Cynorthwy-ydd Cymorth Busnes

3 months ago


Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

**Amdanom ni**
Mae Tîm Cymorth Busnes Tai Cyngor Bro Morgannwg wedi'i leoli yn y Gwasanaethau Tai ac
Adeiladau, o dan y Gyfarwyddiaeth yr Amgylchedd a Thai.

Mae'r tîm, sy'n cefnogi'r Tîm Datblygu a Buddsoddi, yn rheoli ac yn darparu gwasanaeth
addasiadau tai'r cyngor, ynghyd â chynnal y system rheoli asedau a ddefnyddir i fuddsoddi yn
asedau tai’r cyngor, i sicrhau bod ein preswylwyr, contractwyr, gweithwyr neu ymwelwyr yn byw
ac yn gweithio mewn cartrefi, mannau cymunedol ac amgylcheddau diogel.

Mae'r tîm yn gyfrifol am sicrhau bod yr holl ddogfennau cydran asedau tai yn cydymffurfio ac yn
cael eu cadw gan ddangos cydymffurfiaeth y cyngor â'r gofynion deddfwriaethol diweddaraf, a
sicrhau eu bod yn cael eu gwasanaethu a'u harolygu, eu cynnal a'u disodli yn ôl yr angen i gynnal
ein cydymffurfiaeth â'r ddeddfwriaeth ddiweddaraf a Safonau Ansawdd Tai Cymru Llywodraeth
Cymru.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhoi cymorth â systemau Rheoli Addasiadau a Rheoli
Asedau gan ymuno â thîm sy'n tyfu a hyrwyddo diwylliant o ddysgu a datblygu parhaus, sy'n
cwmpasu gwerthoedd craidd y Cyngor i fod yn:
Uchelgeisiol - Meddwl gyda golwg ar y dyfodol, gan groesawu ffyrdd newydd o weithio a
buddsoddi yn ein dyfodol.
Agored - Agored i syniadau gwahanol a bod yn atebol am y penderfyniadau yr ydyn ni’n eu
gwneud.
Gyda’n gilydd - Gweithio gyda’n gilydd fel tîm sy’n ymgysylltu â'n cwsmeriaid a phartneriaid,
sy’n parchu amrywiaeth ac sydd wedi ymrwymo i wasanaethau o safon.
Balch - Balch o Fro Morgannwg: balch i wasanaethu ein cymunedau ac i fod yn rhan o Gyngor
Bro Morgannwg.

**Ynglŷn â'r rôl**
Manylion Tâl:
Gradd 5 - Pwynt 8 i 12, gan ddechrau ar £22,777 (£11.81 yr awr) hyd at £24,496 (£12.70 yr awr)

Oriau Gwaith / Patrwm Gweithio:
Dydd Llun i ddydd Gwener - 37 awr yr wythnos.

Prif Weithle:
Mae'r rôl yn cynnwys gweithio hybrid yn Nepo’r Alpau, Gwenfô, gan weithio o gartref ac unrhyw
leoliad arall o amgylch y Fro yn ôl yr angen.

Disgrifiad:
Darparu gwasanaeth gweinyddol addasu anabl effeithlon ac effeithiol o ansawdd a chymorth
gweinyddol gyffredinol i'r Tîm Datblygu a Buddsoddi. Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am roi
cymorth gweinyddol a defnyddio’r Gronfa Ddata Rheoli Asedau Tai (Keystone) i sicrhau
perfformiad, uniondeb a diogelwch y system, ac hefyd i ddadansoddi data fel y gallai fod yn
ofynnol wrth ddatblygu cynlluniau buddsoddi a gwerthusiadau o ddewisiadau mewn perthynas â
stoc dai’r Cyngor.

**Amdanat ti**

Bydd angen y canlynol arnoch:

- Profiad o weithio gyda a delio gyda a chefnogi cleientiaid (yn yr adran tai cymdeithasol) yn

cymryd rôl ragweithiol o ran delio â materion wrth iddynt godi (hyd nes iddynt gael eu

cwblhau).
- Yn gallu sefydlu a chynnal systemau monitro gweinyddol.
- Dealltwriaeth o sut mae adeiladau’n cael eu hadeiladu a lefel sylfaenol o nodi diffygion.
- Dealltwriaeth o ofynion preswylwyr ag anghenion meddygol a’r cymhorthion meddygol a’r

addasiadau sydd ar gael iddyn nhw.
- Ymwybyddiaeth o’r polisi tai cyfredol a’r gallu i esbonio’n glir i denantiaid newydd eu

cyfrifoldebau o ran cadw at eu Cytundeb Tenantiaeth.
- Sgiliau llafar ac ysgrifenedig da i gyfathrebu â phobl ar bob lefel.
- Yn greadigol ac arloesol ac yn gallu dod o hyd i ddatrysiadau hyblyg i broblemau.
- Y gallu i flaenoriaethu gwaith achos a rheoli cyfyngiadau cyllideb.
- Sgiliau ysgrifenedig da a’r gallu i ysgrifennu a chwblhau adroddiadau / ffurflenni cryno.
- Sgiliau trefnu rhagorol a’r gallu i gynllunio a blaenoriaethu eich llwyth gwaith eich hun.
- Safon dda o addysg i safon NVQ 3 / lefel “A” yn ddymunol.
- Yn gallu defnyddio TG yn gysylltiedig â rhaglenni Microsoft Office.
- Gallu gyrru / teithio ar hyd a lled y Fro neu rhwng lleoliadau fel y bo'n briodol.
- Chwaraewr tîm sy’n gallu blaenoriaethu llwyth gwaith yn unol â gofynion y

gwasanaeth.
- Yn bwyllog a chall mewn sefyllfaoedd anodd

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Angen gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG): Nac oes

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â:
Gweler y disgrifiad swydd / manyleb person atodedig i gael rhagor o wybodaeth.

Job Reference: EHS00513


  • Cymorth Busnes Gcichc

    4 months ago


    Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae'r Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid yn gweithio gyda phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd sydd mewn perygl o, neu sy'n ymwneud ag ymddygiad troseddol drwy gynnig gwasanaethau atal, dargyfeirio a Gorchymyn Llys statudol. Yn rhan annatod o'r tîm, mae’r rolau Cynorthwy-ydd Perfformiad a Chymorth Busnes yn cefnogi aelodau'r tîm i ddarparu...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Cydweithfa Mabwysiadu’r Fro, y Cymoedd a Chaerdydd (VVC) yn un o bum Cydweithrediad rhanbarthol sy’n rhan o’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yng Nghymru. Mae'n cyflawni ystod o swyddogaethau'r Asiantaeth Fabwysiadu ar ran CBS Merthyr Tudful, CBC RCT, Cyngor Caerdydd a Chyngor Bro Morgannwg. Mae'r cwmni cydweithredol yn gyfrifol...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Am y Rôl** Cyfeirnod y swydd (i'w ddefnyddio ar y ffurflen gais): VPS-LSA3 Manylion am gyflog: Grade 5, SCP 8-12 ,£20,493 -£22,183 pro rata Diwrnodau / Oriau Gwaith: 32.5 awr Parhaol/Dros Dro: Dros Dro **Disgrifiad**: Rydym eisiau cyflogi cynorthwy-ydd cymorth dysgu rhagorol i ymuno â'n tîm effeithiol ac ymroddgar iawn. Bydd yr ymgeisydd...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Tîm gweinyddol yn cynnig cefnogaeth a chymorth i dimau sy’n cynnig gwasanaeth i blant a theuluoedd Bro Morgannwg. **Ynglŷn â'r rôl** Manylion am gyflog: Gradd 3 SCP 4 £23,151 y flwyddyn Oriau Gwaith / Patrwm Gweithio: 37 awr yr wythnos. Dydd Llun - Dydd Gwener Prif Weithle: Swyddfa’r Dociau/Ystwyth **Disgrifiad**: - Cynnig...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Tîm gweinyddol yn cynnig cefnogaeth a chymorth i dimau sy’n cynnig gwasanaeth i blant a theuluoedd Bro Morgannwg. **Ynglŷn â'r rôl** Manylion am gyflog: Gradd 3 SCP 4 £21,189 y flwyddyn Oriau Gwaith / Patrwm Gweithio: 37 awr yr wythnos. Dydd Llun - Dydd Gwener Prif Weithle: Swyddfa’r Dociau/Ystwyth **Disgrifiad**: - Rydym yn...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Rydym yn awyddus i recriwtio goruchwyliwr o fewn y Tîm Cymorth Busnes yn yr adran Gynllunio sy'n eistedd o fewn y gyfarwyddiaeth Lleoedd. Mae'r Tîm Cymorth Busnes yn cynnig ystod lawn o gymorth gweinyddol i'r adran, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i weinyddu ceisiadau cynllunio. **Ynglŷn â'r rôl** Manylion Tâl: Gradd 5, PCG 8 - 12...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Ysgol y Stryd Fawr yn ysgol gynradd un dosbarth mynediad yng nghanol ardal breswyl adeiledig yn y Barri. Mae 240 o ddisgyblion ar y gofrestr, yn amrywio o'r Feithrinfa hyd at Flwyddyn 6. Mae lles dysgwyr yn ganolog i'n harfer o ddydd i ddydd, gan roi'r cyfleoedd a'r profiadau iddynt gyflawni eu potensial wrth ddatblygu cariad at...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Rondel House yn darparu Gwasanaeth Dydd i bobl hŷn sy'n byw yn ardaloedd Canol a Dwyrain Bro Morgannwg, a allai ddioddef o eiddilwch sy'n gysylltiedig ag oedran, salwch cronig, anabledd a/neu ddementia. Ar hyn o bryd rydym yn cynnal gwasanaeth 5 diwrnod, o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac yn darparu amgylchedd diogel lle gall pobl...

  • Cynorthwy-ydd Domestig

    4 months ago


    Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Tîm gweinyddol yn cynnig cefnogaeth a chymorth i dimau sy’n cynnig gwasanaeth i blant a theuluoedd Bro Morgannwg. **Ynglŷn â'r rôl** Cynnig cymorth busnes i amryw dimau gyda’r gwasanaeth gan gynnwys cymryd cofnodion yn unol â deddfwriaeth berthnasol, rheoliadau a safonau cenedlaethol. Gweithio a chynnig gwasanaethau o safon i’r...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae dwy rôl ar gael mewn amgylchedd Adnoddau Dynol prysur, un yn eistedd yn Cylch Bywyd yn cefnogi'r Swyddog Prosiectau - Tâl, Recriwtio a Chadw a'r llall yn Datblygu Busnes yn cefnogi'r Rheolwr Systemau a Data AD, a bydd ganddynt gefnogaeth gan ddau reolwr sydd wedi cefnogi prentisiaid yn flaenorol i rolau parhaol. **Ynglŷn â'r...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Rydym am benodi Cynorthwy-ydd Cefnogi Dysgu brwdfrydig a gweithgar i weithio gyda disgyblion gallu is mewn dosbarthiadau prif ffrwd a/neu ein Canolfan ASD arbenigol. Rydym yn parhau, fel ysgol, i wneud newidiadau arloesol i barhau â’n hymgyrch i wella ysgolion a gwneud y mwyaf o’r cyfleoedd i’r plant a’r bobl ifanc yn ein hysgol....

  • Swyddog Cymorth Busnes

    3 months ago


    Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Rydym yn awyddus i recriwtio Swyddog Cymorth Busnes yn ein hadran Rheoli Datblygu (Cynllunio) sydd o fewn y gyfarwyddiaeth Lleoedd. Mae'r Tîm Cymorth Busnes yn cynnig ystod lawn o gymorth gweinyddol i'r adran, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i weinyddu ceisiadau cynllunio. **Ynglŷn â'r rôl** Manylion Tâl: Gradd 4, PCG 5 - 7,...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Am y Rôl** Cyfeirnod y swydd (i'w ddefnyddio ar y ffurflen gais): CPS-LSA4 Manylion am gyflog: Level 4, Gradd 6, PCG 14 - 19 £27,334 - £29,777 p.a. pro rata Diwrnodau / Oriau Gwaith: 5 dyddiau/ 32.5 awr Parhaol/Dros Dro: Parhaol **Disgrifiad**: Rydym yn chwilio am Cynorthwy-ydd Cymorth Lefel Uwch profiadol i gefnogi addysgu a dysgu arloesol ein...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae'r Tîm Gweinyddu Ardal yn darparu gwasanaeth rheng flaen a chymorth gweinyddol i Dimau Gwasanaethau Oedolion yng Nghanolfan Tŷ Jenner, Canolfan Gyswllt Un Fro ac Uned Llanfair. Fel prif gysylltiadau ar gyfer y Timau Oedolion maent yn prosesu atgyfeiriadau i'r gwasanaeth ac yn gweinyddu rhestrau aros er mwyn caniatáu trosglwyddo gwaith a...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae cyfle cyffrous wedi codi i weinyddwr proffesiynol sydd â sgiliau cymorth busnes cryf i gefnogi gwaith y Tîm Sicrwydd Ansawdd. Mae'r Tîm Sicrwydd Ansawdd a Chanlyniadau Gwasanaeth yn dîm bach sy'n angerddol am wella ansawdd y gwasanaeth y mae ein dinasyddion ym Mro Morgannwg yn ei dderbyn. Wedi'i leoli yn y tîm Sicrwydd Ansawdd,...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Ysgol Gynradd Palmerston yn ysgol brif ffrwd gyda chanolfan adnoddau gwbl gynhwysol ar gyfer disgyblion ag anghenion corfforol a chymhleth ychwanegol. Rydym yn falch o’n hethos cynhwysol ac yn dathlu llwyddiannau amrywiol ein holl blant. Mae ein gweledigaeth, Mynediad - Agwedd - Cyflawniad yn adlewyrchu ein hethos a'n hymrwymiad i...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae’r Tîm Rhanbarthol yn gweithio’n agos gyda phartneriaid yn yr awdurdod lleol, ac mewn sefydliadau gwirfoddol a chymunedol ar draws Caerdydd a Bro Morgannwg. Rydym yn cynnal rhaglen ranbarthol o newid, er mwyn cyflawni gofynion y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) a darnau allweddol eraill o ddeddfwriaeth. Mae’r Tîm...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Byddwch yn ymuno â thîm Partneriaeth Busnes AD prysur a chefnogol i helpu i ddarparu cymorth gweinyddol AD i ymateb i bob agwedd ar wasanaethau'r cyngor. Bydd angen i chi gael dull hyblyg a chadarnhaol er mwyn helpu i ddiwallu anghenion y tîm a helpu i gyfrannu tuag at ddarparu gwasanaeth AD o ansawdd uchel ar draws y cyngor. **Ynglŷn...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae'r rôl yn rhan o Wasanaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) Bro Morgannwg o fewn Cyfarwyddiaeth Lles ac ADY Bro Morgannwg. Mae'r swydd yn cynnwys gweithio’n rhan o dîm Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu mewn canolfan adnoddau, sy'n rhan o ysgol ym Mro Morgannwg. Mae’n cynnwys gweithio gyda disgyblion 0-25 oed yn y ganolfan adnoddau ac...

  • Cynorthwyydd Dysgu L3

    3 months ago


    Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Ein nod yn Nhregatwg yw darparu cwricwlwm deniadol ac arloesol ar gyfer yr 21ain Ganrif sy’n cael ei arwain gan ddiddordebau plant ac sy’n rhoi’r sgiliau a’r profiadau iddynt ddod yn ddysgwyr gydol oes hyderus. Rydym wedi ymrwymo’n llwyr i uchelgais y Cwricwlwm Newydd i Gymru, i’n plant fod yn: - Dysgwyr uchelgeisiol, galluog -...