Rheolwr Prosiect Iechyd a Diogelwch

2 weeks ago


Pembroke Dock, United Kingdom Pembrokeshire Coast National Park Authority Full time

Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro - Rheolwr Prosiect Iechyd a Diogelwch.
Cyfnod Penodol - 12 mis ar y mwyaf.

**Rolau a Chyfrifoldebau**:
**Yn atebol i’r Rheolwr AD, byddwch**:

- Yn datblygu proses archwilio i gael archwiliad llinell sylfaen blwyddyn un ac archwiliadau blynyddol i ddilyn i sicrhau y cydymffurfir yn llawn â deddfwriaeth iechyd a diogelwch ar draws yr Awdurdod cyfan. Mae hyn yn cynnwys cynllun gweithredu ar gyfer unrhyw fylchau.
- Yn adolygu’r polisïau iechyd a diogelwch presennol a datblygu polisïau newydd lle bo angen, i sicrhau y cydymffurfir yn llawn â deddfwriaeth iechyd a diogelwch. Mae hyn yn cynnwys rhoi tystiolaeth bod y polisïau wedi’u gwreiddio’n llwyddiannus ar draws APCAP.
- Yn gweithio gyda rheolwyr a staff yr adrannau i ddatblygu gweithdrefnau a systemau yn y gweithle i sicrhau bod y polisïau iechyd a diogelwch yn cael eu gweithredu yn ymarferol ar draws APCAP.
- Yn datblygu system gadarn ar gyfer ymchwilio i ddigwyddiadau a damweiniau, gan sicrhau bod rheolwyr wedi clustnodi unrhyw fethiannau a bylchau yn y system, a bod gwersi’n cael eu dysgu, a bod gwelliannau yn cael eu rhoi ar waith.
- Yn datblygu rhaglen hyfforddi allanol a mewnol lawn, gan gynnwys 'pecyn cymorth i reolwyr' i sicrhau bod rheolwyr swyddogaethol yn deall eu cyfrifoldebau am reoli iechyd a diogelwch eu timau a'u meysydd.
- Yn datblygu rhaglen hyfforddi allanol a mewnol ar gyfer pob gweithgaredd gwaith a lywodraethir gan ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch, gan gynnwys 'blwch offer siarad' i sicrhau bod staff gweithredol yn gweithio'n ddiogel.
- Yn datblygu cynllun o adroddiadau iechyd a diogelwch rheolaidd gan reolwyr llinell i roi sicrwydd bod pob cyfrifoldeb iechyd a diogelwch wedi’u cyflawni’n llawn.
- Yn datblygu a gweithredu ymgyrch flynyddol o ennyn ymwybyddiaeth o faterion iechyd a diogelwch i wreiddio arferion iechyd a diogelwch da.
- Yn datblygu set gadarn o ddangosyddion perfformiad allweddol ar iechyd a diogelwch, i fonitro newid diwylliant lle mae iechyd a diogelwch wedi'i wreiddio’n llawn yng ngwaith APCAP o ddydd i ddydd.
- Yn datblygu mewnrwyd effeithiol, fel bod polisïau iechyd a diogelwch, gweithdrefnau, gwybodaeth, cyngor a hyfforddiant ar gael yn rhwydd.
- Yn prosesu unrhyw gamau gweithredu eraill a glustnodwyd o archwiliad llinell sylfaen iechyd a diogelwch.

**Meysydd ffocws penodol ac arwyddocaol a glustnodwyd eisoes**:

- Syndrom Dirgryniad Llaw a Braich (HAVS)
- Rheoli Asbestos
- Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)
- Gweithio ar eich pen eich hun
- Rheoli swn a llwch
- Codi a Chario
- Ysgolion dringo
- Anhwylderau cyhyrysgerbydol
- Gweithio gartref
- Legionella
- Deddfwriaeth Rheoliadau Darparu a Defnyddio Cyfarpar Gwaith (PUWER).

**Cyflog a Buddion**:
Cyflog o hyd at £32,000 y flwyddyn, yn dibynnu ar brofiad. O leiaf 23 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau cyhoeddus, cynllun pensiwn hael llywodraeth leol, trefniadau ardderchog o weithio oriau hyblyg a chyfleoedd datblygu gyrfa.

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal i bob aelod o staff, ac anogir ceisiadau gan unigolion waeth beth fo’u hoedran, anabledd, rhyw, ailbennu rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred a phriodas a phartneriaethau sifil.

Rydym yn addo gwella amrywiaeth ein gweithlu ac felly'n gwarantu cyfweliad i ymgeiswyr anabl, sy'n bodloni meini prawf hanfodol y swydd ac yn dewis gwneud cais drwy ein Cynllun Cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd.

**Dyddiad Cau**: 10/02/2023
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn neilltuo’r hawl i gau'r swydd wag hon yn gynnar.