Current jobs related to Uwch Gynorthwy-ydd Clercaidd - Cardiff - Cardiff Council


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Yr Hyb Diogelu Amlasiantaethol (y MASH) yw'r pwynt cyswllt cyntaf i unrhyw un a allai fod yn poeni am les plentyn yng Nghaerdydd. Mae'r MASH yn ymateb i aelodau'r cyhoedd, ac i weithwyr proffesiynol a allai fod angen cyngor neu sydd eisiau adrodd am bryderon. Mae ansawdd ac amseroldeb y wybodaeth a gesglir ac a gofnodir yn helpu i lunio...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Nod y Gwasanaethau Plant yw sicrhau bod plant a theuluoedd Caerdydd yn cael y gwasanaeth a'r cymorth gorau. Mae Caerdydd wedi ymrwymo i fod yn 'Ddinas sy’n Dda i Blant’ sy’n rhoi hawliau plant ar flaen y gad o ran datblygu polisi a strategaeth. **Am Y Swydd** Mae cyfle Parhaol cyffrous wedi codi yn nhîm Cyllid Gwasanaethau Plant...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn elwa o fod yn brifddinas Cymru, gan gynnig cyfle i weithwyr cymdeithasol weithio gyda phoblogaeth hynod amrywiol sydd ag amrywiaeth o anghenion gofal a chymorth. Fel yr awdurdod lleol mwyaf yng Nghymru rydym yn cefnogi bron i 5000 o unigolion i fyw’n dda, gan gynnig strwythur cymorth sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn er...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae’r swydd hon yn Is-adran y Dreth Gyngor. Mae’r Is-adran hon yn gyfrifol am gasglu dros £200 miliwn y flwyddyn i helpu’r Cyngor i ariannu ei wasanaethau. Rydym yn ymdrechu’n barhaus i gynnal a gwella ein cyfraddau casglu sy’n helpu i sicrhau’r grym gwario mwyaf posib i’r Cyngor. Mae’r is-adran hon hefyd yn gyfrifol am...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Rydym yn awyddus i recriwtio Cynorthwy-ydd Gwaith Cymdeithasol i'n Gwasanaeth Pobl Hŷn a Namau Corfforol yn y Gwasanaethau Oedolion. Mae hon yn swydd barhaol ac yn rhoi cyfle i weithio mewn lleoliad gwasanaeth gwaith cymdeithasol prysur. Mae’r rôl gyda'n Tîm Ysbytai yn ymateb i gysylltiadau gan ddinasyddion, eu teuluoedd, darparwyr...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Rydym am recriwtio Cynorthwy-ydd Gwaith Cymdeithasol i'n gwasanaeth Pobl Hŷn a Nam Corfforol o fewn Gwasanaethau Oedolion. Mae'r rhain yn swyddi parhaol ac yn rhoi cyfle i weithio mewn lleoliad gwasanaeth gwaith cymdeithasol prysur. Mae eu rôl gyda'n Tîm Dyletswydd yn ymateb i gysylltiadau gan ddinasyddion, eu teuluoedd, darparwyr...

  • Cynorthwy-ydd Adnoddau

    4 months ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle wedi codi i weithio gyda'r Tîm Cymorth Busnes i helpu i roi cymorth busnes i dîm rheoli’r Gwasanaethau 24/7. Mae'r gwasanaethau hyn yn cynnwys Teleofal, Pryd ar Glud a'r Ganolfan Derbyn Larymau. **Am Y Swydd** - Helpu i gyflawni rôl weinyddol amlswyddogaethol ar gyfer y Gwasanaeth yn ôl yr angen. - Cynorthwyo â’r...

  • Cynorthwy-ydd Ardrethi

    4 months ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae swydd wag wedi codi yn y Tîm Ardrethi Busnes. Mae Cyngor Caerdydd yn casglu mwy na £170m yn flynyddol mewn ardrethi busnes gan tua 13,000 o fusnesau yng Nghaerdydd. Mae'r tîm hefyd yn casglu ardoll Ardal Gwella Busnes gan fusnesau sydd wedi'u lleoli yng Nghanol y Ddinas a'r cyffiniau. **Am Y Swydd** Mae hon yn swydd uwch yn y Tîm...

  • Prentis Corfforaethol

    3 months ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Byddwch yn ennill £21,029 y flwyddyn gan weithio'n llawn-amser (37 awr) neu £10.90 yr awr pro-rata, gan ein bod yn Gyflogwr Cyflog Byw Gwirfoddol. Bydd y tâl atodol yn cael ei adolygu bob mis Ebrill. Ceidw Cyngor Caerdydd yr hawl i wneud unrhyw newidiadau i dâl atodol y Cyflog Byw neu ei ddileu.** Mae Cyngor Caerdydd yn...

  • Gweithiwr Cymdeithasol

    4 months ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae’r rôl hon ar hyn o bryd yn cael taliad atodol ar Sail y Farchnad o £3,000 (cyfwerth ag amser llawn) a adolygir yn flynyddol.** Ydych chi'n Fyfyriwr Gwaith Cymdeithasol yn eich blwyddyn olaf yn y brifysgol? Mae Gwasanaethau Oedolion Cyngor Caerdydd yn cynnig cyfle unigryw i sicrhau swydd fel Gweithiwr Cymdeithasol parhaol yn...

Uwch Gynorthwy-ydd Clercaidd

4 months ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae’r Hyb Diogelu Amlasiantaethol yn un o’r drysau ffrynt i Wasanaethau Plant Caerdydd. Yma rydym yn prosesu atgyfeiriadau ac adroddiadau gan yr heddlu sy’n nodi pryderon am blant yng Nghaerdydd. Mae'r Hyb hefyd yn ymdrin â galwadau gan aelodau o'r cyhoedd yn ogystal â gweithwyr proffesiynol, o athrawon i swyddogion prawf sy'n ceisio cyngor.

Yn rhan o’r tîm prysur hwn, mae'r tîm gweinyddol yn hanfodol i'r gwaith o redeg y gwasanaeth o ddydd i ddydd gan sicrhau bod yr atgyfeiriadau ac adroddiadau dan sylw yn cael eu prosesu yn gywir ac amserol.

**Am Y Swydd**
Rydym am recriwtio i 2 swydd barhaol a 2 swydd dros dro

Rydym yn chwilio am Uwch Gynorthwy-ydd Clercaidd i roi cymorth i'r Hyb Diogelu Amlasiantaethol a thimau o weithwyr cymdeithasol rheoli achosion. Mae’r dyletswyddau'n cynnwys ateb y ffôn a phrosesu gwybodaeth amrywiol gan ddefnyddio system gyfrifiadurol o fewn terfynau amser llym.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Rydym yn chwilio am weithiwr llawn cymhelliant a hynod weithgar, sy'n gallu gweithio o’i ben a’i bastwn ei hun ac fel aelod o dîm. Mae’r Hyb yn swyddfa gyflym sy’n delio â llawer iawn o waith; gan hynny mae’r gallu i roi sylw i fanylion yn hollbwysig yn y rôl hon.

Rydym yn chwilio am rywun sydd llawn ymrwymiad a brwdfrydedd tuag at weithio yn y Sector Gwasanaethau Plant. Rhywun meddu ar wybodaeth a dealltwriaeth dda o ddefnyddio gwahanol gronfeydd data ar gyfer rheoli cofnodion cleientiaid a gwybodaeth a dealltwriaeth helaeth o raglenni Microsoft Office.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Mae'r swydd hon yn destun gwiriad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i'r Cyngor. Ein nod yw cefnogi plant ac oedolion sy'n agored i niwed i sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Mae ein gwasanaethau a'n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch ac amddiffyniad pob plentyn ac oedolyn agored i niwed, a byddant yn cymryd camau i ddiogelu eu lles, ac yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy'n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Cefnogir hyn yn ethos cyffredinol y Cyngor a phob ysgol.

Mae tîm Gweinyddol yr Hyb Diogelu Amlasiantaethol yn gweithio yn unol â’r Polisi Gweithio Hybrid ac yn gweithio rhwng eu cartrefi a Neuadd y Sir

Mae'r swydd hon yn addas ar gyfer ôl-rannu.

Croesawn geisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a dderbynnir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: PEO02158