Cydlynydd Llesiant
2 weeks ago
**Cydlynydd Llesiant - Un Pwynt Mynediad**
**Lleoliad: Russell House, Churton Road, Y Rhyl LL18 3DP.**
**Oriau: 30 yr wythnos**
**Math o gontract: Cyfnod penodol hyd at fis Mawrth 2025**
**Cyflog: £22,781 y flwyddyn, yn seiliedig ar 35 awr yr wythnos**
***
Mae gennym ni gyfle gwych i unigolyn brwdfrydig a rhagweithiol ymuno â’n tîm fel Cydlynydd Llesiant - Un Pwynt Mynediad.
Mae’r gwasanaeth Un Pwynt Mynediad yn bartneriaeth rhwng Gwasanaethau Cymdeithasol Sir Ddinbych, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a’r Trydydd Sector. Mae’r gwasanaeth yn galluogi oedolion ledled Sir Ddinbych i gael gafael ar gyngor, cymorth a gwybodaeth am wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol cymunedol dros y ffôn.
Mae’r Cydlynydd Llesiant yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o hyrwyddo gwerth y Trydydd Sector i ddinasyddion dros 18 oed yn Sir Ddinbych, ac yn eu hannog i’w helpu eu hunain i fyw’n annibynnol drwy ymwybyddiaeth o’r cyfleoedd sydd ar gael iddynt, yn hytrach na gorfod dibynnu ar gymorth gan y sector statudol.
**Bydd diwrnod ym mywyd Cydlynydd Llesiant yn cynnwys**:
- Gweithio’n effeithiol o fewn Tîm Un Pwynt Mynediad Iechyd a Gofal Cymdeithasol amlddisgyblaethol, cynnal cysylltiadau gydag asiantaethau eraill, a hyrwyddo rôl y gwasanaeth Un Pwynt Mynediad i grwpiau’r trydydd sector.
- Sicrhau bod staff yn ymwybodol o’r gwasanaethau a’r adnoddau sydd ar gael iddynt yn y gymuned er mwyn i ddefnyddwyr allu gofalu amdanynt eu hunain lle bo hynny’n briodol.
- Hyrwyddo’r defnydd o Dewis (gwefan Dinasyddion Cymru Gyfan) i bobl sy’n gwneud penderfyniadau amdanynt eu hunain neu’n cefnogi pobl eraill i wneud penderfyniadau.
- Sicrhau bod y wybodaeth am yr adnoddau sydd ar gael ar Dewis yn gyfredol ac yn gywir.
**I fod yn Gydlynydd Llesiant llwyddiannus, bydd angen y canlynol arnoch chi**:
- Y gallu i weithio’n effeithlon ac yn effeithiol fel rhan o dîm neu ar eich liwt eich hun.
- Y gallu i gynllunio a rheoli eich llwyth gwaith eich hun.
- Addysg hyd at lefel TGAU (neu gymhwyster cyfatebol drwy brofiad).
- Sgiliau Technoleg Gwybodaeth.
- Dealltwriaeth o sut i wella ansawdd gwasanaethau er budd y defnyddwyr.
- Parodrwydd i weithio oriau hyblyg.
- Trwydded yrru lawn y Deyrnas Unedig.**
**Y dyddiad cau ar gyfer eich cais yw dydd Mercher 1 Mai 2024**
**Beth fyddwch chi'n ei gael yn gyfnewid am eich ymrwymiad a'ch arbenigedd?**
- **Gwyliau: 36 diwrnod o wyliau blynyddol (gan gynnwys gwyliau banc) + opsiwn i brynu 5 diwrnod ychwanegol.**:
- **Cynllun pensiwn: Hyd at 6% o bensiwn cyfrannol.**:
- **Gweithio hyblyg: Rydym yn gwneud ein gorau i ddarparu ar gyfer eich arddull gwaith dewisol.**:
- **Dysgu a Datblygu: Ystod eang o gyfleoedd gyrfa + dysgu cynhwysfawr.**:
- **Gostyngiadau: Mynediad i Gerdyn Gostyngiad Golau Glas a llwyfan buddion gweithwyr.**:
- **Cymorth Lles: Mynediad at gymorth iechyd meddwl a lles.**:
- **Gweithio mewn Tîm: Hyrwyddo ein cenhadaeth mewn tîm cydweithredol.**:
- **Beicio i'r Gwaith: Prydlesu beic drwy'r cynllun.**:
- **Benthyciad tocyn tymor: Benthyciad di-log ar gyfer costau cymudo.**
**_Yn y Groes Goch Brydeinig, rydyn ni’n ymfalchïo yn ein gweithlu amrywiol, ac rydyn ni'n sicrhau bod gennym amgylchedd cynhwysol ar gyfer ein holl staff a gwirfoddolwyr. Rydyn ni’n parhau wedi ymrwymo i sicrhau bod ein timau’n gallu dod â’u gwir hunain i’r gwaith heb risg neu ofn o gamwahaniaethu. Rydyn ni’n gwneud hyn drwy adrodd data’n rheolaidd, a chefnogaeth ein Rhwydwaith Hil a Chydraddoldeb mewnol (REEN), Rhwydwaith LDHT+, ein Rhwydwaith Anabledd ac Iachusrwydd (DAWN), Rhwydwaith Rhywedd, Rhwydwaith Gofalwyr a Rhwydwaith Ieuenctid._**
**_ _**
**_Cysylltu caredigrwydd pobl ag argyfwng po_