Gweinyddwr Ad

4 months ago


Swansea, United Kingdom Gower College Swansea Full time

**Amdanom ni**:
Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.

**Y r
- l**:
Gweithio ochr yn ochr â’r Swyddog AD i sicrhau bod y broses weinyddu AD yn cael ei rhedeg mewn modd di-dor, er mwyn cynnig gwasanaeth o’r radd flaenaf i staff a rheolwyr. Prosesu dogfennaeth ar gyfer y gyflogres, gan gynnwys ffurflenni cychwyn a gadael, er mwyn sicrhau bod y gronfa ddata AD yn cael ei ddiweddaru. Bydd gofyn i chi hefyd ddiweddaru unrhyw gofnodion neu ffeiliau eraill sy’n ymwneud ag AD.
- Amser-Llawn (37 awr yr wythnos)
- Parhaol
- £27,035 - £29,381 y flwyddyn
- Campws Tycoch

**Cyfrifoldebau Allweddol**:

- Prosesu dogfennau cychwyn a gorffen ar gyfer y gyflogres, gan sicrhau bod gwybodaeth yn gywir a bod gwiriadau cysylltiedig wedi’u cwblhau.
- Gweinyddu ymadawyr, cyfrifo hawliau gwyliau blynyddol, cyfarwyddo’r gyflogres a rhoi gwybod i’r adran AD.
- Coladu a phrosesu taflenni amser a delir fesul awr a hawliadau goramser o fewn y terfynau amser mewn modd manwl a chywir.
- Coladu, prosesu ac adolygu taliadau i ddarlithwyr rhan-amser, gan gadw at derfynau amser. Bydd angen i chi hefyd sicrhau bod archwiliadau priodol yn cael eu cynnal.

**Amdanoch chi**:

- Cymhwyster Lefel 3 neu gyfwerth mewn Gweinyddu Busnes.
- Lefel 2 (Gradd A-C) neu’r cyfwerth mewn Mathemateg a Saesneg
- Profiad o ddefnyddio Excel gan gynnwys fformiwlâu a thablau colynnu
- Profiad o ymdrin â llawer iawn o ddata

**Buddion**:

- 28 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd, a gwyliau banc, hefyd, mae’r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig
- Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chyfraniad cyflogwr o 21% ar gyfartaledd (2023)
- 2 ddiwrnod lles i staff
- Disgownt ar gyfer aelodaeth Campfa Chwaraeon - £60 y flwyddyn
- Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo’u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred. Rydym yn croesawu’n arbennig ceisiadau gan grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn ein sefydliad._

Os hoffech ymgymryd â’r broses ymgeisio trwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i’n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog unigolion i gyflwyno ceisiadau Cymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau Cymraeg a’r angen i ehangu gweithlu dwyieithog.

Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff gydymffurfio â’r ymrwymiad hwn. Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â gwiriad DBS manylach a chofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.
- Rydym yn disgwyl nifer fawr o ymgeiswyr ar gyfer y swydd wag hon. Os derbynnir llawer o geisiadau, efallai y byddwn yn atal unigolion rhag cyflwyno cais cyn y dyddiad penodedig. Awgrymir felly ichi gyflwyno’ch cais yn gynnar. _

Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror 1).