Cynorthwy-ydd Technegol Cynllunio
2 weeks ago
Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Cynorthwy-ydd Technegol Cynllunio
Rhan Amser (15 awr yr wythnos) - Cyfnod Penodol o 6 mis
Mae cyfle cyffrous newydd gan yr Awdurdod ar gyfer Cynorthwy-ydd Technegol Cynllunio, i roi cymorth technegol i'r Gwasanaeth Cynllunio drwy sganio ffeiliau cynllunio hanesyddol, categoreiddio, a ffeilio'r ffeiliau hyn yn electronig o fewn cronfa ddata cynllunio yr Awdurdod.
Fel rhan o’r swydd, byddwch yn sicrhau bod fersiynau digidol y ceisiadau cynllunio hanesyddol yn cael eu ffeilio’n gywir yn electronig, gan fod yn ymwybodol o’r wybodaeth a’r gallu i olygu’r wybodaeth honno yn unol â’r rheoliadau GDPR.
**Rydym yn chwilio am rywun sydd â’r canlynol**:
- Saesneg a Mathemateg hyd at lefel TGAU o leiaf, neu’r cyfwerth.
- Llythrennedd cyfrifiadurol a chymhwysedd mewn Excel a mewnbynnu data a digideiddio haenau mapiau.
- Profiad profedig o weinyddiaeth swyddfa.
- Sgiliau cyfathrebu da yn ysgrifenedig ac ar lafar.
- Mae gwybodaeth sylfaenol o'r system gynllunio yn ddymunol.
Cyfeirier at y disgrifiad swydd (ar gael drwy ei lawrlwytho) am ragor o wybodaeth.
**Cyflog a Buddion**:
Cyflog o £23,500 - £23,893, pro rata, y flwyddyn, (i’w adolygu dan adolygiad cyflogau a graddfeydd), isafswm o 25 diwrnod o wyliau yn codi i 30 diwrnod ynghyd â gwyliau cyhoeddus (pro rata), cynllun pensiwn hael llywodraeth leol, trefniadau da o weithio oriau hyblyg, a chyfleoedd datblygu gyrfa.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal i bob aelod o staff, ac anogir ceisiadau gan unigolion waeth beth fo’u hoedran, anabledd, rhyw, ailbennu rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred a phriodas a phartneriaethau sifil.
Rydym yn addo gwella amrywiaeth ein gweithlu ac felly'n gwarantu cyfweliad i ymgeiswyr anabl, sy'n bodloni meini prawf hanfodol y swydd ac yn dewis gwneud cais drwy ein Cynllun Cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd.
**Dyddiau Cau**: 21 Ebrill 2024