Athro/athrawes

3 months ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Nyth y Deryn yw ein hysgol newydd yn Lecwydd. Rydym yn rhan o deulu ysgolion Bryn y Deryn. Yn Nyth y Deryn, rydym yn gweithio gyda 90 o ddysgwyr sydd ag anawsterau ymddygiadol, emosiynol, iechyd meddwl a chymdeithasol. Mae ein hysgol yn darparu cymorth i ddysgwyr o ysgolion uwchradd ledled Dinas Caerdydd. Ein nod yw cefnogi'r dysgwyr hyn i oresgyn rhwystrau i lwyddiant addysgol. Rydym yn ddyfeisgar. Rydym wedi ymrwymo ac nid ydym byth yn cael problemau dim ond atebion nad ydym wedi dod o hyd iddynt eto.

Oes gennych chi rywbeth i’w gynnig i rai o ddysgwyr mwyaf bregus Caerdydd? A oes gennych yr egni a'r uchelgais i ddarparu eich cefnogaeth a'ch arbenigedd?
**Am Y Swydd**
Mae Nyth y Deryn yn darparu addysg a lles i ddysgwyr ag anawsterau ymddygiadol, emosiynol a chymdeithasol heriol yn ogystal ag ar gyfer dysgwyr sy'n osgoi'r ysgol yn emosiynol. Mae dysgu o ansawdd uchel a gofal, cymorth ac arweiniad rhagorol wrth galon ein hysgol. Yn ogystal ag ymrwymiad i ddulliau sy'n seiliedig ar drawma. Y weledigaeth ar gyfer yr ysgol hon yw bod mwyafrif y dysgwyr yn ailintegreiddio yn ôl i ysgolion prif ffrwd ond mae angen i chi gael yr hyblygrwydd a'r ymrwymiad i weithio gydag anghenion unigol. Mae hyn yn golygu bod yn ddyfeisgar ac yn hyblyg yn eich dull. Meddu ar ymrwymiad cryf i weithio gyda theuluoedd, cysylltiadau cartref, asiantaethau allanol ac ysgolion.

Bydd y rolau hyn yn seiliedig ar ein darpariaeth ar gyfer dysgwyr ym mlwyddyn 7, 8 a 9. Mae hon wedi'i lleoli yn hen Ysgol Uwchradd Fitzalan sydd wedi cael gwaith adeiladu estyniad i greu lle newydd cyffrous i ddysgu a thyfu. Bydd disgwyl i athrawon gyflwyno ar draws yr holl feysydd profiad dysgu a byddant yn dilyn Cwricwlwm i Gymru.

Rydym yn awyddus iawn i benodi athrawon uwchradd arbenigol sydd â gwybodaeth a phrofiad mewn Cerddoriaaeth a’r Dyniaethau. Er y bydd ymgeiswyr yn cael eu hystyried yn ôl eu teilyngdod eu hunain.
**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio fel rhan o dîm a bydd ganddo rywfaint o brofiad blaenorol o weithio gyda dysgwyr sydd ag ymddygiad emosiynol a phroblemau iechyd meddwl a chymdeithasol ac yn gallu cydymdeimlo ag anawsterau dysgwyr. Byddant yn gallu darparu cyfleoedd addysgu a dysgu sy'n bodloni anghenion dysgwyr unigol. Mae hwn yn gyfle i bobl ag empathi, egni, ymrwymiad a brwdfrydedd i gael effaith gadarnhaol ar yr ysgol a phobl ifanc.
**Gwybodaeth Ychwanegol** Cyflog: Prif Raddfa Gyflog - Graddfa Gyflog Uwch + **lwfans Anghenion Dysgu Ychwanegol** (£30,742 - £47,340 + lwfans Anghenion Dysgu Ychwanegol)**

Mae'n ofynnol i'r swyddi hyn gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.

Mae'r swyddi hyn yn amodol ar wiriad Manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i'r Cyngor. Ein nod yw cefnogi plant ac oedolion bregus i sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch ac amddiffyniad pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn cymryd camau i ddiogelu eu llesiant, ac yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy’n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Cefnogir hyn yn ethos cyffredinol y Cyngor a phob ysgol.

Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg. Ni fydd ceisiadau a dderbynnir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: EDU00775



  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Academics Full time

    Cyflogaeth:Athrawon Cynradd CymraegMath o swydd:Cyflogaeth Llawn Amser ar GyflenwadDisgrifiad:Ydych chi'n athro neu athrawes cynradd sy'n siarad Cymraeg yn frwd, yn chwilio am rôl hyblyg a gwerthfawr? Rydym yn chwilio am athrawon brwdfrydig a phenderfynol i weithio'n llawn amser ar gyflenwad mewn ysgolion cynradd Cymraeg ledled y rhanbarth.Gofynion:-...