Cydlynydd Microfentrau

1 week ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae cyfle llawn amser ar gael o fewn Oedolion, Tai a Chymunedau.

**Am Y Swydd**
Mae cyfle cyffrous ar gyfer unigolyn ymrwymedig sydd â sgiliau rhyngbersonol gwych. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhoi cyngor ac arweiniad ar sut i sefydlu a rhedeg "Microfenter", sef busnes bach iawn sy'n darparu gofal a chymorth i'r gymuned.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymgysylltu â chleientiaid ac yn eu cefnogi i ddod yn Ficrofentrau, gan feithrin perthnasau cadarnhaol a rhoi cyngor effeithiol i helpu cleientiaid i greu busnes gofal a chymorth cynaliadwy sy'n cael ei redeg yn dda ochr yn ochr ag archwilio pob darpar Ficrofenter i sicrhau ei bod wedi bodloni'r safonau ansawdd gofynnol cyn ei hychwanegu at y cyfeiriadur.

Bydd y swydd hon yn gofyn am weithio gartref ond bydd angen hefyd weithio mewn gwahanol leoliadau ledled y ddinas.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Bydd gennych wybodaeth dda am ddarpariaeth gofal ynghyd â gwybodaeth am faterion cyflogaeth.

Bydd gennych wybodaeth dda am yr ardal leol a sefydliadau lleol ynghyd â phrofiad o weithio mewn partneriaeth.

Byddai’r gallu i siarad ieithoedd eraill, yn benodol Cymraeg/Saesneg, Somalieg, Arabeg neu Bwyleg, o fantais.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Swydd dros dro tan 31/03/2024 yw hon.

Rhaid i ymgeiswyr mewnol sy'n dymuno gwneud cais am y swydd hon ar sail secondiad gael cymeradwyaeth cyn gwneud cais gan ddefnyddio Ffurflen SEC1 (4.C.081). Dim ond y Cyfarwyddwr / Cyfarwyddwr Cynorthwyol / Prif Swyddog neu uwch swyddog enwebedig perthnasol ar radd nad yw’n is nag RhG2, neu yn achos staff mewn ysgolion, y Pennaeth / Corff Llywodraethu, all gymeradwyo ceisiadau.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: PEO02863