Goruchwylydd Warws

3 days ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae Tîm Cyd-Wasanaeth Offer Caerdydd a'r Fro (CWO) yn awyddus i gyflogi Goruchwylydd Warws wedi'i leoli yn ein warws, Unedau 2 a 3 Lambourne Crescent, Parc Busnes Caerdydd, Llanisien, Caerdydd, CF14 5GF.

Mae tîm Cyd-Wasanaeth Offer y Cyngor yn rhoi offer i bobl yng Nghaerdydd a’r Fro. Rydym yn archebu, yn dosbarthu, yn casglu ac yn cynnal amrywiaeth eang o gyfarpar arbenigol i helpu pobl i fyw mor annibynnol â phosibl yn eu cartrefi eu hunain. Mae’r cyfarpar yn cael ei archebu gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol, fel Nyrsys Ardal, Therapyddion Galwedigaethol a Ffisiotherapyddion ac yn cynnwys amrywiaeth eang o eitemau, o welyau arbenigol a theclynnau codi i offer ystafell ymolchi ac offer eistedd a cherdded a ddefnyddir gan blant mewn ysgolion.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio’n rhan o dîm i gynnig gwasanaeth o’r safon orau.

**Am Y Swydd**
Byddwch yn gyfrifol am oruchwylio tri aelod o staff warws yn uniongyrchol (mae un ohonynt wedi'i leoli mewn lleoliad safle gwahanol i'r warws y bydd y swydd hon wedi'i lleoli ynddo). Byddwch yn gyfrifol am sicrhau bod swyddogaethau’r warws o ddydd i ddydd yn cael eu cyflawni'n effeithiol ac yn ddiogel - bydd hyn yn cynnwys derbyn, casglu llwythi i'w danfon gan y timau gyrrwr/gosodwr, cysylltu â galwyr i'r warws (bydd hyn yn cynnwys aelodau'r cyhoedd, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, cyflenwyr ac ati). Byddwch hefyd yn dirprwyo ar ran rheolwr y warws yn ei absenoldeb.

Mae'r Warws yn derbyn nwyddau gan gyflenwyr, yn derbyn cyfarpar a ddychwelir yn uniongyrchol gan breswylwyr, gweithwyr clinigol proffesiynol ac ati. Mae angen trefnu hyd at 7 casgliad y dydd i'r timau gyrru eu dosbarthu. Mae'r cyfarpar a ddychwelir i'r gwasanaeth yn cael ei gasglu a'i lanhau gan gontractwr trydydd parti ac mae angen i'r warws reoli'r swyddogaeth hon a gwirio'r nwyddau pan ddychwelir o'r cwmni glanhau i sicrhau bod pob rhan yn bresennol a bod yr offer yn gweithio'n gywir. Bydd angen i’r warws drefnu cynnal a chadw i'r eitemau sy'n cael eu dychwelyd i'r gwasanaeth (gwasanaethu, profi pwysau ac ati).

Sylwch fod y gwasanaeth hwn yn gweithredu o 8am tan 4pm o ddydd Llun i ddydd Iau ac o 8am tan 3:30pm ar ddydd Gwener.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Rydym yn chwilio am oruchwyliwr profiadol sy'n gallu arwain tîm o staff mewn amgylchedd warws prysur a heriol. Dylech fod â phrofiad o oruchwylio'n uniongyrchol ar staff mewn amgylchedd tebyg a gallu dangos sut y gellir defnyddio'ch profiad blaenorol yn y rôl gyffrous a gwerth chweil hon.

Mae'r swydd yn un gorfforol, ac wedi’i lleoli 100% o’r amser yn y warws a bydd angen i chi allu cyflawni ystod eang o weithgareddau codi a chario (codi, tynnu, gwthio ac ati).

Mae'r holl waith sy’n ymwneud â stoc yn cael eu rheoli gan ddefnyddio dyfeisiau llaw felly mae dealltwriaeth o dechnoleg/apiau symudol yn hanfodol. Bydd y swydd yn ei gwneud yn ofynnol i chi ddefnyddio lori codi fforch ac er y byddai trwydded gyfredol yn fanteisiol, gellid sicrhau bod hyfforddiant a chymorth i alluogi'r ymgeisydd cywir i gael trwydded lawn.

Mae trwydded yrru lawn a glân yn hanfodol oherwydd efallai y gofynnir i chi weithredu cerbyd Cyngor (fan llai na 3.5 tunnell) pe bai'r sefyllfa'n codi (e.e. i ollwng cerbyd yn ein gwasanaethau trafnidiaeth canolog i'w archwilio/trwsio).

**Gwybodaeth Ychwanegol**

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rôl ar ôl darllen y disgrifiad swydd, cysylltwch â Neal Hall - Rheolwr Gwasanaeth 02920 873 670

Wrth gwblhau eich cais ar-lein, dylech deilwra eich cais i'r rôl yn yr adran Gwybodaeth Ategol, gan nodi sut rydych yn bodloni pob un o'r meini prawf hanfodol a restrir ar y Fanyleb Person. Dylech hefyd nodi sut rydych yn bodloni'r meini prawf dymunol gan y gallem ddefnyddio'r rhain i lunio'r rhestr fer os bydd nifer fawr o ymgeiswyr yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol. Mae adran Gwybodaeth Ategol y ffurflen gais ar-lein wedi'i chyfyngu i 4,000 o nodau - gallwch lanlwytho Gwybodaeth Ategol ychwanegol ond peidiwch â chyflwyno CV gan nad yw’n debygol o gynnig y wybodaeth sydd ei hangen. Darllenwch y canllaw ar sut i wneud cais.

Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i’r Cyngor. Ein nod yw cefnogi plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles, ac yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy’n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Cefnogir hyn yn ethos cyffredinol y Cyngor a phob ysgol.

Mae’r swydd hon yn destun Gwiriad Safonol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Oherwydd y trefniadau gwaith dros dro presennol, ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio na derbyn ffurflenni cais drwy'r


  • Goruchwylydd Warws

    1 week ago


    Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth**Mae Tîm Cyd-Wasanaeth Offer Caerdydd a'r Fro (CWO) yn awyddus i gyflogi Goruchwylydd Warws wedi'i leoli yn ein warws, Unedau 2 a 3 Lambourne Crescent, Parc Busnes Caerdydd, Llanisien, Caerdydd, CF14 5GF.Mae tîm Cyd-Wasanaeth Offer y Cyngor yn rhoi offer i bobl yng Nghaerdydd a'r Fro. Rydym yn archebu, yn dosbarthu, yn casglu ac yn cynnal...