Gofal Cymdeithasol Gwasanaethau Oedolion sydd wedi'i leoli yn Neuadd y Sir, Caerdydd. Yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, mae'r Tîm Hyfforddi a Datblygu Gofal Cymdeithasol wedi ymrwymo i ddatblygu ac annog ei staff yn...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Addysg Gerdd Caerdydd a'r Fro yn darparu hyfforddiant a gweithgareddau i 190 o ysgolion a lleoliadau sy'n gweithio gyda thua 7000 o blant yr wythnos. Mae ein tîm yn cynnwys athrawon brwdfrydig a medrus, ac yn cael cymorth gan ein tîm cymorth busnes sydd wedi'i leoli yng nghanolfan Celfyddydau Chapter yng Nghaerdydd. Rydym yn...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae hwn yn amser cyffrous i ymuno â Gwasanaeth Datblygu ac Adfywio Cyngor Caerdydd. Rydym yn gweithio'n galed i ddarparu cynlluniau adfywio lleol a phrosiectau adeiladu tai newydd i helpu i fynd i'r afael ag anghenion tai ac i wella ein cymunedau lleol. Rydym yn gweithio'n agos gyda'n cymunedau lleol, Cynghorwyr lleol a rhanddeiliaid...


  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth**Mae Addysg Gerdd Caerdydd a'r Fro yn darparu hyfforddiant a gweithgareddau i 190 o ysgolion a lleoliadau sy'n gweithio gyda thua 7000 o blant yr wythnos. Mae ein tîm yn cynnwys athrawon brwdfrydig a medrus, ac yn cael cymorth gan ein tîm cymorth busnes sydd wedi'i leoli yng nghanolfan Celfyddydau Chapter yng Nghaerdydd.Rydym yn awyddus i...


  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth**Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymroddedig ymuno â'r Tîm Hyfforddi a Datblygu Gofal Cymdeithasol Gwasanaethau Oedolion sydd wedi'i leoli yn Neuadd y Sir, Caerdydd.Yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, mae'r Tîm Hyfforddi a Datblygu Gofal Cymdeithasol wedi ymrwymo i ddatblygu ac annog ei staff yn...