Gor005 Cydgysylltydd Digartrefedd Meirionnydd

2 weeks ago


Conwy, United Kingdom Grwp Cynefin Full time

Diolch am eich diddordeb yn y swydd uchod.

Mae Grŵp Cynefin wedi bod yn darparu tai o ansawdd, syn ddiogel a fforddiadwy dros chwe sir gogledd Cymru a gogledd Powys i dros 8,000 o bobl ers 2014. Rydym yn gweithion galed i ddarparu tai a gwasanaethau rhagorol, i gyfrannu i ddatblygiad cymunedau cynaliadwy a gwarchod a hybur iaith Gymraeg gyda balchder. Rydyn ni am gynyddu iechyd a lles ein cymunedau ir eithaf, creu cyfleoedd i newid bywydau a siapio lleoedd syn sicrhau dyfodol cynaliadwy.

Mae Gorwel yn uned fusnes o fewn Grŵp Cynefin syn darparu gwasanaethau o safon i:

- gefnogi pobl syn dioddef trais yn y cartref
- gefnogi pobl rhag colli ei cartref ac atal digartrefedd

Rydym yn gweithio gydag unigolion a theuluoedd, rhai ohonynt yn denantiaid Grŵp Cynefin, o fewn pedair sir gogledd Cymru: Ynys Môn, Gwynedd, Sir Conwy a Sir Ddinbych.

Mae gennym staff profiadol a phroffesiynol yn gweithio o swyddfeydd ym Mhenygroes, Caernarfon, Llangefni, Pwllheli, Dinbych, Dolgellau a Blaenau Ffestiniog.

**Gwybodaeth Cynllun Cydgysylltydd Digartrefedd Meirionnydd / Dwyfor**

Darpariaeth ar gyfer ardal Meirionydd / Dwyfor ywr cynllun sydd wedi gomisiynu gan Adran Cefnogi Pobl, Cyngor Gwynedd. Nod y gwasanaeth yw darparu gwasanaeth cefnogi o ansawdd uchel mewn perthynas â thai ar gyfer pobl sengl a theuluoedd 16 oed a throsodd, sydd ag anghenion aml gefnogaeth a allai gynnwys cyfuniad o faterion megis digartrefedd, camddefnyddio sylweddau, cefndir o droseddu, iechyd meddwl a phroblemau anabledd dysgu lefel isel.

Bydd y gwasanaeth yn targedu'r bobl hynny sydd ag anghenion cefnogaeth uchel:

- Sydd â gofal seiliedig mewn ysbyty iechyd meddwl ac sydd angen cefnogaeth i symud yn ôl i'r gymuned.
- Sydd â phroblemau iechyd meddwl.
- Sydd â phroblemau anabledd dysgu lefel isel ac sydd ddim yn gymwys i dderbyn gofal statudol.
- Sydd angen cefnogaeth i ail-setlo yn eu cymuned ar ôl cael eu rhyddhau o'r carchar.
- Pobl ifanc a allai fod wedi cael perthynas wael / treisgar / tameidiog â'u teulu a allai fod wedi derbyn gofal gan y Awdurdod Lleol.
- Pobl â hanes o fethu ag ymgysylltu'n effeithiol ag amrediad o bobl gan gynnwys pobl broffesiynol a rhwydweithiau anffurfiol.
- Pobl gydag anawsterau o ran rheoli eu deallusrwydd emosiynol i'r graddau ei fod yn effeithio ar eu cydweithrediad gydag asiantaethau.
- Pobl sy'n datgysylltu'n rheolaidd â'r ddarpariaeth gefnogi.
- Pobl sydd wedi methu â mynychu apwyntiadau yn aml neu bobl nad ydynt gartref i dderbyn cefnogaeth.
- Pobl a allai beri risg iddynt eu hunain ac eraill os nad ydynt yn cael eu cefnogi'n rheolaidd.
- Pobl sydd wedi bod yn cysgu ar y stryd.
- Pobl sydd â phroblemau o ran casglu gormod o bethau (Hoarder)
- Pobl nad oes modd i wasanaethau cyfredol fodloni eu hanghenion

Dylai'r gefnogaeth fod yn ddigon hyblyg i fodloni anghenion yr unigolyn a'i gefnogi i symud tuag at fyw bywyd cyflawn yn ei gymuned ei hun, gan wneud y mwyaf o gyfleoedd bywyd a hyrwyddo annibyniaeth.

Gellir darparu'r gefnogaeth yng nghartref y defnyddiwr gwasanaeth neu mewn llety dros dro a bydd yn canolbwyntio ar sefydlu perthynas weithio dda gyda'r defnyddiwr gwasanaeth. Mae datblygu ymddiriedaeth a theilwra cefnogaeth yn unol ag anghenion y defnyddiwr gwasanaeth, h.y. cynllunio'r gefnogaeth gan ddefnyddio dull sy'n rhoi'r person yn ganolog, yn hanfodol

Bydd cymhlethdod yr anghenion cefnogi yn effeithio ar lefel y gefnogaeth sy'n cael ei chyflwyno. Yn gyffredinol, bydd y gefnogaeth yn cael ei darparu ar lefel ganolig i uchel. Mae disgwyliad mai cyswllt wyneb yn wyneb fydd y ffordd arferol o gynnig cefnogaeth. Fodd bynnag, gellir defnyddio dulliau amgen o gyfathrebu megis negeseuon testun, e-bost, Face Time ac ati, i gyflwyno rhywfaint or gefnogaeth.

Rhaid i steil a dull y gwasanaeth fod yn un sy'n galluogi, hynny yw, datblygu annibyniaeth person h.y. 'gwneud gyda' pherson yn hytrach na 'gwneud dros' berson. Dylai'r gwasanaeth annog a chefnogi'r person i wneud dewisiadau personol a phenderfyniadau ac atgyfnerthu ei gryfderau.

Rhaid i'r gwasanaeth gael cysylltiadau da iawn â:

- Iechyd
- Gwasanaethau Iechyd Meddwl
- Addysg
- Rhaglenni hyfforddiant a gwirfoddoli
- Y Gwasanaeth Prawf
- Rhaglen OPUS

ac mae'n rhaid i ddefnyddwyr gwasanaeth gael eu cefnogi i gael mynediad at y gwasanaethau hyn ble bo hynny'n briodol.

Os oes gennych yr ysfa ar angerdd i fod yn allweddol wrth wneud gwahaniaeth i ddyfodol pobl, hon ywr swydd i chi.

**Y Pecyn**

**Math o gytundeb**:Parhaol

**Cyflog**:£26,592 - £29,059 y flwyddyn pro rata

**Oriau**:28 awr yr wythnos - Dydd Llun i Gwener (dyddiau i'w cytuno)

**Gwyliau**:36 diwrnod y flwyddyn yn cynnwys gwyliau banc statudol pro rata

**Teithio**:Defnyddiwr Car Achlysurol

**Pensiwn**:Mae Grŵp Cynefin yn cynnig darpariaeth pensiwn trwy Gynllun Social Housing Pension Scheme (SHPS)

**Pecyn Buddion.pdf**

**Lwfansau Absenoldebau**:
5 diwrnod pro rata mewn unrhyw gyfnod o 12 mis i ofalu am ddibynyddion

2 ddiwrnod pro rata gyda thâl i briodi, i symud tŷ, i