Darlithydd Astudiaethau Proffesiynol
5 days ago
**Teitl y Swydd**: Darlithydd Astudiaethau Proffesiynol (Awyofod a Gwyddoniaeth Awyrennau)
**Contract**: Llawn Amser, Parhaol
**Lleoliad**: ICAT
**Cyflog**: £21,137 - £41,599 y flwyddyn
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn awyddus i benodi Darlithydd mewn Astudiaethau Proffesiynol o fewn yr Adran Awyrofod a Gwyddoniaeth Awyrennau. Bydd y rôl yn cyflwyno cymwysterau Sgiliau Allweddol Cymru i ddysgwyr Addysg Bellach ac Addysg Uwch, yn ogystal â Sgiliau Astudio Addysg Uwch a Datblygiad Proffesiynol. Bydd angen gradd berthnasol ar yr ymgeisydd llwyddiannus a chymhwyster TAR (neu barodrwydd i gyflawni un). Mae gafael dda ar yr iaith Saesneg yn ddymunol gyda thechnegau datblygiad proffesiynol.
Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â'r holl waith addysgegol megis paratoi gwersi, addysgu yn yr ystafell ddosbarth, gwaith tiwtorial a marcio. Mae cyfrifoldebau eraill y swydd yn cynnwys:
- Cynnal asesiadau i fyfyrwyr er mwyn lleoli myfyrwyr, monitro cynnydd ac adnabod anghenion cymorth dysgu
- Darparu cymorth priodol i fyfyrwyr er mwyn diwallu anghenion academaidd a llesiant dysgwyr a sicrhau bod yr holl wybodaeth berthnasol wedi'i chofnodi ar y systemau Coleg priodol
- Cymryd rhan mewn gweithgareddau gwerthuso cwrs a chyfrannu at y gwaith o ddatblygu'r cwricwlwm
Ceir rhagor o wybodaeth ynghylch y swydd, y fanyleb person a chymwyseddau'r swydd yn y swydd ddisgrifiad amgaeëdig.
Rhaid cyflwyno ceisiadau gan ddefnyddio ffurflen gais Coleg Caerdydd a'r Fro yn unig. Mae’r coleg yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg. Ni chaiff ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn y Saesneg. Os ydym yn eich gwahodd i gyfweliad, rhowch wybod i ni os hoffech i ni gynnal y cyfweliad a’r broses asesu yn y Gymraeg.
**Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau wedi'u cwblhau yw 10/02/22 am 12:00**
Mae'r holl swyddi gwag yn destun gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ac ni fydd cyflogaeth yn dechrau heb wiriad DBS cyfredol, dilys. Mae hwn yn gontract cytundebol y mae'n rhaid iddo fod ar waith cyn bod eich cyflogaeth yn dechrau. Mae gweithdrefn y Coleg ar gyfer Addasrwydd Cyn-droseddwyr ar gyfer Cyflogaeth ar gael ar gais.
Bydd eich cyflogaeth gyda Choleg Caerdydd a'r Fro hefyd yn ddibynnol ar wiriadau geirdaon addas. Cyn i chi allu dechrau eich cyflogaeth, rhaid i Goleg Caerdydd a'r Fro gael dau eirda, un gan eich cyflogwr presennol neu gyflogwr mwyaf diweddar. Byddwn yn cysylltu â’ch canolwyr wrth benodi.
Mae cofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer Cymru (CGA Cymru) yn ofyniad gorfodol ar gyfer y swydd
**Mae'r rhain yn gontractau cytundebol y mae'n rhaid iddynt fod ar waith cyn y gall eich cyflogaeth ddechrau.**
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio a chadw pobl anabl, ac rydym yn gyflogwr sy'n rhan o'r cynllun Hyderus o ran Anabledd.