Gweithiwr Cefnogaeth Symudol Cam-drin Domestig

7 months ago


Wales, United Kingdom Grwp Cynefin Full time

Diolch am eich diddordeb yn y swydd uchod.

Mae Grŵp Cynefin wedi bod yn darparu tai o ansawdd, syn ddiogel a fforddiadwy dros chwe sir gogledd Cymru a gogledd Powys i dros 8,000 o bobl ers 2014. Rydym yn gweithion galed i ddarparu tai a gwasanaethau rhagorol, i gyfrannu i ddatblygiad cymunedau cynaliadwy a gwarchod a hybur iaith Gymraeg gyda balchder. Rydyn ni am gynyddu iechyd a lles ein cymunedau ir eithaf, creu cyfleoedd i newid bywydau a siapio lleoedd syn sicrhau dyfodol cynaliadwy.

Mae Gorwel yn uned fusnes o fewn Grŵp Cynefin syn darparu gwasanaethau o safon i:

- gefnogi pobl syn dioddef trais yn y cartref
- gefnogi pobl rhag colli ei cartref ac atal digartrefedd

Rydym yn gweithio gydag unigolion a theuluoedd, rhai ohonynt yn denantiaid Grŵp Cynefin, o fewn pedair sir gogledd Cymru: Ynys Môn, Gwynedd, Sir Conwy a Sir Ddinbych.

Mae gennym staff profiadol a phroffesiynol yn gweithio o swyddfeydd ym Mhenygroes, Caernarfon, Llangefni, Pwllheli, Dinbych, Dolgellau a Blaenau Ffestiniog.

**Gwasanaethau Trais yn y Cartref Gwynedd ac Ynys Môn**

**Llochesi a chefnogaeth mewn argyfwng**

**Cynllun Cefnogaeth Symudol
Maer Cynllun Cefnogaeth Symudol gennym yn cefnogi merched, dynion au teuluoedd yng Ngwynedd ac Ynys Môn. Byddwch yn cefnogi ac ysgogi defnyddwyr gwasanaeth er mwyn llwyddo i fyw bywyd di-drais au helpu i adennill rheolaeth dros eu bywydau er mwyn hybu annibyniaeth.

Os oes gennych yr ysfa ar angerdd i fod yn allweddol wrth wneud gwahaniaeth i ddyfodol pobl, hon ywr swydd i chi.

**Y Pecyn**

**Math o gytundeb**:Parhaol

**Cyflog**:£23,157 - £25,303 y flwyddyn

**Oriau**:35 awr yr wythnos (dydd Llun i ddydd Gwener ac yn rhan or rota ar alwad 7 diwrnod yr wythnos)

**Gwyliau**:36 diwrnod y flwyddyn yn cynnwys gwyliau banc statudol

**Teithio**:Defnyddiwr Car Achlysurol

**Pensiwn**:Mae Grŵp Cynefin yn cynnig darpariaeth pensiwn trwy Gynllun Social Housing Pension Scheme (SHPS)

**Buddiannau**

Mynediad in Cynllun Cymorth Cyflogaeth

Cyfleusterau gweithio hyblyg ar gallu i weithio o bell/ gweithio gartref os yn addas

Cynllun arian parod iechyd Westfield Health

Oriau gwaith: 35 awr yr wythnos

Cynllun fflecsi yn cael ei weithredu

Cyflog salwch**:Mae cynllun tâl salwch galwedigaethol yn cael ei weithredu

**Lwfansau Absenoldebau**:
5 diwrnod pro rata mewn unrhyw gyfnod o 12 mis i ofalu am ddibynyddion

2 ddiwrnod pro rata gyda thâl i briodi, i symud tŷ, i ysgaru

Amser credyd rhesymol ar gyfer apwyntiadau meddygol

Hyd at 10 diwrnod pro rata gyda thâl ar adegau o brofedigaeth. Hyd at 3 mis pro rata gyda thâl i ofalu am berthynas agos â chlefyd terfynol

**Sut i Ymgeisio am y swydd**

Canllawiau sut i ymgeisio:
**Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)**

Byddwn yn gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau gwiriad ((Sylfaenol/Manwl/Manwl gyda rhestrau gwahardd)) ar gyfer y swydd hon.

**Mae'r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg ar Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.